LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • lff gwers 44
  • Ydy Pob Gŵyl a Dathliad yn Plesio Duw?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Ydy Pob Gŵyl a Dathliad yn Plesio Duw?
  • Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • CLODDIO’N DDYFNACH
  • CRYNODEB
  • DARGANFOD MWY
  • Eich Dewis i Addoli Duw
    Beth Allwn Ni ei Ddysgu o’r Beibl?
  • Pam Nad Ydy Tystion Jehofa yn Dathlu Rhai Gwyliau?
    Cwestiynau Cyffredin am Dystion Jehofa
  • Sefwch yn Gadarn o Blaid Gwir Addoliad
    Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?
  • A Ddylen Ni Ddathlu Gwyliau?
    Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?
Gweld Mwy
Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
lff gwers 44
Gwers 44. Cannoedd o bobl yn gollwng lanternau i awyr y nos yn ystod gŵyl.

GWERS 44

Ydy Pob Gŵyl a Dathliad yn Plesio Duw?

Fersiwn Printiedig
Fersiwn Printiedig
Fersiwn Printiedig

Mae Jehofa eisiau inni fwynhau bywyd a chael dathlu ar adegau. Ond a yw pob gŵyl a dathliad yn ei blesio? Sut gall ein penderfyniadau ddangos ein bod ni’n caru Jehofa?

1. Pam nad ydy pob dathliad yn plesio Jehofa?

Efallai byddwch yn synnu o ddysgu bod gwreiddiau anysgrythurol neu hyd yn oed paganaidd i lawer o ddathliadau. Mae rhai yn gysylltiedig â gau grefydd, ysbrydegaeth, neu’r syniad bod gan bobl enaid anfarwol. Mae dathliadau eraill yn seiliedig ar gredoau ofergoelus, neu’r gred mewn ffawd. (Eseia 65:11) Mae Jehofa yn rhybuddio ei bobl: “Gwahanwch eich hunain oddi wrthyn nhw . . . a stopiwch gyffwrdd â’r peth aflan.”—2 Corinthiaid 6:17.a

2. Sut mae Jehofa yn teimlo am ddathliadau sy’n rhoi clod amhriodol i bobl?

Mae Jehofa yn ein rhybuddio ni rhag “trystio pobl feidrol.” (Darllenwch Jeremeia 17:5.) Mae rhai dathliadau yn rhoi clod i arweinwyr neu filwyr. Mae eraill yn dathlu annibyniaeth neu symbolau cenedlaethol. (1 Ioan 5:21) Pwrpas gwyliau eraill yw dathlu cyfundrefnau gwleidyddol neu gymdeithasol. Sut byddai Jehofa yn teimlo petasen ni’n rhoi clod amhriodol i berson neu gyfundrefn, yn enwedig un sy’n mynd yn groes i’w bwrpas?

3. Pa fath o ymddygiad sy’n gwneud dathliad yn annerbyniol yng ngolwg Jehofa?

Mae’r Beibl yn erbyn “goryfed, partïon gwyllt [a] sesiynau yfed.” (1 Pedr 4:3) Yn ystod rhai dathliadau, mae pobl yn ymddwyn yn anfoesol ac yn dangos diffyg hunan-reolaeth. Er mwyn aros yn agos at Jehofa, mae’n rhaid inni gadw draw oddi wrth anfoesoldeb o’r fath.

CLODDIO’N DDYFNACH

Dysgwch sut gallwch chi blesio Jehofa drwy wneud penderfyniadau doeth ynglŷn â gwyliau a dathliadau.

Rhywun yn cynnig anrheg Nadolig i frawd yn y gweithle.

4. Gwrthod dathliadau sy’n amharchu Jehofa

Darllenwch Effesiaid 5:10, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Beth sy’n bwysig inni ei ystyried wrth ddewis a fydden ni’n dathlu gŵyl neu beidio?

  • Pa ddathliadau sy’n boblogaidd yn eich ardal chi?

  • Ydych chi’n meddwl bod y dathliadau hynny yn plesio Jehofa?

Er enghraifft, ydych chi erioed wedi gofyn: Sut mae Duw’n teimlo am ddathlu penblwyddi? Nid oes dim sôn yn y Beibl am weision Jehofa yn dathlu penblwyddi. Ddwywaith yn unig mae’r Beibl yn sôn am ddathliadau pen-blwydd, a phob tro gan bobl nad oedden nhw’n gwasanaethu Jehofa. Darllenwch Genesis 40:20-22 a Mathew 14:6-10. Yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Beth sy’n debyg rhwng y ddau ben-blwydd?

  • Yn ôl yr hanesion hyn, sut rydych chi’n meddwl mae Jehofa yn teimlo am ddathliadau pen-blwydd?

Ond efallai byddwch yn gofyn, ‘Ydy Jehofa yn poeni os ydw i’n dathlu pen-blwydd, neu ryw ŵyl anysgrythurol arall?’ Darllenwch Exodus 32:1-8. Yna, gwyliwch y FIDEO a thrafodwch y cwestiynau canlynol:

FIDEO: Dathliadau Sydd Ddim yn Plesio Duw (5:07)

  • Pam mae’n bwysig inni wybod beth sy’n plesio Jehofa?

  • Sut gallwn ni wneud hynny?

Sut i wybod a ydy gŵyl yn plesio Jehofa

  • A ydy’r ŵyl wedi ei seilio ar ddysgeidiaethau anysgrythurol? I ddysgu’r ateb, edrychwch ar ei gwreiddiau.

  • A ydy’r ŵyl yn rhoi clod amhriodol i bobl, cyfundrefnau, neu symbolau cenedlaethol? Rydyn ni’n rhoi clod i Jehofa o flaen pawb arall ac yn ymddiried ynddo i ddatrys problemau’r byd.

  • A ydy arferion a thraddodiadau’r ŵyl yn mynd yn groes i egwyddorion y Beibl? Mae’n bwysig inni aros yn foesol lân.

5. Helpu eraill i barchu eich penderfyniadau

Gall fod yn anodd cadw at eich penderfyniad pan fydd eraill yn rhoi pwysau arnoch chi i gymryd rhan mewn dathliadau sydd ddim yn plesio Jehofa. Eglurwch eich penderfyniadau mewn ffordd amyneddgar a pharchus. I weld sut i wneud hynny, gwyliwch y FIDEO.

FIDEO: Eglurwch Eich Daliadau Mewn Ffordd Barchus (2:01)

Darllenwch Mathew 7:12, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Yn ôl yr adnod hon, a ddylech chi ddweud wrth eich teulu na ddylen nhw ddathlu ryw ŵyl benodol?

  • Sut gallwch chi ddangos i’ch teulu eich bod chi’n dal i’w caru nhw, er nad ydych chi’n cymryd rhan yn eu dathliadau?

6. Mae Jehofa eisiau inni fod yn hapus

Mae Jehofa yn dymuno inni fwynhau amser da gyda’n teulu a’n ffrindiau. Darllenwch Pregethwr 8:15, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Sut mae’r adnod hon yn dangos bod Jehofa eisiau inni fod yn hapus?

Mae Jehofa yn dymuno i’w bobl gael hwyl a mwynhau cwmni ei gilydd. Gwyliwch y FIDEO i weld hyn ar waith yn ein cynadleddau rhyngwladol.

FIDEO: Rhoi Croeso Cynnes Yn Ystod Cynadleddau Rhyngwladol (5:40)

Darllenwch Galatiaid 6:10, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • A ydyn ni angen dathlu gwyliau poblogaidd er mwyn ‘gwneud yr hyn sy’n dda i bawb’?

  • Beth sy’n eich gwneud chi’n hapusach—teimlo o dan bwysau i roi anrhegion yn ystod rhyw ŵyl, neu roi o’ch gwirfodd?

  • Mae rhai rhieni Cristnogol yn trefnu rhywbeth arbennig i’w plant bob hyn a hyn, a hyd yn oed yn rhoi anrhegion iddyn nhw fel syrpréis. Os oes gynnoch chi blant, pa bethau arbennig gallwch chi eu gwneud ar eu cyfer nhw?

Merch yn derbyn anrheg fel syrpréis gan ei rhieni.

BYDD RHAI YN DWEUD: “Dydy gwreiddiau dathliad ddim yn bwysig. Y peth pwysicaf ydy cael amser da gyda theulu a ffrindiau.”

  • Beth fyddech chi’n ei ddweud?

CRYNODEB

Mae Jehofa eisiau inni fwynhau amser gyda theulu a ffrindiau. Ond y mae hefyd eisiau inni osgoi dathliadau sydd ddim yn ei blesio.

Adolygu

  • Pa gwestiynau gallwn ni eu gofyn i weld a ydy dathliad yn plesio Jehofa?

  • Sut gallwn ni helpu ein teulu a’n ffrindiau i ddeall pam nad ydyn ni’n cymryd rhan mewn rhai dathliadau?

  • Sut rydych chi’n gwybod bod Jehofa eisiau inni fod yn hapus a chael hwyl?

Nod

DARGANFOD MWY

Ystyriwch rai dathliadau nad ydy Cristnogion yn eu dathlu.

“Pam Nad Ydy Tystion Jehofa yn Dathlu Rhai Gwyliau?” (Erthygl ar jw.org)

Ystyriwch bedwar rheswm dros gredu nad ydy dathlu penblwyddi yn plesio Jehofa.

“Pam Nad Yw Tystion Jehofa yn Dathlu Penblwyddi?” (Erthygl ar jw.org)

Sylwch ar sut gall plant ifanc syʼn caru Jehofa ei blesio Ef yn ystod adeg y gwyliau.

Rwyt Ti’n Werthfawr i Jehofa (11:35)

Mae miliynau o Gristnogion wedi dewis peidio â dathlu’r Nadolig. Sut maen nhw’n teimlo am eu penderfyniad?

“Daethon Nhw o Hyd i Rywbeth Gwell” (Y Tŵr Gwylio, Rhagfyr 1, 2012)

a Gweler Ôl-nodyn 5 i ddysgu sut i ymdopi â sefyllfaoedd sy’n codi ynglŷn â dathliadau penodol.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu