GWERS 16
Yn Adeiladol ac yn Gadarnhaol
Job 16:5
CRYNODEB: Canolbwyntia, nid ar y problemau ond ar yr atebion, sef y pethau a fydd yn rhoi hyder i dy wrandawyr.
SUT I FYND ATI:
Meithrin agwedd gadarnhaol tuag at dy wrandawyr. Cymera’n ganiataol fod dy gyd-addolwyr yn dymuno plesio Jehofa. Hyd yn oed os bydd rhaid iti roi cyngor, cofia ganmol yn gyntaf lle mae hynny’n bosib.
Paid â rhoi gormod o sylw i bethau negyddol. Trafoda agweddau negyddol dim ond i’r graddau y mae hyn yn dy helpu di i esbonio’r pwnc. Dylai naws gyffredinol dy gyflwyniad fod yn gadarnhaol.
Gwna ddefnydd da o Air Duw. Tynna sylw at yr hyn mae Jehofa wedi ei wneud, yn ei wneud, ac y bydd yn ei wneud dros y ddynoliaeth. Rho obaith i dy wrandawyr a’u calonogi.