LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • yc gwers 13 tt. 28-29
  • Roedd Timotheus Eisiau Helpu Pobl

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Roedd Timotheus Eisiau Helpu Pobl
  • Dysgu Eich Plant
  • Erthyglau Tebyg
  • Dynion Penodedig—Efelychwch Timotheus
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2018
  • Rho Dy Galon yn Dy Waith!
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2020
  • “Cryfhau’r Cynulleidfaoedd”
    ‘Tystiolaethu’n Drylwyr am Deyrnas Dduw’
  • Timotheus yn Helpu Paul
    Storïau o’r Beibl
Dysgu Eich Plant
yc gwers 13 tt. 28-29
Timotheus bach yn dysgu oddi wrth ei fam, Eunice, a’i nain, Lois

GWERS 13

Roedd Timotheus Eisiau Helpu Pobl

Dyn ifanc oedd Timotheus a oedd yn hapus i helpu eraill. Teithiodd i lawer o lefydd i helpu pobl. Oherwydd hyn, roedd yn byw bywyd cyffrous iawn. Hoffet ti glywed mwy am ei hanes?—

Fe wnaeth mam a nain Timotheus ei ddysgu am Jehofa

Cafodd Timotheus ei fagu mewn dinas o’r enw Lystra. Pan oedd yn fach, dechreuodd ei fam Eunice a’i nain Lois ei ddysgu am Jehofa. Wrth i Timotheus dyfu roedd eisiau helpu pobl eraill i ddysgu am Jehofa.

Roedd Timotheus dal yn ddyn ifanc pan ofynnodd Paul iddo deithio gydag ef er mwyn pregethu mewn llefydd eraill. Dywedodd Timotheus: ‘Ydw! Dw i’n fodlon mynd i helpu pobl eraill.’

Teithiodd Timotheus gyda Paul i Thesalonica, sef dinas ym Macedonia. Er mwyn cyrraedd yno, roedd rhaid iddyn nhw gerdded yn bell, ac wedyn mynd mewn cwch. O’r diwedd, maen nhw’n cyrraedd y ddinas ac yn helpu llawer o bobl i ddysgu am Jehofa. Ond roedd rhai pobl yn gas gyda nhw a’n ceision eu brifo nhw. Felly roedd rhaid i Timotheus a Paul adael a mynd i bregethu yn rhywle arall.

Timotheus yn teithio mewn cwch gyda’r apostol Paul

Cafodd Timotheus fywyd cyffrous a hapus

Rai misoedd wedyn, gofynnodd Paul i Timotheus fynd yn ôl i Thesalonica i weld a oedd y brodyr yn gwneud yn iawn. Roedd mynd yn ôl i’r ddinas beryglus honno yn gofyn am lawer o ddewrder. Ond, aeth Timotheus yn ei ôl oherwydd ei fod yn pryderu am y brodyr. Daeth yn ôl at Paul gyda newyddion da. Roedd y brodyr yn Thesalonica yn gwneud yn dda iawn!

Gweithiodd Timotheus gyda Paul am flynyddoedd lawer. Un tro, ysgrifennodd Paul mai Timotheus oedd y person gorau y buasai’n gallu ei anfon i helpu’r cynulleidfaoedd. Roedd Timotheus yn caru Jehofa ac yn caru pobl.

Wyt ti’n caru pobl ac eisiau eu helpu nhw i ddysgu am Jehofa?— Os wyt ti, fe gei di fywyd cyffrous a hapus iawn, yn union fel y cafodd Timotheus!

DARLLENA YN DY FEIBL

  • 2 Timotheus 1:5; 3:15

  • Actau 16:1-5; 17:1-10

  • 1 Thesaloniaid 3:2-7

  • Philipiaid 2:19-22

CWESTIYNAU:

  • Lle cafodd Timotheus ei fagu?

  • Oedd Timotheus eisiau teithio gyda Paul? Pam?

  • Pam yr aeth Timotheus yn ôl i Thesalonica?

  • Sut medri di gael bywyd cyffrous a hapus, fel y cafodd Timotheus?

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu