RHAN 12
Sut Gallwch Chi Gael Bywyd Teuluol Hapus?
Mae cariad yn hanfodol i fywyd teuluol hapus. Effesiaid 5:33
Dylai priodas fod rhwng un gŵr ac un wraig yn ôl safon Duw.
Mae gŵr cariadus yn trin ei wraig yn dyner, gyda chydymdeimlad.
Dylai’r wraig gydweithio â’i gŵr.
Dylai plant ufuddhau i’w rhieni.
Byddwch yn garedig ac yn ffyddlon, nid yn greulon ac yn anffyddlon. Colosiaid 3:5, 8-10
Mae Gair Duw yn dweud y dylai’r gŵr garu ei wraig fel ef ei hun, ac y dylai’r wraig ddangos parch dwfn at ei gŵr.
Mae cael rhyw y tu allan i’r briodas yn anghywir. Mae ffyddlondeb i’ch cymar priodasol yn bwysig.
Mae Gair Jehofah yn dysgu teuluoedd sut i fod yn hapus.