LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • fg gwers 10 cwes. 1-4
  • Sut Gallwch Chi Wybod Pa Grefydd Sy’n Iawn?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Sut Gallwch Chi Wybod Pa Grefydd Sy’n Iawn?
  • Newyddion Da Oddi Wrth Dduw!
  • Erthyglau Tebyg
  • Addoliad y Mae Duw yn ei Gymeradwyo
    Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?
  • Sut Medrwch Chi Ganfod y Wir Grefydd?
    Beth Mae Duw yn ei Ofyn Gennym Ni?
  • Y Ffordd Gywir o Addoli Duw
    Beth Allwn Ni ei Ddysgu o’r Beibl?
  • Sut Galla i Gael Hyd i’r Wir Grefydd?
    Atebion i Gwestiynau am y Beibl
Gweld Mwy
Newyddion Da Oddi Wrth Dduw!
fg gwers 10 cwes. 1-4

GWERS 10

Sut Gallwch Chi Wybod Pa Grefydd Sy’n Iawn?

1. Ai dim ond un wir grefydd sydd?

Iesu yn pregethu

“Gochelwch rhag gau broffwydi.”—MATHEW 7:15.

Dim ond un grefydd yr oedd Iesu’n ei dysgu i’w ddisgyblion, sef y wir grefydd. Mae hi’n debyg i ffordd sy’n arwain at fywyd tragwyddol. Dywedodd Iesu am y ffordd honno: “Ychydig yw’r sawl sy’n ei chael.” (Mathew 7:14) Dim ond crefydd sy’n seiliedig ar ei Air y Beibl sy’n dderbyniol gan Dduw. Un ffydd sydd yn uno gwir addolwyr Duw.​—Darllenwch Ioan 4:23, 24; 14:6; Effesiaid 4:4, 5.

Gwyliwch y fideo Ydy Duw yn Derbyn Addoliad o Bob Math?

2. Beth ddywedodd Iesu ynglŷn â gau Gristnogion?

Arweinydd crefyddol yn siarad mewn eglwys, ac yna’n bendithio milwyr.

“Y maent yn proffesu eu bod yn adnabod Duw, ond ei wadu y maent â’u gweithredoedd.”—TITUS 1:16.

Rhybuddiodd Iesu y byddai gau broffwydi’n llygru Cristnogaeth. Ar y tu allan, maen nhw i’w gweld yn debyg iawn i wir addolwyr. Mae eu heglwysi’n honni eu bod nhw’n dilyn Crist. Ond, fe allwch chi wahaniaethu rhwng y gwir a’r gau. Sut felly? Oherwydd gwir addoliad yn unig sy’n creu gwir Gristnogion sy’n meddu ar nodweddion a rhinweddau hawdd eu hadnabod.​—Darllenwch Mathew 7:13-23.

3. Sut gallwch chi adnabod gwir addolwyr Duw?

Ystyriwch y pum nod adnabod canlynol:

  • Mae gwir addolwyr yn credu mai Gair Duw yw’r Beibl. Maen nhw’n ceisio byw yn unol â’i egwyddorion. Felly, mae gwir grefydd yn wahanol i grefydd sy’n seiliedig ar syniadau dynol. (Mathew 15:7-9) Nid yw gwir addolwyr yn pregethu un peth ac yn gwneud rhywbeth arall.​—Darllenwch Ioan 17:17; 2 Timotheus 3:16, 17.

  • Cristion yn rhoi anerchiad Beiblaidd, ac yna’n pregethu am Deyrnas Dduw, yn helpu allan ar ôl trychineb, yn gofalu am bobl mewn oed.

    Mae gwir ddilynwyr Iesu’n parchu enw Duw, Jehofah. Fe wnaeth Iesu barchu enw Duw drwy ei wneud yn hysbys. Helpodd pobl i adnabod Duw a dysgodd iddyn nhw weddïo am i enw Duw gael ei sancteiddio. (Mathew 6:9) Yn eich ardal chi, pa grefydd sy’n gwneud enw Duw’n hysbys?​—Darllenwch Ioan 17:26; Rhufeiniaid 10:13, 14.

  • Mae gwir Gristnogion yn pregethu am Deyrnas Dduw. Anfonodd Duw ei fab, Iesu, i bregethu’r newyddion da am y Deyrnas. Teyrnas Dduw yw’r unig obaith ar gyfer dynolryw. Daliodd Iesu ati i siarad am y Deyrnas hyd at ei farwolaeth. (Luc 4:43; 8:1; Ioan 18:36) Dywedodd y byddai ei ddilynwyr yn pregethu am y Deyrnas. Pe bai rhywun yn dod atoch chi ac yn siarad am Deyrnas Dduw, i ba grefydd y byddai’n perthyn, dybiwch chi?​—Darllenwch Mathew 24:14.

  • Nid yw dilynwyr Iesu’n rhan o’r byd drwg hwn. Gallwch eu hadnabod oherwydd nad ydyn nhw’n ymhél â gwleidyddiaeth y byd, nac unrhyw wrthdaro cymdeithasol. (Ioan 17:16; 18:36) Hefyd, dydyn nhw ddim yn efelychu agweddau ac arferion niweidiol y byd.​—Darllenwch Iago 4:4.

  • Mae gan wir Gristnogion gariad mawr tuag at ei gilydd. Mae Gair Duw yn dysgu Cristnogion i barchu pobl o bob cenedl. Mae gau grefyddau’n aml wedi cefnogi rhyfeloedd y byd yn frwd, ond mae gwir addolwyr yn gwrthod gwneud hynny. (Micha 4:1-3) Mae gwir Gristnogion yn defnyddio eu hamser a’u hadnoddau i helpu ac i galonogi pobl eraill.​—Darllenwch Ioan 13:34, 35; 1 Ioan 4:20.

4. Ydych chi’n gallu dweud pa un yw’r wir grefydd?

Pa grefydd sy’n seilio ei dysgeidiaeth i gyd ar Air Duw? Pa grefydd sy’n anrhydeddu enw Duw, ac yn cyhoeddi’r Deyrnas fel unig obaith y ddynoliaeth? Pa grŵp sy’n dangos cariad ac yn gwrthod cymryd rhan mewn rhyfeloedd? Beth yw eich barn chi?​—Darllenwch 1 Ioan 3:10-12.

Am fwy o wybodaeth, gweler pennod 15 yn y llyfr Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu