LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • bm rhan 7 t. 10
  • Duw yn Rhyddhau Meibion Israel

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Duw yn Rhyddhau Meibion Israel
  • Y Beibl—Beth Yw Ei Neges?
  • Erthyglau Tebyg
  • Gerbron Pharo
    Storïau o’r Beibl
Y Beibl—Beth Yw Ei Neges?
bm rhan 7 t. 10
Moses yn dal y ddwy lech garreg â’r Deg Gorchymyn arnyn nhw

RHAN 7

Duw yn Rhyddhau Meibion Israel

Jehofa yn taro’r Aifft â phlâu a Moses yn arwain meibion Israel allan o’r wlad. Duw yn rhoi’r Gyfraith i Israel drwy Moses

AM FLYNYDDOEDD lawer, roedd meibion Israel yn byw yn yr Aifft ac yn ffynnu. Fodd bynnag, daeth Pharo newydd i’r orsedd ond nid oedd yn adnabod Joseff. Roedd gweld yr Israeliaid yn amlhau yn codi ofn ar Pharo. Gorfododd i’r Israeliaid weithio fel caethweision a gorchmynnodd i bob mab newydd-anedig gael ei foddi yn Afon Neil. Ond, cuddiodd un fam ddewr ei mab mewn basged yng nghanol yr hesg. Daeth merch Pharo o hyd i’r babi a’i alw’n Moses a’i fagu ar aelwyd teulu brenhinol yr Aifft.

Pan oedd Moses yn 40 oed, aeth i helynt ar ôl iddo amddiffyn un o’r Israeliaid rhag cael ei guro gan un o’r Eifftiaid. Fe wnaeth Moses ffoi a byw fel alltud mewn gwlad bell. Pan oedd Moses yn 80 oed, fe’i hanfonwyd yn ôl i’r Aifft gan Jehofa i ymddangos gerbron Pharo a gofyn iddo ryddhau pobl Dduw.

Gwrthododd Pharo yn llwyr. Felly, gwnaeth Duw daro’r Aifft â deg pla. Rhoddodd Moses bob cyfle i Pharo osgoi’r plâu, ond roedd Pharo bob amser yn dirmygu Moses a’i Dduw Jehofa. Yn y pen draw, lladdodd y degfed pla bob cyntaf-anedig yn y wlad—heblaw am feibion cyntaf-anedig y teuluoedd a wrandawodd ar Jehofa gan roi gwaed oen ar byst y drws. Fe aeth angel Duw heibio i’r tai hynny. Ar ôl hynny, roedd yr Israeliaid yn coffáu eu gwaredigaeth drwy ddathlu gŵyl y Pasg bob blwyddyn.

Ar ôl iddo golli ei fab cyntaf-anedig ei hun, fe orchmynnodd Pharo i Moses a’r Israeliaid adael yr Aifft. Gadawon nhw i gyd ar unwaith. Ond newidiodd Pharo ei feddwl. Aeth ar eu holau nhw gyda llu o filwyr a cherbydau. Roedd yn ymddangos bod yr Israeliaid wedi cael eu dal ar lan y Môr Coch. Gwahanodd Jehofa y dyfroedd, gan adael i’r Israeliaid gerdded ar wely sych y môr rhwng waliau o ddŵr! Pan ruthrodd yr Eifftiaid ar eu holau, gadawodd Duw i’r dyfroedd lifo yn ôl dros Pharo a’i fyddin a boddi pob un ohonyn nhw.

Yn ddiweddarach, tra gwersyllai’r Israeliaid wrth ymyl Mynydd Sinai, fe wnaeth Jehofa gyfamod â nhw. Yn defnyddio Moses fel cyfryngwr, rhoddodd Duw gyfreithiau i’r Israeliaid i’w gwarchod a’u rhoi ar ben ffordd. Cyn belled â bod yr Israeliaid yn derbyn awdurdod Duw, byddai Jehofa gyda nhw, a thrwyddyn nhw y byddai eraill yn cael eu bendithio.

Fodd bynnag, roedd diffyg ffydd y rhan fwyaf o’r Israeliaid yn siomi Duw. Cawson nhw eu gorfodi gan Jehofa i grwydro’r anialwch am 40 o flynyddoedd. Yna, fe wnaeth Moses benodi Josua yn olynydd iddo. Yn y pen draw, roedd yr Israeliaid yn barod i fynd i mewn i’r wlad yr addawodd Duw i Abraham.

​—Yn seiliedig ar Exodus; Lefiticus; Numeri; Deuteronomium; Salm 136:10-15; Actau 7:17-36.

  • Sut cafodd Moses ei ddefnyddio gan Dduw i achub yr Israeliaid?

  • Pam roedd yr Israeliaid yn dathlu’r Pasg?

  • Sut gwnaeth Jehofa ryddhau’r Israeliaid o’u caethwasiaeth yn yr Aifft?

Y GORCHYMYN PWYSICAF

Y Deg Gorchymyn yw’r mwyaf adnabyddus o blith yr holl ddeddfau—tua 600 i gyd—a roddwyd i Moses ac fe’u cofnodwyd yn Exodus 20:1-17. Er hynny, pan ofynnwyd i Iesu pa un o holl orchmynion Duw yw’r pwysicaf, fe atebodd: ‘Câr yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon ac â’th holl enaid ac â’th holl feddwl ac â’th holl nerth.’—Marc 12:28-30; Deuteronomium 6:5.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu