LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • th gwers 14 t. 17
  • Gwneud i’r Prif Bwyntiau Sefyll Allan

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Gwneud i’r Prif Bwyntiau Sefyll Allan
  • Ymroi i Ddarllen a Dysgu
  • Erthyglau Tebyg
  • Adolygu’r Prif Bwyntiau
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
  • Diweddglo Effeithiol
    Ymroi i Ddarllen a Dysgu
Ymroi i Ddarllen a Dysgu
th gwers 14 t. 17

GWERS 14

Gwneud i’r Prif Bwyntiau Sefyll Allan

Adnod

Hebreaid 8:1

CRYNODEB: Helpa dy gynulleidfa i ddilyn trywydd dy anerchiad ac eglura sut mae pob prif bwynt yn cysylltu â nod a thema’r anerchiad.

SUT I FYND ATI:

  • Gosoda dy nod. Ystyria ai rhoi gwybodaeth, ceisio argyhoeddi, neu annog dy gynulleidfa i weithredu yw nod dy anerchiad. Datblyga’r anerchiad wedyn gan sicrhau bod pob prif bwynt yn cyfrannu at y nod hwnnw.

    Awgrym ymarferol

    Gofynna: ‘Pa gwestiynau neu wrthwynebiadau fydd gan fy nghynulleidfa am y pwnc? Ym mha drefn resymegol y byddan nhw’n debyg o godi’r cwestiynau neu’r gwrthwynebiadau hynny?’ Yna cyflwyna dy bwyntiau yn y drefn honno, fel bod dy gynulleidfa’n gallu dilyn, deall, a derbyn y wybodaeth.

  • Pwysleisia thema dy anerchiad. Cyfeiria at y thema drwy gydol dy anerchiad gan ailadrodd geiriau allweddol y thema neu drwy ddefnyddio geiriau cyfystyr.

  • Cadwa’r prif bwyntiau’n glir ac yn syml. Dewisa ddim ond y prif bwyntiau sy’n berthnasol i’r thema ac y gelli di eu dysgu yn effeithiol yn yr amser penodedig. Paid â chynnwys gormod o brif bwyntiau. Dyweda’n eglur beth yw pob prif bwynt, seibia rhyngddyn nhw, a symuda’n esmwyth o un prif bwynt i’r nesaf.

    Awgrym ymarferol

    Fe elli di ddewis rhestru’r prif bwyntiau ar y dechrau er mwyn helpu dy gynulleidfa i ddilyn dy anerchiad, neu eu hailadrodd ar y diwedd i helpu dy gynulleidfa i’w cofio.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu