LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • bm rhan 8 t. 11
  • Pobl Israel yn Mynd i Mewn i Ganaan

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Pobl Israel yn Mynd i Mewn i Ganaan
  • Y Beibl—Beth Yw Ei Neges?
  • Erthyglau Tebyg
  • Cuddio Ysbïwyr
    Storïau o’r Beibl
  • Rhoddodd Rahab Ffydd yn Jehofa
    Dysgu Eich Plant
Y Beibl—Beth Yw Ei Neges?
bm rhan 8 t. 11
Rhyfelgri Josua a’r offeiriaid yn canu’r corn hwrdd

RHAN 8

Pobl Israel yn Mynd i Mewn i Ganaan

Josua yn arwain Israel i oresgyn Canaan. Jehofa yn galluogi’r barnwyr i waredu ei bobl rhag gormes

GANRIFOEDD cyn i Israel fynd i mewn i Ganaan, roedd Jehofa wedi addo’r wlad i ddisgynyddion Abraham. Nawr, o dan arweiniad Josua, roedd yr Israeliaid ar fin meddiannu Gwlad yr Addewid.

Barnodd Duw fod y Canaaneaid yn haeddu cael eu dinistrio. Roedd anfoesoldeb rhywiol ffiaidd a thywallt gwaed wedi mynd yn rhemp drwy’r wlad i gyd. Felly, roedd yn rhaid i ddinasoedd Canaan gael eu dinistrio’n llwyr.

Cyn mynd i mewn i’r wlad, anfonodd Josua ddau ysbïwr i Jericho. Arhoson nhw gyda dynes o’r enw Rahab. Er eu bod nhw’n Israeliaid, fe gawson nhw loches yn ei chartref. Roedd gan Rahab ffydd yn Nuw’r Israeliaid oherwydd ei bod hi wedi clywed am hanes Jehofa yn achub ei bobl. Gofynnodd Rahab i’r ysbïwyr addo na fyddai hi na’i theulu yn cael eu lladd.

Yn nes ymlaen, pan aeth yr Israeliaid i mewn i Ganaan a rhoi Jericho dan warchae, achosodd Jehofa i waliau’r ddinas ddymchwel. Rhuthrodd byddin Josua i mewn a dinistrio’r ddinas, ond cafodd Rahab a’i theulu eu harbed. Ar ôl tua chwe blynedd o ymgyrchu, roedd Josua wedi goresgyn rhannau helaeth o Wlad yr Addewid. Wedi hynny, cafodd y tir ei rannu rhwng llwythau Israel.

Map o Ganaan[Map ar dudalen 11]

Ar ddiwedd oes o wasanaeth i Dduw, casglodd Josua’r bobl ynghyd. Adroddodd Josua hanes Jehofa yn delio gyda’u cyndadau ac anogodd y bobl i wasanaethu Jehofa. Ond, ar ôl i Josua a’i gyd-henuriaid farw, cefnodd yr Israeliaid ar Jehofa a throi at gau dduwiau. Dros y tair canrif nesaf, digon simsan oedd eu hufudd-dod i gyfreithiau Jehofa. Ond, pan ofynnodd yr Israeliaid i Jehofa am gymorth, fe anfonodd farnwyr—12 i gyd—i’w hachub.

Mae Llyfr y Barnwyr yn disgrifio cyfnod y Barnwyr a ddechreuodd gydag Othniel ac a orffennodd gyda Samson, y dyn cryfaf a fu erioed. Dro ar ôl tro, mae Llyfr y Barnwyr yn tanlinellu un gwirionedd sylfaenol: Mae ufudd-dod i Jehofa yn dod â bendithion, ond mae anufudd-dod yn arwain at drychineb.

​—Yn seiliedig ar Josua; Barnwyr; Lefiticus 18:24, 25.

  • Pam gwnaeth Jehofa arbed Rahab a’i theulu?

  • Beth wnaeth yr Israeliaid ar ôl marwolaeth Josua?

  • Pa wirionedd sylfaenol sydd i’w weld yn Llyfr y Barnwyr?

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu