Cân 80
Rhinwedd Daioni
(Salm 119:66)
1. Llawn daioni yw Jehofa,
Ymhyfrydu ynddo wnawn.
Efelychwn ein Tad nefol
Ym mhob rhinwedd a phob dawn.
A ni’n dwyn cam pechod Adda,
Duw yn dyner sy’n ein trin,
Dangos mae ei fawr drugaredd.
Wrthym cariad Duw a lŷn.
2. Ar ei ddelw Duw a’n creodd.
Rhyngwn fodd ein nefol Dad
Wrth in feithrin ffrwythau’r ysbryd,
Pêr rinweddau llawn llesâd.
Aeddfed ddown mewn twf ysbrydol,
Adlewyrchwn ddoniau Duw.
Boed in ymbil am ddylanwad
’R ysbryd sanctaidd yn ein byw.
3. Rhown flaenoriaeth i ddaioni,
Carwn bawb o deulu’r ffydd.
Rhown ar waith y rhinwedd ddwyfol
Yng ngofalon byw bob dydd.
Boed in ymddwyn yn ddiduedd
Wrth in rannu’r bywiol Air.
Efelychwn ffordd ddaionus
Duw y newydd nef a dae’r.
(Gweler hefyd Salm 103:10; Marc 10:18; Gal. 5:22; Eff. 5:9.)