Cân 78
Goddefgarwch
1. Eiddigus yw Jehofa
O’i enw sanctaidd; clodfawr yw.
Dymuna adfer glendid
Ei fri yng ngolwg dynolryw.
Trwy gydol cenedlaethau
Yn ei ras ymatal wnaeth;
Dangosodd hiramynedd
At ddyn am gyfnod maith.
Mae’n cynnig gwaredigaeth
I bawb ddymuna agosáu.
Yn dirion a goddefgar
Datgelu in ei fwriad mae.
2. Allweddol yw amynedd,
Ffrwyth ysbryd Duw, rhinweddol rodd.
O’i feithrin yn y galon
Ei blesio wnawn a rhyngu’i fodd.
Mewn sgwrs â’n cyd-aelodau
Boed brawdgarwch yn ein bron.
Yma tal—ffrwyth daionus
Yw’r rhinwedd hyfryd hon.
 chymorth ysbryd sanctaidd
Jehofa, gwynfydedig Dduw,
Fe ddown yn debyg iddo.
Yn bur, goddefgar, boed ein byw.
(Gweler hefyd Ex. 34:14; Esei. 40:28; 1 Cor. 13:4, 7; 1 Tim. 2:4.)