PENNOD 25
Sut Galla’ i Ennill y Frwydr yn Erbyn Mastyrbio?
“Dechreuais fastyrbio pan oeddwn i’n wyth oed. Yn nes ymlaen, dysgais sut roedd Duw yn teimlo am y peth. Bob tro imi ildio wedyn, roeddwn i’n teimlo’n ofnadwy, a gofyn ‘Sut gall Duw garu rhywun fel fi?’”—Luiz.
WRTH iti gyrraedd dy arddegau, mae teimladau rhywiol yn cryfhau. O ganlyniad, efallai y byddi di’n dechrau mastyrbio.a Mae llawer yn meddwl nad yw hyn yn broblem ac yn dweud “Dydy hi ddim yn gwneud drwg i neb.” Ond mae rheswm da inni osgoi’r arfer hwn. Ysgrifennodd yr apostol Paul, “Felly lladdwch y pethau drwg, daearol sydd ynoch chi,” gan gynnwys “pob chwant.” (Colosiaid 3:5) Yn hytrach na lladd chwantau rhywiol, mae mastyrbio yn eu cynyddu. Hefyd, ystyria’r canlynol:
● Mae mastyrbio yn gwneud rhywun yn fwy hunanol. Er enghraifft, mae rhywun sy’n mastyrbio’n canolbwyntio’n llwyr ar ei bleser ei hun.
● Mae mastyrbio’n gwneud i rywun edrych ar bobl o’r rhyw arall fel dim mwy na gwrthrychau i fodloni ei chwantau rhywiol ei hun.
● Gall mastyrbio a’r meddylfryd hunanol y mae’r arfer yn ei feithrin, ei gwneud hi’n anodd i rywun gael perthynas rywiol iach wedyn mewn priodas.
Yn lle rhoi i mewn i’ch teimladau rhywiol a mastyrbio, ceisia reoli’r chwant. (1 Thesaloniaid 4:4, 5) I wneud hynny yn haws, mae’r Beibl yn awgrymu iti osgoi sefyllfaoedd a allai gyffroi teimladau rhywiol yn y lle cyntaf. (Diarhebion 5:8, 9) Ond beth os wyt ti wedi mynd yn gaeth i’r arfer o fastyrbio. Efallai dy fod ti wedi ceisio stopio, ond heb lwyddo. Byddai’n hawdd meddwl na fyddi di byth yn gallu newid a byw yn ôl safonau Duw. Dyna’n union sut roedd bachgen o’r enw Pedro’n teimlo. “Pan o’n i’n baglu, ro’n i’n teimlo’n ofnadwy,” meddai. “Ro’n i’n meddwl na fyddai Duw byth yn maddau imi, ac roedd hi’n anodd gweddïo.”
Os dyna sut rwyt ti’n teimlo, paid ag anobeithio. Mae llawer o bobl ifanc—ac oedolion—wedi ennill y frwydr yn erbyn mastyrbio. Gelli di lwyddo hefyd!
Ymdopi â Theimladau o Euogrwydd
Yn aml, bydd y rhai sydd wedi mynd yn gaeth i fastyrbio yn teimlo’n euog iawn. Ond mae’r teimladau trist hyn yn gallu bod yn sbardun iti roi’r gorau i’r arfer. (2 Corinthiaid 7:11) Ond gall gormod o euogrwydd weithio’r ffordd arall hefyd, a gwneud iti deimlo mor ddigalon nes dy fod ti eisiau rhoi’r gorau i’r frwydr yn gyfan gwbl.—Diarhebion 24:10.
Felly, pa mor ddifrifol yw hyn? Mae mastyrbio yn arfer aflan. Gall wneud iti fod yn “gaeth i bob math o chwantau a phleserau,” ac mae’n meithrin agweddau hunanol. (Titus 3:3) Sut bynnag, nid anfoesoldeb rhywiol difrifol yw mastyrbio. (Jwdas 7) Os ydy mastyrbio’n broblem, ddylet ti ddim meddwl na fydd Jehofa yn dy faddau. Y peth gorau iti ei wneud yw osgoi’r temtasiwn yn y lle cyntaf, a pheidio â rhoi’r gorau i’r frwydr!
Peth hawdd yw teimlo’n ddigalon ar ôl baglu. Ond mae cysur i’w gael yng ngeiriau Diarhebion 24:16: “Gelli faglu pobl dda dro ar ôl tro, ond byddan nhw’n codi ar eu traed; tra mae un anffawd yn ddigon i fwrw pobl ddrwg i lawr.” Os bydd hyn yn digwydd, nid yw’n golygu dy fod ti’n berson drwg. Felly paid â digalonni. Yn hytrach, edrycha i weld beth sydd wedi gwneud iti faglu yn y lle cyntaf, a cheisia osgoi gwneud yr un peth eto.
Cymera amser i feddwl am gariad a thrugaredd Duw. Roedd y Brenin Dafydd wedi pechu oherwydd gwendid personol ac felly roedd yn siarad o’i brofiad personol pan ddywedodd: “Fel mae tad yn caru ei blant, mae’r ARGLWYDD yn caru’r rhai sy’n ei barchu. Ydy, mae e’n gwybod am ein defnydd ni; mae’n cofio mai dim ond pridd ydyn ni.” (Salm 103:13, 14) Yn wir, mae Jehofa yn gwybod ein bod ni’n amherffaith ac mae’n barod i faddau. (Salm 86:5) Ond ar y llaw arall, y mae’n dymuno inni wneud ymdrech i wella. Felly pa gamau ymarferol gelli di eu cymryd er mwyn ennill y frwydr?
Meddwl yn ofalus am dy adloniant. Wyt ti’n gwylio ffilmiau neu raglenni teledu, neu’n edrych ar wefannau sy’n cynhyrfu teimladau rhywiol? Roedd y Salmydd yn ddoeth, pan weddïodd ar Dduw: “Cadw fi rhag edrych ar bethau diwerth!”—Salm 119:37.
Cadw dy feddwl ar bethau eraill. Mae Cristion o’r enw William yn rhoi’r cyngor: “Cyn mynd i’r gwely, peth da yw darllen rhywbeth ysbrydol. Mae gorffen y diwrnod gyda meddyliau ysbrydol yn bwysig iawn.”—Philipiaid 4:8.
Siarad â rhywun arall am y broblem. Efallai bydd cywilydd yn gwneud iti deimlo’n rhy swil i siarad â rhywun arall am dy broblem. Ond gall hyn dy helpu di i ennill y frwydr. Dyna ddigwyddodd i Gristion o’r enw David. “Siaradais â fy nhad yn breifat am y peth,” meddai. “Wna i byth anghofio beth ddywedodd. Gyda gwên garedig ar ei wyneb, dywedodd, ‘Dw i mor browd ohonot ti.’ Roedd yn gwybod pa mor anodd oedd imi fynd ato i siarad am y peth. Roedd ei eiriau yn codi fy nghalon gwneud imi deimlo’n fwy penderfynol byth.
“Dangosodd fy nhad ychydig o adnodau imi er mwyn fy helpu i weld nad oeddwn i’n berson drwg, ond hefyd imi ddeall pa mor ddifrifol oedd fy ymddygiad. Dywedodd wrtho i am ‘gadw’r llechen yn lân’ tan ryw amser penodol, ac yna bydden ni’n siarad am y peth eto. Dywedodd wrtho i am beidio â digalonni petawn i’n baglu, ond i geisio mynd am gyfnod hirach bob tro heb roi i mewn. Sut roedd hyn yn helpu? Dywed David: “Roedd cael rhywun arall oedd yn gwybod am y broblem ac yn gallu fy helpu yn werthfawr iawn.”
[Troednodyn]
a Mastyrbio yw rhwbio dy organau rhywiol dy hun, er mwyn cael pleser rhywiol.
ADNOD ALLWEDDOL
“Rhaid i ti ddianc rhag chwantau gwamal ieuenctid. Dylet ti wneud dy orau i fyw yn iawn. Bydd yn ffyddlon i Dduw, ac yn llawn o’i gariad a’i heddwch. Dyma sut mae’r rhai sy’n cyffesu enw’r Arglwydd o gymhellion pur yn ymddwyn.”—2 Timotheus 2:22.
AWGRYM
Gweddïa cyn i chwantau rhywiol gryfhau. Gofynna i Jehofa Dduw roi “grym anhygoel” i ti er mwyn gwrthod temtasiwn.—2 Corinthiaid 4:7.
OEDDET TI’N GWYBOD . .
Mae person gwan yn dilyn ei chwantau rhywiol, ond mae person cryf yn eu rheoli, hyd yn oed yng nghwmni ei hun.
FY NGHYNLLUN I
Bydda i’n cadw fy meddwl ar bethau glân os ydw i’n ․․․․․
Yn lle cael fy rheoli gan fy chwant, bydda i yn ․․․․․
Y pethau rydw i eisiau gofyn i fy rhieni amdanyn nhw ynglŷn â’r pwnc ․․․․․
BETH YW DY FARN DI?
● Pam mae’n bwysig inni gofio bod Jehofa yn barod i faddau?—Salm 86:5.
● Gan mai Duw a greodd teimladau rhywiol, a gan mai ef a ddywedodd y dylen ni gael hunanreolaeth, pa hyder sydd ganddo ynon ni?
[Broliant]
Ers imi drechu’r broblem, mae gen i gydwybod lân o flaen Jehofa, a fyddwn i ddim am golli hynny am bris yn y byd!”—Sarah
[Llun]
Os bydd rhedwr yn cwympo, nid yw hynny yn golygu bod rhaid iddo fynd yn ôl i’r cychwyn. Yn yr un modd, dydy llithro’n ôl i fastyrbio ddim yn golygu eich bod chi wedi colli’r frwydr