LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • yc gwers 7 tt. 16-17
  • Wyt Ti’n Teimlo’n Ofnus ac yn Unig Weithiau?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Wyt Ti’n Teimlo’n Ofnus ac yn Unig Weithiau?
  • Dysgu Eich Plant
  • Erthyglau Tebyg
  • Daliodd Ati Hyd y Diwedd
    Efelychu Eu Ffydd
  • Dibynna ar Jehofa Pan Fyddi Di o Dan Straen
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2019
Dysgu Eich Plant
yc gwers 7 tt. 16-17
Bachgen bach yn teimlo’n ofnus ac yn unig

GWERS 7

Wyt Ti’n Teimlo’n Ofnus ac yn Unig Weithiau?

Edrycha ar y bachgen bach yn y llun. Ydy’r bachgen yn edrych yn unig ac yn ofnus i ti? Wyt ti erioed wedi teimlo fel hynny?— Mae pawb yn teimlo fel yna weithiau. Mae’r Beibl yn sôn am ffrindiau Jehofa a oedd yn teimlo yn ofnus ac yn unig. Un ohonyn nhw oedd Elias. Gad i ni ddysgu amdano.

Y Frenhines flin Jesebel yn gweiddi

Roedd Jesebel eisiau lladd Elias

Amser maith yn ôl, roedd Elias yn byw yn Israel. Roedd hyn cyn i Iesu gael ei eni. Nid oedd Ahab, brenin Israel, yn addoli’r gwir Dduw Jehofa. Roedd Ahab a’i wraig, Jesebel, yn addoli’r gau dduw Baal. Felly, dechreuodd y rhan fwyaf o bobl Israel hefyd addoli Baal. Roedd y frenhines Jesebel yn gas iawn. Roedd hi eisiau lladd pawb oedd yn addoli Jehofa, gan gynnwys Elias! Wyt ti’n gwybod beth wnaeth Elias?—

Rhedodd Elias i ffwrdd! Rhedodd i’r anialwch a chuddio mewn ogof. Pam y gwnaeth hyn tybed?— Ie, roedd ofn arno. Ond nid oedd angen i Elias fod yn ofnus. Pam? Oherwydd ei fod yn gwybod bod Jehofa yn gallu ei helpu. Roedd Jehofa wedi dangos ei nerth i Elias o’r blaen. Ar un adeg, atebodd Jehofa weddi Elias drwy anfon tân o’r nefoedd. Felly, roedd Jehofa yn amlwg yn gallu helpu Elias nawr!

Jehofa yn ateb gweddi Elias drwy anfon tân o’r nef; Elias mewn ogof; Elias yn hapus ar ôl clywed geiriau calonogol gan Jehofa

Sut gwnaeth Jehofa helpu Elias?

Tra oedd Elias yn yr ogof, siaradodd Jehofa ag ef a gofynnodd iddo: ‘Beth rwyt ti’n ei wneud yma?’ Atebodd Elias: ‘Fi yw’r unig un sy’n dal i’th addoli di, a dw i’n teimlo’n ofnus oherwydd bod pobl yn ceisio fy lladd.’ Roedd Elias yn meddwl bod gweddill addolwyr Jehofa wedi cael eu lladd. Ond dywedodd Jehofa wrth Elias: ‘Na, dydy hynny ddim yn wir. Mae 7,000 o bobl yn fy addoli. Bydda’n ddewr. Mae gen i chwaneg o waith i ti ei wneud!’ Wyt ti’n meddwl roedd Elias yn hapus i glywed hynny?—

Beth gelli di ei ddysgu oddi wrth hanes Elias?— Nid oes angen iti deimlo’n unig nac yn ofnus. Mae gennyt ti ffrindiau sy’n caru Jehofa ac sy’n dy garu di hefyd. Ar ben hynny, mae gan Jehofa lawer o nerth, ac mae bob amser yn barod i’th helpu! Wyt ti’n hapus o wybod nad wyt ti byth ar dy ben dy hun?—

DARLLENA YN DY FEIBL

  • 1 Brenhinoedd 19:3-18

  • Salm 145:18

  • 1 Pedr 5:9

CWESTIYNAU:

  • Yn adeg Elias, a oedd y mwyafrif o bobl Israel yn addoli Jehofa? Pwy roedden nhw’n ei addoli?

  • Pam rhedodd Elias i ffwrdd a chuddio yn yr ogof?

  • Beth ddywedodd Jehofa wrth Elias?

  • Beth gallwn ni ei ddysgu o hanes Elias?

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu