LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • bm rhan 11 t. 14
  • Caneuon Ysbrydoledig Sy’n Cysuro ac yn Dysgu

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Caneuon Ysbrydoledig Sy’n Cysuro ac yn Dysgu
  • Y Beibl—Beth Yw Ei Neges?
Y Beibl—Beth Yw Ei Neges?
bm rhan 11 t. 14
Dafydd yn chwarae’r delyn ac yn canu

RHAN 11

Caneuon Ysbrydoledig Sy’n Cysuro ac yn Dysgu

Dafydd ac eraill yn cyfansoddi caneuon ar gyfer addoli. Mae llyfr y Salmau yn cynnwys geiriau 150 o’r caneuon hyn

CASGLIAD o ganeuon cysegredig yw llyfr mwyaf y Beibl. Cymerodd tua mil o flynyddoedd i roi’r llyfr cyfan at ei gilydd. Yn y Salmau, fe geir caneuon ffydd sydd gyda’r mwyaf dwys a ysgrifennwyd erioed. Mae’r Salmau yn mynegi pob math o emosiynau dynol gan gynnwys llawenydd, moliant, diolchgarwch, galar, tristwch, ac edifeirwch. Roedd gan y Salmwyr berthynas glòs â Duw. Ystyriwch rai o’r themâu sydd i’w cael yn y gweithiau telynegol hyn.

Jehofa yw’r gwir Benarglwydd, yn deilwng o gael ei addoli a’i glodfori. Dywed Salm 83:18: “Tydi, yr hwn yn unig wyt JEHOFAH wrth dy enw, wyt Oruchaf ar yr holl ddaear.” (Y Beibl Cysegr-lân) Mae nifer o’r Salmau yn canmol Jehofa am iddo greu sêr y nefoedd, rhyfeddodau bywyd ar y ddaear a’r corff dynol. (Salm 8, 19, 139, 148) Mae rhai’n gogoneddu Jehofa am achub ac amddiffyn y rhai sy’n deyrngar iddo. (Salm 18, 97, 138) Mae eraill yn ei fawrygu am fod yn Dduw cyfiawn sy’n cysuro’r rhai dan orthrwm ac yn cosbi’r drygionus.—Salm 11, 68, 146.

Jehofa yn helpu ac yn cysuro’r rhai sydd yn ei garu. Y salm enwocaf, mae’n debyg, yw Salm 23, lle mae Dafydd yn disgrifio Jehofa fel Bugail llawn cariad sydd yn arwain, yn gwarchod, ac yn edrych ar ôl ei ddefaid. Mae Salm 65:2 yn atgoffa gweision Duw fod Jehofa yn “gwrando gweddi.” Mae llawer sydd wedi pechu’n ddifrifol wedi cael cysur mawr o ddarllen Salmau 39 a 51, lle mae Dafydd, ar ôl iddo bechu, yn mynegi ei edifeirwch a’i ffydd ym maddeuant Jehofa. Mae Salm 55:22 yn ein hannog ni i ymddiried yn Jehofa ac i bwyso’n llwyr arno.

Drwy Deyrnas y Meseia, bydd Jehofa yn newid y byd. Mae nifer o’r Salmau yn cyfeirio at y Meseia, y Brenin addawedig. Mae Salm 2 yn proffwydo y bydd y Meseia’n dinistrio’r cenhedloedd drwg sydd yn ei wrthwynebu. Mae Salm 72 yn dangos bod y Brenin hwn yn mynd i roi terfyn ar newyn, anghyfiawnder, a gorthrymder. Yn ôl Salm 46:9, bydd Duw, drwy Deyrnas y Meseia, yn rhoi terfyn ar ryfel ac yn cael gwared ar arfau rhyfel i gyd. Yn Salm 37, rydyn ni’n darllen y bydd y drygionus yn cael eu difa a bydd y cyfiawn yn byw mewn heddwch ar y ddaear am byth.

​—Yn seiliedig ar lyfr y Salmau.

  • Sut mae’r Salmau’n dangos bod brenhiniaeth Jehofa yn iawn?

  • Pa Salmau sy’n dangos y ffordd mae Duw yn helpu ac yn cysuro’r rhai sydd yn ei garu?

  • Yn ôl y Salmau, sut bydd Jehofa yn newid y byd?

CÂN Y CANIADAU

Mae Caniad Solomon yn dangos nad yw hyd yn oed cyfoeth brenin bob amser yn ddigon i ennill calon merch. Mae’r llyfr yn cynnwys hanes ymdrech Solomon i ddenu merch brydferth a oedd eisoes mewn cariad â llanc o fugail. Mae’r ferch a’i chariad yn dangos hunan-ddisgyblaeth, purdeb, a ffyddlondeb. Mae’r gân ysbrydoledig hon yn dangos bod pobl yn medru ymddwyn yn weddus hyd yn oed pan fydd ganddyn nhw deimladau rhywiol cryf tuag at ei gilydd.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu