CÂN 104
Anrheg Oddi Wrth Dduw—Yr Ysbryd Glân
Fersiwn Printiedig
1. Ein Tad trugarog, hael a chariadus,
Cysur dy ysbryd, plîs rho i ni.
Llesg yw ein breichiau, mawr yw ein beichiau,
Er inni bechu, ein caru rwyt ti.
2. Er inni werthfawrogi’th rinweddau,
Crwydrwn o’r llwybr o dro i dro.
Clyw ein deisyfiad, clyw ein herfyniad:
Rho inni d’ysbryd i’n harwain yn ôl.
3. Er gwaethaf gwendid, er digalondid,
Codi ein calon mae d’ysbryd di.
Yn rym dy nerth ehedwn fel eryr.
Esgyn ag egni’r glân ysbryd wnawn ni.
(Gweler hefyd Salm 51:11; Ioan 14:26; Act. 9:31.)