GWERS 15
Siarad Gydag Argyhoeddiad
1 Thesaloniaid 1:5
CRYNODEB: Dangosa dy fod ti’n credu’n gryf bod dy neges yn wir ac yn bwysig.
SUT I FYND ATI:
Paratoa’n drylwyr. Astudia’r deunydd nes dy fod ti’n deall beth yw’r prif syniadau a sut mae’r Beibl yn profi eu bod nhw’n wir. Ceisia fynegi prif bwyntiau dy anerchiad mewn ychydig o eiriau syml. Canolbwyntia ar sut bydd y deunydd yn helpu dy wrandawyr. Gweddïa am yr ysbryd glân.
Defnyddia eiriau sy’n cyfleu dy argyhoeddiad. Yn hytrach nag ailadrodd union eiriau y deunydd printiedig, defnyddia dy eiriau dy hun. Dewisa eiriau sy’n dangos dy fod ti’n hollol sicr am yr hyn rwyt ti’n ei ddweud.
Siarada’n ddiffuant ac o’r galon. Siarada’n ddigon uchel. Cadwa gyswllt llygaid â dy wrandawyr os na fydd hynny’n peri iddyn nhw deimlo’n annifyr.