LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • lff gwers 8
  • Gallwch Chi Fod yn Ffrind i Jehofa

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Gallwch Chi Fod yn Ffrind i Jehofa
  • Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • CLODDIO’N DDYFNACH
  • CRYNODEB
  • DARGANFOD MWY
  • Mae Duw yn Eich Gwahodd i Fod yn Ffrind Iddo
    Dod yn Ffrind i Dduw!
  • Bod yn Ddoeth Wrth Ddewis Ffrindiau
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Gyfeillgarwch?
    Atebion i Gwestiynau am y Beibl
  • Allech Chi Fyth Gael Gwell Ffrind na Duw
    Dod yn Ffrind i Dduw!
Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
lff gwers 8
Gwers 8. Dyn yn eistedd ar fainc ac yn syllu i’r awyr.

GWERS 08

Gallwch Chi Fod yn Ffrind i Jehofa

Fersiwn Printiedig
Fersiwn Printiedig
Fersiwn Printiedig

Mae Jehofa eisiau ichi ei adnabod yn well. Pam? Mae’n gobeithio y byddwch chi eisiau bod yn ffrind iddo ar ôl ichi ddysgu am ei bersonoliaeth, ei ffyrdd, a’i bwrpas. Ond a ydy hi’n bosib ichi fod yn ffrind i Dduw? (Darllenwch Iago 2:23.) Beth gallwch chi ei wneud er mwyn dod yn ffrind i Dduw? Mae’r Beibl yn ateb y cwestiynau hynny ac yn dangos pam mai cyfeillgarwch â Jehofa yw’r berthynas bwysicaf.

1. Pa wahoddiad mae Jehofa yn ei roi i chi?

“Nesewch at Dduw ac fe fydd yntau’n nesáu atoch chi.” (Iago 4:8) Beth mae hyn yn ei feddwl? Mae Jehofa yn eich gwahodd chi i fod yn ffrind iddo. Mae’n anodd i rai ddychmygu bod yn ffrind i rywun na allan nhw ei weld, heb sôn am fod yn ffrind i Dduw. Ond yn y Beibl, mae Jehofa yn rhoi’r holl wybodaeth sydd ei angen er mwyn inni nesáu ato. Wrth inni ddarllen neges Duw yn y Beibl, bydd ein cyfeillgarwch â Jehofa yn tyfu, er nad ydyn ni’n ei weld.

2. Pam mai Jehofa yw’r ffrind gorau y gallwch chi ei gael?

Nid oes neb yn eich caru yn fwy nag y mae Jehofa yn eich caru chi. Mae eisiau ichi fod yn hapus a throi ato pryd bynnag mae angen help arnoch chi. Gallwch “fwrw eich holl bryder arno ef, oherwydd ei fod yn gofalu amdanoch chi.” (1 Pedr 5:7) Mae Jehofa bob amser yn barod i gefnogi, i gysuro, ac i wrando ar ei ffrindiau.—Salm 94:18, 19.

3. Beth mae Jehofa yn ei ddisgwyl gan ei ffrindiau?

Mae gan Jehofa gariad tuag at bawb, “ond mae ganddo berthynas glòs gyda’r rhai sy’n onest.” (Diarhebion 3:32) Mae Jehofa yn disgwyl i’w ffrindiau geisio gwneud beth sy’n dda yn ei olwg ef, ac osgoi pethau drwg. Efallai bydd rhai yn teimlo na allan nhw gyrraedd safonau Jehofa o ran da a drwg. Ond mae Jehofa yn Dduw trugarog. Y mae’n derbyn pawb sy’n Ei garu ac sy’n gwneud eu gorau glas i’w blesio.—Salm 147:11; Actau 10:34, 35.

CLODDIO’N DDYFNACH

Dysgwch fwy am sut gallwch chi ddod yn ffrind i Jehofa a pham mai Ef yw’r ffrind gorau y gallwch chi ei gael.

4. Roedd Abraham yn ffrind i Jehofa

Mae hanes Abraham (a elwid hefyd yn Abram) yn rhoi cipolwg inni ar beth mae’n ei feddwl i fod yn ffrind i Dduw. Darllenwch am Abraham yn Genesis 12:1-4. Yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Beth gofynnodd Jehofa i Abraham ei wneud?

  • Beth addawodd Jehofa i Abraham?

  • Beth oedd ymateb Abraham i gyfarwyddiadau Jehofa?

5. Beth mae Jehofa yn ei ofyn gan ei ffrindiau?

Fel arfer, mae ’na bethau sy’n bwysig inni mewn ffrind.

  • Pa bethau rydych chi’n hoffi i’ch ffrindiau eu gwneud i chi?

Darllenwch 1 Ioan 5:3, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Beth mae Jehofa yn ei ddisgwyl gan ei ffrindiau?

Er mwyn plesio Jehofa, efallai bydd yn rhaid inni newid ein hymddygiad neu ein personoliaeth. Darllenwch Eseia 48:17, 18, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Pam mae Jehofa yn gofyn i’w ffrindiau wneud newidiadau?

Adeiladwr yn rhoi het galed i weithiwr arall.

Bydd ffrind da yn ein hatgoffa ni am bethau sydd o fudd i ni ac a fydd yn ein hamddiffyn. Mae Jehofa yn gwneud yr un peth ar gyfer ei ffrindiau ef

6. Beth mae Jehofa yn ei wneud i helpu ei ffrindiau?

Mae Jehofa yn helpu ei ffrindiau i ymdopi â’u problemau. Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiwn sy’n dilyn.

FIDEO: Mae Jehofa Wedi Gwneud Cymaint ar Fy Nghyfer (3:20)

  • Sut mae Jehofa wedi helpu’r ddynes yn y fideo i ymdopi â’i meddyliau negyddol a’i hemosiynau?

Darllenwch Eseia 41:10, 13, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Beth mae Jehofa yn addo ei wneud dros bob un o’i ffrindiau?

  • Ydych chi’n meddwl y byddai Jehofa yn Ffrind da i chi? Pam?

Collage: Ffrindiau da yn helpu ei gilydd. 1. Dyn yn helpu dyn arall i symud bwrdd mawr. 2. Dynes yn troi at ddynes arall am gyngor 3. Dyn yn helpu dyn arall sydd yn defnyddio ffon fagl.

Bydd ffrindiau agos yno pan fydd angen help arnoch chi. Bydd Jehofa yn eich helpu chi hefyd

7. I fod yn ffrind i Jehofa mae angen cyfathrebu

Mae cyfathrebu yn cryfhau cyfeillgarwch. Darllenwch Salm 86:6, 11, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Sut gallwn ni gyfathrebu â Jehofa?

  • Sut mae Jehofa yn cyfathrebu â ni?

Collage: 1. Dynes yn gweddïo. Mae saeth uwch ei phen yn pwyntio ar i fyny. 2. Dynes yn darllen y Beibl. Mae saeth uwch ei phen yn pwyntio ar i lawr.

Rydyn ni’n siarad â Jehofa mewn gweddi; mae ef yn siarad â ni trwy’r Beibl

BYDD RHAI YN DWEUD: “Mae’n amhosib bod yn agos at Dduw.”

  • Pa adnod byddech chi’n ei defnyddio i ddangos y gallwn fod yn ffrind i Jehofa?

CRYNODEB

Mae Jehofa yn dymuno bod yn ffrind i chi ac fe fydd yn eich helpu chi i nesáu ato.

Adolygu

  • Sut mae Jehofa yn helpu ei ffrindiau?

  • Pam mae Jehofa yn gofyn i’w ffrindiau wneud newidiadau?

  • Ydych chi’n meddwl bod Jehofa yn disgwyl gormod gan ei ffrindiau? Pam, neu pam ddim?

Nod

DARGANFOD MWY

Sut gall bod yn ffrind i Dduw newid eich bywyd?

“Jehofa—Duw y Mae’n Werth ei Adnabod” (Y Tŵr Gwylio, Chwefror 15, 2003)

Dysgwch sut gallwch chi ddod yn ffrind i Dduw.

“Sut Galla i Ddod yn Ffrind i Dduw?” (Cwestiynau Pobl Ifanc—Atebion Sy’n Gweithio, Cyfrol 2, pennod 35)

Gwelwch pam mae un ddynes yn teimlo bod ei chyfeillgarwch â Jehofa wedi achub ei bywyd.

“Doeddwn i Ddim Eisiau Marw!” (Erthygl o’r Tŵr Gwylio)

Clywch sut mae pobl yn eu harddegau yn teimlo am Jehofa.

Beth Mae’n ei Olygu i Fod yn Ffrind i Dduw? (1:46)

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu