LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • T-36 tt. 1-4
  • Beth Yw Teyrnas Dduw?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Beth Yw Teyrnas Dduw?
  • Beth yw Teyrnas Dduw?
  • Erthyglau Tebyg
  • Sut Rydych Chi’n Teimlo am y Dyfodol?
    Sut Rydych Chi’n Teimlo am y Dyfodol?
  • Pwy Sy’n Rheoli’r Byd?
    Pwy Sy’n Rheoli’r Byd?
  • A Fydd y Meirw yn Cael Byw Eto?
    A Fydd y Meirw yn Cael Byw Eto?
  • A Fydd Pobl yn Dioddef am Byth?
    A Fydd Pobl yn Dioddef am Byth?
Gweld Mwy
Beth yw Teyrnas Dduw?
T-36 tt. 1-4
Pobl o wahanol gefndiroedd yn gweddïo am i Deyrnas Dduw ddod

Beth Yw Teyrnas Dduw?

Ydy hi . . .

  • yn rhywbeth yn eich calon?

  • yn derm crefyddol yn unig?

  • yn llywodraeth yn y nefoedd?

MAE’R BEIBL YN DWEUD:

“Bydd Duw’r nefoedd yn sefydlu teyrnas fydd byth yn cael ei dinistrio.”—Daniel 2:44, beibl.net.

“[Mae] mab wedi cael ei roi i ni. Bydd e’n cael y cyfrifoldeb o lywodraethu.”—Eseia 9:6.

MAE HYNNY’N GOLYGU

  • Llywodraeth gyfiawn sy’n gallu gwella ein bywydau heddiw.—Eseia 48:17, 18.

  • Iechyd perffaith a bywyd hapus mewn byd newydd yn y dyfodol.—Datguddiad 21:3, 4.

Pobl yn garddio ac yn mwynhau bywyd ar baradwys ddaear o dan Deyrnas Dduw

OND ALLWN NI GREDU BETH MAE’R BEIBL YN EI DDWEUD?

Gallwn, am o leiaf ddau reswm:

  • Dangosodd Iesu beth bydd y Deyrnas yn ei gyflawni. Dysgodd Iesu i’w ddilynwyr weddïo am i Deyrnas Dduw ddod ac am i ewyllys Duw gael ei wneud ar y ddaear. (Mathew 6:9, 10) Dangosodd Iesu sut bydd y weddi honno yn cael ei hateb.

    Pan oedd Iesu ar y ddaear, fe roddodd fwyd i bobl oedd yn llwgu, iachaodd bobl sâl, ac atgyfododd y meirw! (Mathew 15:29-38; Ioan 11:38-44) Fel yr un a fydd yn frenin ar Deyrnas Dduw, rhoddodd Iesu ragflas hyfryd inni o’r hyn a wna’r Deyrnas ar gyfer pobl ar y ddaear.—Datguddiad 11:15.

  • Mae cyflwr y byd yn dangos bod Teyrnas Dduw ar fin dod. Dywedodd Iesu y byddai cyfnod o ryfeloedd, newyn, a daeargrynfeydd ofnadwy cyn i’r Deyrnas ddod â heddwch i’r byd.—Mathew 24:3, 7.

    Dyna’n union beth rydyn ni’n ei weld heddiw. Felly, gallwn fod yn gwbl sicr y bydd Teyrnas Dduw yn dod â’r holl broblemau hyn i ben.

CWESTIWN I FEDDWL AMDANO

Daear hyfryd o dan reolaeth Teyrnas Dduw

Sut bydd bywyd yn wahanol pan ddaw Teyrnas Dduw?

Mae’r Beibl yn ateb y cwestiwn hwnnw yn SALM 37:29 ac yn ESEIA 65:21-23.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu