LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • bm rhan 2 t. 5
  • Colli Paradwys

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Colli Paradwys
  • Y Beibl—Beth Yw Ei Neges?
  • Erthyglau Tebyg
  • Sut Roedd Bywyd ym Mharadwys?
    Gwrando ar Dduw a Byw am Byth
  • Bywyd yn Troi’n Anodd
    Storïau o’r Beibl
  • Gadael Gardd Eden
    Storïau o’r Beibl
  • Pam Mae Hanes Eden yn Bwysig i Chi
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa—2011
Y Beibl—Beth Yw Ei Neges?
bm rhan 2 t. 5
Efa yn cyffwrdd â’r ffrwyth gwaharddedig

RHAN 2

Colli Paradwys

Dan ddylanwad angel drwg mae Adda ac Efa yn dewis gwrthod awdurdod Duw. O ganlyniad i hyn, mae pechod a marwolaeth yn dod i’r byd

YMHELL cyn creu bodau dynol, fe greodd Duw lu o angylion. Gwrthryfelodd un o’r angylion hyn a wedi hynny fe gafodd ei adnabod fel Satan y Diafol. Yn Eden, ceisiodd yr angel hwn demtio Efa i fwyta ffrwyth yr unig goeden yr oedd Duw wedi dweud wrthyn nhw am beidio â bwyta ohoni.

Gan ddefnyddio sarff i lefaru drosto, awgrymodd Satan fod Duw yn cadw rhywbeth da oddi wrth Adda ac Efa. Dywedodd yr angel wrth Efa na fyddai hi na’i gŵr yn marw petaen nhw’n bwyta o’r ffrwyth hwnnw. Trwy ddweud hyn, fe wnaeth Satan gyhuddo Duw o ddweud celwydd wrth ei blant dynol. Yn ôl y Twyllwr, byddai anufuddhau i Dduw yn arwain at oleuedigaeth a rhyddid. Ond, celwydd i gyd oedd hyn—y celwydd cyntaf a ddywedwyd erioed ar y ddaear. Mae’r ddadl hon yn ymwneud â sofraniaeth Duw. Y cwestiynau oedd: Oes gan Dduw’r hawl i lywodraethu? Hefyd, a yw’n defnyddio ei awdurdod mewn modd cyfiawn ac er lles ei bobl?

Roedd Efa yn credu celwydd Satan. Roedd y ffrwyth yn ei denu hi, ac fe wnaeth hi fwyta ychydig ohono. Yn nes ymlaen, rhoddodd Efa’r ffrwyth i’w gŵr, a bwytaodd ef hefyd. Roedden nhw bellach yn bechaduriaid. Er bod eu dewis yn ymddangos yn beth bach, roedd yn weithred wrthryfelgar. Trwy ddewis anufuddhau yn fwriadol i orchymyn Duw, gwrthododd Adda ac Efa dderbyn awdurdod y Creawdwr a oedd wedi rhoi popeth iddyn nhw gan gynnwys eu bywydau perffaith.

Bydd yr had “yn ysigo dy ben di, a thithau’n ysigo’i sawdl ef.”—Genesis 3:15

Fe wnaeth Duw ddedfrydu’r gwrthryfelwyr i farwolaeth oherwydd eu gweithredoedd. Fe addawodd y byddai Had, neu Waredwr yn dod, a fyddai’n dinistrio Satan, yr un a oedd wedi siarad drwy’r sarff. Er mwyn dangos trugaredd i’r plant a oedd heb eu geni, ni wnaeth Duw ddienyddio Adda ac Efa yn syth. Byddai Duw yn anfon rhywun i ddadwneud canlyniadau’r gwrthryfel yn Eden ac oherwydd hynny roedd gobaith i’r plant. Byddai mwy o fanylion am y Gwaredwr yn cael ei ddatgelu wrth i fwy o’r Beibl gael ei ysgrifennu.

Gyrrodd Duw Adda ac Efa allan o Baradwys. Bellach, roedden nhw’n gorfod crafu bywoliaeth o’r pridd y tu allan i ardd Eden. Aeth Efa’n feichiog a chafodd Cain ei eni, plentyn cyntaf Adda ac Efa. Cawson nhw feibion a merched eraill, gan gynnwys Abel a Seth, a oedd yn gyndad i Noa.

​—Yn seiliedig ar Genesis penodau 3-5; Datguddiad 12:9.

  • Pwy ddywedodd y celwydd cyntaf a beth oedd y celwydd hwnnw?

  • Sut collodd Adda ac Efa Baradwys?

  • Pan gafodd y gwrthryfelwyr eu dedfrydu i farwolaeth, pa obaith a gynigiodd Duw?

AMHERFFEITHRWYDD A MARWOLAETH

Creodd Duw Adda ac Efa yn berffaith, gyda’r gobaith o fyw am byth ym Mharadwys. Pan wrthryfelon nhw yn erbyn Duw, fe wnaethon nhw bechu. Trwy hynny, collodd Adda ac Efa berffeithrwydd a thorri eu perthynas gyda Jehofa, Ffynnon bywyd. O hynny ymlaen, doedd dim modd iddyn nhw na’u disgynyddion amherffaith osgoi pechod nac, yn y pen draw, farwolaeth.—Rhufeiniaid 5:12.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu