LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ypq cwestiwn 7 tt. 21-23
  • Sut Galla’ i Ddelio â’r Pwysau i Gael Rhyw?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Sut Galla’ i Ddelio â’r Pwysau i Gael Rhyw?
  • 10 Ateb i Gwestiynau Pobl Ifanc
  • Erthyglau Tebyg
  • Ai Rhyw Go Iawn yw Rhyw Geneuol?
    Cwestiynau Pobl Ifanc
  • Sut Gallaf Stopio Meddwl am Ryw Drwy’r Amser?
    Cwestiynau Pobl Ifanc
10 Ateb i Gwestiynau Pobl Ifanc
ypq cwestiwn 7 tt. 21-23
Merch yn ei harddegau’n gwrthod fflyrtio â dyn ifanc

CWESTIWN 7

Sut Galla’ i Ddelio â’r Pwysau i Gael Rhyw?

PAM MAE’N BWYSIG?

Bydd dy benderfyniadau ynglŷn â rhyw yn cael effaith sy’n ymestyn ymhell i’r dyfodol.

BETH BYDDET TI’N EI WNEUD?

Dychmyga hyn: Dim ond deufis mae Eirlys wedi bod yn mynd allan gyda Meic, ond mae’n teimlo fel ei bod hi’n ei adnabod ers blynyddoedd. Maen nhw’n tecstio o hyd, siarad am oriau dros y ffôn, ac maen nhw hyd yn oed yn medru gorffen brawddegau ei gilydd! Ond nawr, mae Meic yn disgwyl am fwy na sgwrs.

Yn y ddeufis diwethaf, dydy Meic ac Eirlys heb wneud dim mwy na dal dwylo a rhannu sws fach. Mae Eirlys yn gyfforddus gyda’r sefyllfa ar hyn o bryd. Ond dydy hi ddim eisiau colli Meic chwaith. Does neb arall yn gwneud iddi deimlo mor brydferth, mor sbesial. ‘Beth bynnag,’ meddai wrth ei hun, ‘rydyn ni’n wir garu ein gilydd . . . ’

Os wyt ti’n ddigon hen i ganlyn, ac yn yr un sefyllfa ag Eirlys, beth byddet ti’n ei wneud nesaf?

ARHOSA A MEDDYLIA!

Dilledyn yn cael ei ddefnyddio i lanhau

Mae rhyw yn anrheg oddi wrth Dduw ar gyfer cyplau priod yn unig. Mae cael rhyw cyn priodi yn gamddefnydd o’r anrheg honno. Mae’n debyg i gymryd dilledyn prydferth a’i ddefnyddio i lanhau budreddi

Os wyt ti’n ceisio torri deddf ffisegol, fel deddf disgyrchiant, byddi di’n dioddef y canlyniadau. Mae’r un peth yn wir os wyt ti’n torri deddf foesol, er enghraifft: “Yr ydych i ymgadw oddi wrth anfoesoldeb rhywiol.”—1 Thesaloniaid 4:3.

Beth yw canlyniadau gwrthod y ddeddf honno? Mae’r Beibl yn dweud: “Mae’r person sy’n pechu’n rhywiol yn pechu yn erbyn ei gorff ei hun.” (1 Corinthiaid 6:18, beibl.net) Sut mae hynny’n wir?

Mae ymchwil yn dangos bod llawer o rai ifanc sydd wedi cael rhyw cyn priodi wedi profi un neu fwy o’r teimladau isod.

  • TRISTWCH. Mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc sydd wedi cael rhyw cyn priodi yn adrodd eu bod nhw’n difaru gwneud.

  • DRWGDYBIO. Ar ôl cael rhyw, mae’r bachgen a’r ferch yn dechrau meddwl, ‘Gyda phwy arall mae ef neu hi wedi cael rhyw?’

  • SIOMEDIGAETH. Yn eu calonnau, mae merched yn chwilio am rywun a fyddai’n eu hamddiffyn, nid rhywun a fyddai’n cymryd mantais ohonyn nhw. Ac mae llawer o fechgyn yn teimlo bod merch sy’n ildio iddyn nhw yn llai deniadol.

  • Y gwir yw: Os wyt ti’n cael rhyw cyn priodi, byddi di’n dirywio dy hun gan aberthu rhywbeth pwysig iawn. (Rhufeiniaid 1:24) Mae dy gorff yn werthfawr, ni ddylai fod ar gael!

Dangosa gryfder moesol drwy “ymgadw oddi wrth anfoesoldeb rhywiol.” (1 Thesaloniaid 4:3) Yna, os wyt ti’n priodi yn y dyfodol, fe gei di gael rhyw. A byddi di’n medru ei fwynhau’n llawn, heb orfod poeni, difaru, na theimlo’r ansicrwydd sy’n dod yn sgìl cael rhyw cyn priodi.—Diarhebion 7:22, 23; 1 Corinthiaid 7:3.

BETH YW DY FARN DI?

  • A fyddai rhywun sydd wir yn dy garu di yn ceisio niweidio dy iechyd emosiynol a chorfforol?

  • A fyddai rhywun sydd wir yn gofalu amdanat yn dy demtio i roi dy berthynas â Duw yn y fantol?—Hebreaid 13:4.

AR GYFER Y MERCHED

Merch yn ei harddegau’n eistedd ac yn meddwl

Mae nifer o fechgyn wedi dweud na fydden nhw byth yn priodi merch ar ôl cael rhyw â hi. Pam? Oherwydd mae’n well ganddyn nhw ferch sy’n bur ac yn wyryf!

Ydy hynny’n dy synnu di? Efallai hyd yn oed yn dy ddigio? Os yw, cofia hyn: Mae ffilmiau a rhaglenni teledu yn cyfleu bod rhyw rhwng pobl ifanc yn hwyl ac yn arwydd o wir gariad.

Paid â choelio popeth rwyt ti’n ei glywed! Mae bechgyn sy’n ceisio dy ddenu di i gael rhyw cyn priodi yn hollol hunanol.—1 Corinthiaid 13:4, 5.

AR GYFER Y BECHGYN

Bachgen yn ei arddegau’n eistedd ac yn meddwl

Os wyt ti’n canlyn, gofynna i ti dy hun, ‘Ydw i’n wir ofalu am fy nghariad?’ Os ‘ydw’ yw dy ateb, beth yw’r ffordd orau i ddangos hyn? Drwy gael y cryfder i gadw deddfau Duw, y doethineb i osgoi sefyllfaoedd peryglus, a’r cariad i roi ei theimladau hi o flaen dy deimladau di.

Os oes gen ti’r fath rinweddau, mae’n debyg bydd gan dy gariad yr un teimladau â’r Sulames foesol lân, a ddywedodd: “Y mae fy nghariad yn eiddo i mi, a minnau’n eiddo iddo ef.” (Caniad Solomon 2:16) Yn syml, bydd ei chariad tuag atat yn cynyddu!

GAIR I GALL

Os yw rhywun yn ceisio dy ddenu i gael rhyw drwy ddweud, “Os wyt ti’n caru fi, fe wnei di hyn,” ateba’n gadarn, “Os wyt ti’n caru fi, wnei di ddim gofyn!”

Rheol dda i’w dilyn ynglŷn â’th ymddygiad â’r rhyw arall yw: Os yw’n rhywbeth na fyddi di eisiau i’th rieni weld, ni ddylet ti ei wneud.

FY NGHYNLLUN I

  • Sut byddet ti’n ymateb petai rhywun yn gofyn iti gael rhyw â nhw?

  • Mewn pa sefyllfaoedd y byddai’n anoddach iti ddweud na?

  • Sut byddet ti’n osgoi sefyllfaoedd o’r fath?

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu