LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • hf rhan 9 tt. 29-31
  • Addolwch Jehofa fel Teulu

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Addolwch Jehofa fel Teulu
  • Sut i Gael Teulu Hapus
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • 1 CRYFHEWCH EICH PERTHYNAS Â JEHOFA
  • 2 MWYNHEWCH EICH ADDOLIAD TEULUOL
  • Beth Yw Addoliad Teuluol?
    Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofa Heddiw?
  • Bydd Gwir Addoliad yn Dy Wneud Di’n Hapusach
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2022
  • Dod yn Nes at Dduw
    Gwybodaeth Sy’n Arwain i Fywyd Tragwyddol
  • Helpu Dy Deulu i Gofio Jehofa
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr ar Gyfer y Cyfarfodydd—2017
Gweld Mwy
Sut i Gael Teulu Hapus
hf rhan 9 tt. 29-31
Cwpl yn astudio’r Beibl gyda’i gilydd

RHAN 9

Addolwch Jehofa fel Teulu

“Addolwch yr hwn a wnaeth nef a daear.”—Datguddiad 14:7

Fel yr ydych wedi ei ddysgu yn y llyfryn hwn, mae’r Beibl yn cynnwys llawer iawn o egwyddorion a fydd yn eich helpu chi a’ch teulu. Mae Jehofa eisiau ichi fod yn hapus. Os ydych yn rhoi ei addoliad ef yn gyntaf, mae’n addo rhoi “y pethau hyn i gyd yn ychwaneg i chwi.” (Mathew 6:33) Mae ef wir eisiau ichi fod yn ffrind iddo. Defnyddiwch bob cyfle i feithrin eich cyfeillgarwch â Duw. Hon yw’r fraint fwyaf gall person ei chael.—Mathew 22:37, 38.

1 CRYFHEWCH EICH PERTHYNAS Â JEHOFA

Gŵr a gwraig yn pregethu gyda’i gilydd

MAE’R BEIBL YN DWEUD: “‘Byddaf i chwi yn dad, a byddwch chwi’n feibion a merched i mi,’ medd yr Arglwydd.” (2 Corinthiaid 6:18) Mae Duw eisiau ichi fod yn ffrind agos ato. Un ffordd o wneud hyn yw drwy weddïo. Mae Jehofa yn eich gwahodd i ‘weddïo yn ddi-baid.’ (1 Thesaloniaid 5:17) Mae’n awyddus i glywed eich pryderon a’ch meddyliau dwfn. (Philipiaid 4:6) Wrth ichi weddïo gyda’ch teulu, fe fydden nhw’n gweld pa mor wir yw Duw i chi.

Ynghyd â siarad â Duw, dylech wrando arno hefyd. Gallwch wneud hynny drwy astudio ei Air a llenyddiaeth sy’n seiliedig ar y Beibl. (Salm 1:1, 2) Myfyriwch ar yr hyn rydych chi’n ei ddysgu. (Salm 77:11, 12) Mae gwrando ar Dduw hefyd yn golygu mynychu cyfarfodydd Cristnogol.—Salm 122:1-4.

Ffordd bwysig arall i gryfhau eich perthynas â Jehofa yw drwy siarad amdano ag eraill. Wrth ichi wneud hyn, byddwch yn teimlo’n agosach ato.—Mathew 28:19, 20.

BETH GALLWCH CHI EI WNEUD?

  • Neilltuwch amser bob dydd i ddarllen y Beibl ac i weddïo

  • Fel teulu, rhowch flaenoriaeth i weithgareddau ysbrydol yn hytrach nag adloniant ac ymlacio

2 MWYNHEWCH EICH ADDOLIAD TEULUOL

Tad yn paratoi er mwyn astudio gyda’i deulu ac yna’n mwynhau yr addoliad teuluol

MAE’R BEIBL YN DWEUD: “Nesewch at Dduw, ac fe nesâ ef atoch chwi.” (Iago 4:8) Mae’n rhaid ichi greu rhaglen gyson ar gyfer addoliad teuluol a’i dilyn yn rheolaidd. (Genesis 18:19) Ond, mae angen gwneud mwy na hynny. Mae’n hanfodol bod Duw yn rhan o’ch bywyd bob dydd. Cryfhewch y perthynas rhwng eich teulu a Duw drwy siarad amdano ‘pan fyddwch yn eistedd yn eich tŷ ac yn cerdded ar y ffordd, a phan fyddwch yn mynd i gysgu ac yn codi.’ (Deuteronomium 6:6, 7) Ceisiwch fod fel Josua, a ddywedodd: “Byddaf fi a’m teulu yn gwasanaethu’r ARGLWYDD.”—Josua 24:15.

BETH GALLWCH CHI EI WNEUD?

  • Trefnwch raglen gyson i hyfforddi eich teulu, gan ystyried anghenion pob aelod o’r teulu

Mam yn darllen i’w mab ifanc; teulu yn actio stori o’r Beibl; tad yn astudio gyda’i ferch

GWEISION HAPUS JEHOFA

Does dim byd yn well nag addoli Jehofa Dduw. Mae’n gorfoleddu yn eich gweld chi a’ch teulu yn ei wasanaethu o’r galon. Wrth ichi wneud hynny, fe fyddwch yn dod i garu ac efelychu Jehofa yn fwy ac yn fwy. (Marc 12:30; Effesiaid 5:1) Gyda Duw yn eich priodas, bydd eich perthynas priodasol yn cryfhau. (Pregethwr 4:12; Eseia 48:17) Gallwch chi a’ch teulu fod yn hapus am byth, gan wybod fod Jehofa eich Duw yn “eich bendithio.”—Deuteronomium 12:7.

YSTYRIWCH HYN . . .

  • Pryd oedd y tro diwethaf inni weddïo gyda’n gilydd fel cwpl?

  • Beth galla’ i ei astudio gyda fy nheulu a fydd yn cryfhau ein ffydd yn Jehofa?

NODYN I’R PENTEULU

  • Peidiwch â gadael i unrhyw beth ymyrryd yn eich addoliad teuluol

  • Gadewch i’ch teulu wybod o flaen llaw yr hyn rydych am ei drafod fel eu bod nhw’n gallu paratoi

  • Gwnewch yn siŵr fod pob aelod o’r teulu yn bresennol

  • Crëwch awyrgylch heddychlon gall pawb ei mwynhau

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu