GWERS 13
Sut Mae Gau Grefydd yn Rhoi Darlun Anghywir o Dduw
Os mai cariad yw Duw, pam mae crefyddau sy’n dweud eu bod nhw’n cynrychioli Duw wedi gwneud cymaint o bethau ffiaidd? Yn syml, mae gau grefyddau wedi rhoi darlun anghywir o Dduw. Ym mha ffordd? Sut mae Duw yn teimlo am hyn? A beth bydd Duw yn ei wneud amdani?
1. Sut mae dysgeidiaeth gau grefydd yn rhoi darlun anghywir o Dduw?
Mae gau grefydd yn dewis ‘credu’r celwydd yn hytrach na’r gwir am Dduw.’ (Rhufeiniaid 1:25) Er enghraifft, mae’r rhan fwyaf o grefyddau wedi methu dysgu pobl am enw Duw. Ond yn ôl y Beibl, mae defnyddio enw Duw yn hanfodol. (Rhufeiniaid 10:13, 14) Dywed rhai arweinwyr crefyddol mai ewyllys Duw yw’r pethau drwg sy’n digwydd. Ond celwydd yw hwnnw. Nid yw Duw byth yn achosi drygioni. (Darllenwch Iago 1:13.) Mae celwyddau crefyddol wedi gwneud hi’n anodd i bobl garu Duw.
2. Sut mae gweithredoedd gau grefydd yn rhoi darlun anghywir o Dduw?
Nid yw gau grefydd yn trin pobl fel mae Jehofa yn eu trin. Mae’r Beibl yn dweud bod pechodau gau grefydd “wedi cael eu pentyrru nes iddyn nhw gyrraedd y nef.” (Datguddiad 18:5) Ers canrifoedd, mae crefyddau wedi ymyrryd yn y byd gwleidyddol, gan gefnogi neu gymeradwyo rhyfeloedd sydd wedi achosi marwolaethau di-rif. Mae rhai arweinwyr crefyddol yn mynnu arian gan eu dilynwyr er mwyn byw bywyd moethus. Mae hyn yn profi nad ydyn nhw hyd yn oed yn adnabod Duw, heb sôn am fod â’r hawl i’w gynrychioli.—1 Ioan 4:8.
3. Sut mae Duw yn teimlo am gau grefydd?
Os ydy ymddygiad gau grefydd yn eich gwylltio chi, sut rydych chi’n meddwl mae Duw yn teimlo? Mae Jehofa yn caru pobl, ond mae arweinwyr crefyddol sy’n dweud celwyddau amdano ac yn cam-drin eu dilynwyr, yn ei wylltio. Y mae’n addo dinistrio gau grefydd “ac ni fydd hi i’w gweld yn unman byth eto.” (Datguddiad 18:21) Yn fuan, bydd Duw yn rhoi terfyn ar bob gau grefydd.—Datguddiad 18:8.
CLODDIO’N DDYFNACH
Ystyriwch sut mae Duw yn teimlo am gau grefydd. Dysgwch fwy am beth mae gau grefydd wedi ei wneud, ond hefyd pam na ddylai hyn eich atal rhag dod i adnabod Jehofa.
4. Nid yw Duw yn derbyn pob crefydd
Mae rhai yn credu bod pob crefydd yn arwain at Dduw. Ond a yw hynny’n wir? Darllenwch Mathew 7:13, 14, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:
Sut mae’r Beibl yn disgrifio’r ffordd sy’n arwain i fywyd?
Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiwn sy’n dilyn.
A ydy’r Beibl yn dweud bod llawer o grefyddau yn plesio Duw?
5. Nid yw gau grefydd yn efelychu cariad Duw
Mae gau grefyddau wedi rhoi darlun camarweiniol o Dduw mewn llawer o ffyrdd. Un ffordd yw’r rhan y maen nhw wedi ei chwarae mewn rhyfeloedd. I weld un enghraifft, gwyliwch y FIDEO. Yna, trafodwch y cwestiynau sy’n dilyn.
Beth oedd safbwynt llawer o’r eglwysi yn ystod yr Ail Ryfel Byd?
Sut rydych chi’n teimlo am yr hyn a wnaethon nhw?
Darllenwch Ioan 13:34, 35 ac 17:16. Yna, trafodwch y cwestiynau hyn:
Sut mae Jehofa yn teimlo o weld crefyddau yn chwarae rhan mewn rhyfeloedd?
Mae gau grefydd yn gyfrifol am lawer o bethau drwg. Ym mha ffyrdd rydych chi wedi sylwi bod crefyddau yn methu efelychu cariad Duw?
Nid yw gau grefydd wedi efelychu cariad Duw
6. Mae Duw eisiau helpu pobl i ymadael â gau grefydd
Darllenwch Datguddiad 18:4,a ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:
Sut rydych chi’n teimlo o wybod bod Duw eisiau helpu pobl sydd wedi cael eu camarwain gan gau grefydd?
7. Parhewch i ddysgu am y gwir Dduw
A ddylai gau grefydd ddylanwadu ar y ffordd rydych chi yn gweld Duw? Dychmygwch fod mab yn gwrthod cyngor da ei dad, yn gadael ei gartref, ac yn byw bywyd drwg. Nid yw’r tad yn cytuno â’r hyn mae’r mab yn ei wneud. Pam na fyddai’n deg rhoi’r bai ar y tad am y ffordd mae’r mab yn ymddwyn?
A fyddai’n deg rhoi’r bai ar Jehofa a gwrthod dysgu amdano oherwydd y pethau mae gau grefydd wedi eu gwneud?
BYDD RHAI YN DWEUD: “Mae crefydd wedi achosi cymaint o broblemau, felly does gen i ddim diddordeb yn Nuw.”
Ydych chi’n teimlo fel hynny?
Pam na ddylai ymddygiad gau grefydd effeithio ar ein hagwedd at Jehofa?
CRYNODEB
Mae gau grefydd wedi rhoi darlun camarweiniol o Dduw trwy ei dysgeidiaeth anghywir a’i gweithredoedd ffiaidd. Bydd Duw yn dinistrio gau grefydd.
Adolygu
Sut rydych chi’n teimlo am ddysgeidiaethau a gweithredoedd gau grefydd?
Sut mae Jehofa yn teimlo am gau grefydd?
Sut bydd Duw yn delio â gau grefydd?
DARGANFOD MWY
Dysgwch am ddwy ffordd nad yw’r rhan fwyaf o grefyddau yn plesio Duw.
“Ydy Pob Crefydd yr Un Fath yn y Bôn? Ydyn Nhw i Gyd yn Arwain at Dduw?” (Erthygl ar jw.org)
Pam mae Jehofa eisiau i ni ei addoli yng nghwmni pobl eraill?
“A Oes Angen Perthyn i Grefydd Gyfundrefnol?” (Erthygl ar jw.org)
Roedd offeiriad yn teimlo’n anesmwyth am ei grefydd. Ond nid oedd hyn yn ei atal rhag dysgu’r gwir am Dduw.
“Pam Gadawodd Offeiriad Ei Eglwys” (Deffrwch!, Chwefror 2015)
Ers canrifoedd, mae crefyddau wedi dweud celwyddau sy’n rhoi’r argraff bod Duw yn greulon ac yn bell. Dysgwch y gwir am dri o’r celwyddau hynny.
“Celwyddau Sy’n Gwneud Hi’n Anodd Caru Duw” (Y Tŵr Gwylio, Tachwedd 1, 2013)
a I weld pam mae llyfr Datguddiad yn disgrifio gau grefydd fel gwraig o’r enw Babilon Fawr, gweler Ôl-nodyn 1.