LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • yc gwers 11 tt. 24-25
  • Roedden Nhw’n Ysgrifennu am Iesu

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Roedden Nhw’n Ysgrifennu am Iesu
  • Dysgu Eich Plant
  • Erthyglau Tebyg
  • Cyngor ar Ffydd, Ymddygiad, a Chariad
    Y Beibl—Beth Yw Ei Neges?
  • “Dynion Diaddysg a Chyffredin”
    ‘Tystiolaethu’n Drylwyr am Deyrnas Dduw’
  • Pwy Yw Iesu Grist?
    Beth Allwn Ni ei Ddysgu o’r Beibl?
  • Dal Ati Fel y Gwnaeth Pedr
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2023
Dysgu Eich Plant
yc gwers 11 tt. 24-25
Dynion a ysgrifennodd am Iesu—Mathew, Marc, Luc, Ioan, Pedr, Iago, Jwdas, a Paul

GWERS 11

Roedden Nhw’n Ysgrifennu am Iesu

Wyt ti’n gweld y dynion yn y llun?— Mathew, Marc, Luc, Ioan, Pedr, Iago, Jwdas, a Paul ydyn nhw. Roedd y dynion hyn yn byw yr un amser â Iesu, ac ysgrifennon nhw amdano. Gad inni ddysgu mwy am eu hanes nhw.

Beth wyt ti yn ei wybod am y dynion yma?

Roedd tri ohonyn nhw yn apostolion a oedd yn pregethu gyda Iesu. Am ba dri rydyn ni’n sôn?— Mathew, Ioan, a Pedr. Roedd yr apostolion Mathew a Ioan yn adnabod Iesu yn dda iawn, ac fe wnaeth y ddau ohonyn nhw ysgrifennu llyfr am fywyd Iesu. Hefyd, fe wnaeth yr apostol Ioan ysgrifennu llyfr o’r enw Datguddiad a’r tri llythyr, Cyntaf Ioan, Ail Ioan, a Trydydd Ioan. Ysgrifennodd yr apostol Pedr ddau lythyr yn y Beibl, sef Cyntaf Pedr ac Ail Pedr. Yn ei ail lythyr, ysgrifennodd Pedr am yr amser pan siaradodd Jehofa o’r nefoedd a dweud am Iesu: ‘Hwn yw fy mab. Rwyf yn ei garu, ac yn falch ohono.’

Hefyd, mae’r dynion eraill yn y llun yn ein dysgu ni am Iesu yn y llyfrau y gwnaethon nhw eu hysgrifennu. Un ohonyn nhw oedd Marc. Mae’n fwy na thebyg i Marc fod yno pan gafodd Iesu ei arestio a gweld popeth a ddigwyddodd. Un arall oedd Luc. Roedd yn feddyg, ac mae’n debyg iddo ddod yn Gristion ar ôl i Iesu farw.

Y ddau ysgrifennwr arall yn y llun yw brodyr iau Iesu. Wyt ti’n gwybod beth oedd eu henwau?— Iago a Jwdas. Ar y cychwyn, doedden nhw ddim yn credu yn Iesu. Roedden nhw hyd yn oed yn meddwl ei fod wedi colli arno’i hun. Ond yn nes ymlaen fe wnaethon nhw gredu yn Iesu a dod yn Gristnogion.

Yr un olaf rwyt ti’n ei weld yn y llun yw Paul. Cyn iddo ddod yn Gristion, ei enw oedd Saul. Roedd yn casáu’r Cristnogion ac yn gas iawn gyda nhw. Wyt ti’n gwybod pam roedd Paul eisiau bod yn Gristion?— Un diwrnod, roedd Paul yn teithio ar y ffordd ac, yn sydyn, mae’n clywed llais o’r nefoedd. Iesu oedd yn siarad! Gofynnodd i Paul: ‘Pam rwyt ti mor gas gyda’r rhai sy’n credu ynof fi?’ Ar ôl hynny, newidiodd Paul ei ffyrdd, ac fe ddaeth yn Gristion. Ysgrifennodd Paul 14 o lyfrau’r Beibl, o’i lythyr at y Rhufeiniaid hyd at ei lythyr at yr Hebreaid.

Rydyn ni’n darllen y Beibl bob dydd, on’d ydyn ni?— Drwy ddarllen y Beibl, rydyn ni’n dysgu llawer o bethau am Iesu. Hoffet ti ddysgu mwy am Iesu?—

DARLLENA YN DY FEIBL

  • 2 Pedr 1:16-18

  • Marc 3:21; 14:51

  • Jwdas 1

  • Actau 9:1-18

CWESTIYNAU:

  • Pa rai o apostolion Iesu a ysgrifennodd amdano?

  • Pa ddau o ysgrifenwyr y Beibl oedd yn frodyr i Iesu?

  • Sut daeth Paul yn Gristion?

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu