CÂN 113
Ein Heddwch
Fersiwn Printiedig
1. Canwch i Jehofa fawl,
Duw tangnefedd yw.
Rhyfel ddaw i ben drwy law
Ein heddychlon Dduw.
Buddugoliaeth gaiff ei Fab,
Tirion Lyw a gawn.
Gan ‘Dywysog Heddwch,’ Crist,
Hedd hyd byth fwynhawn.
2. Curon ni ein gwaywffyn
A’n rhyfelgar gledd
Yn faddeugar eiriau’n llawn
Tangnefeddus hedd.
Er mwyn cadw’r heddwch hwn,
Hybu heddwch rhaid.
Gyda phraidd Crist Iesu gwnawn
Ddilyn ôl ei draed.
3. Rhown yr heddwch hwn ar waith,
Heuwn hadau hedd.
Y mae’r heddwch hwn i’w weld
Ar ein pryd a’n gwedd.
Tangnefeddus fyddwn ni
Wrth ddyrchafu’r Gwir,
A chyn hir, tawelwch gawn—
Byd llawn heddwch pur.
(Gweler hefyd Salm 46:9; Esei. 2:4; Iago 3:17, 18.)