LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • yc gwers 9 tt. 20-21
  • Ni Wnaeth Jeremeia Ddal yn ôl Rhag Siarad am Jehofa

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Ni Wnaeth Jeremeia Ddal yn ôl Rhag Siarad am Jehofa
  • Dysgu Eich Plant
  • Erthyglau Tebyg
  • Dyn Nad Oedd Ofn Arno
    Storïau o’r Beibl
  • Bydda’n Ddewr Fel Jeremeia
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr ar Gyfer y Cyfarfodydd—2017
Dysgu Eich Plant
yc gwers 9 tt. 20-21

GWERS 9

Ni Wnaeth Jeremeia Ddal yn ôl Rhag Siarad am Jehofa

Jeremeia yn wynebu torf o bobl sydd wedi gwylltio

Beth mae Jeremeia yn ei wneud sy’n gwylltio’r bobl?

Jeremeia yn cael ei dynnu allan o dwll dwfn llawn mwd

Achubodd Jehofa Jeremeia

Mae pobl weithiau yn gas gyda ni neu’n gwneud hwyl am ein pennau oherwydd ein bod ni’n siarad â nhw am Jehofa. Gall hyn wneud inni ddal yn ôl rhag siarad am Dduw. Wyt ti erioed wedi teimlo fel hyn?— Mae’r Beibl yn dweud wrthyn ni am ddyn ifanc a oedd yn caru Jehofa, ond bu bron iddo stopio siarad amdano. Ei enw oedd Jeremeia. Gad inni ddysgu mwy amdano.

Pan oedd Jeremeia yn ddyn ifanc, dywedodd Jehofa fod rhaid iddo rybuddio’r bobl rhag gwneud pethau drwg. Roedd hyn yn anodd iawn i Jeremeia, ac roedd ofn arno. Dywedodd wrth Jehofa: ‘Dydw i ddim yn gwybod beth i’w ddweud. Dim ond bachgen ydw i.’ Ond dywedodd Jehofa: ‘Paid ag ofni. Fe wna i dy helpu di.’

Felly dechreuodd Jeremeia rybuddio’r bobl a dweud y bydden nhw’n cael eu cosbi os na fydden nhw’n newid eu ffyrdd. A wnaeth y bobl fel y gofynnodd Jeremeia?— Naddo. Fe wnaethon nhw hwyl am ei ben ac roedden nhw’n gas gydag ef. Roedd rhai eisiau ei ladd! Sut wyt ti’n meddwl roedd Jeremeia yn teimlo?— Roedd yn teimlo’n ofnus a dywedodd: ‘Dw i ddim yn mynd i siarad am Jehofa byth eto.’ Ond, a wnaeth Jeremeia roi’r gorau i siarad am Jehofa?— Naddo. Roedd yn caru Jehofa gymaint fel nad oedd yn medru dal yn ôl rhag siarad amdano. Oherwydd bod Jeremeia wedi dal ati i siarad am Dduw, cadwodd Jehofa ef yn ddiogel.

Er enghraifft, un tro, cafodd Jeremeia ei daflu gan ddynion drwg i mewn i dwll dwfn llawn mwd. Doedd ganddo ddim bwyd na dŵr. Roedd y dynion eisiau gadael Jeremeia yno i farw. Ond gyda help Jehofa, fe lwyddodd i ddianc!

Beth gelli di ei ddysgu o esiampl Jeremeia?— Er bod ofn arno weithiau, daliodd ati i siarad am Jehofa. Wrth iti sôn wrth eraill am Jehofa, hwyrach bydd bobl yn troi’n gas ac yn gwneud hwyl am dy ben. Efallai dy fod yn teimlo cywilydd neu hyd yn oed yn ofnus. Ond peidiwch byth â stopio siarad am Jehofa. Bydd Duw bob amser yn hapus i’th helpu di, fel yr helpodd Jeremeia.

DARLLENA YN DY FEIBL

  • Jeremeia 1:4-8; 20:7-9; 26:8-19, 24; 38:6-13

CWESTIYNAU:

  • Beth gofynnodd Jehofa i Jeremeia ei wneud?

  • Pam roedd Jeremeia bron â stopio siarad am Jehofa?

  • Sut gwnaeth Jehofa helpu Jeremeia?

  • Beth rwyt ti wedi ei ddysgu oddi wrth esiampl Jeremeia?

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu