LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • lff gwers 55
  • Cefnogi Eich Cynulleidfa

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Cefnogi Eich Cynulleidfa
  • Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • CLODDIO’N DDYFNACH
  • CRYNODEB
  • DARGANFOD MWY
  • Diolch i Jehofa am Eich Cariad
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2021
  • Cyfraniad i Jehofa
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2018
  • Beth Mae’r Beibl Yn ei Ddweud am Waith ac Arian?
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Sut Mae Gwaith Tystion Jehofa yn Cael ei Ariannu?
    Cwestiynau Cyffredin am Dystion Jehofa
Gweld Mwy
Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
lff gwers 55
Gwers 55. Brodyr a chwiorydd yn gwneud gwaith cynnal a chadw ar eu Neuadd.

GWERS 55

Cefnogi Eich Cynulleidfa

Fersiwn Printiedig
Fersiwn Printiedig
Fersiwn Printiedig

Ledled y byd, mae miliynau o bobl yn addoli Jehofa yn llawen mewn miloedd o gynulleidfaoedd. Maen nhw’n ddiolchgar iawn am yr arweiniad maen nhw’n ei gael yno, ac maen nhw’n awyddus i gefnogi’r gynulleidfa mewn nifer o ffyrdd. Ai dyna sut rydych chi’n teimlo am eich cynulleidfa chi?

1. Sut gallwch chi ddefnyddio eich amser a’ch egni i gefnogi’r gynulleidfa?

Gallwn ni i gyd roi help llaw yn y gynulleidfa. Er enghraifft, a oes pobl hŷn yn eich cynulleidfa, neu rai anabl? A allwch chi eu helpu nhw i deithio i’r cyfarfodydd? Neu a allwch chi eu helpu mewn ffyrdd ymarferol eraill, fel siopa neu wneud gwaith tŷ? (Darllenwch Iago 1:​27.) Gallwn ni hefyd gynnig glanhau Neuadd y Deyrnas neu wneud gwaith cynnal a chadw yno. Does neb yn ein gorfodi ni i wneud y pethau hyn, ond mae ein cariad tuag at Dduw a’n brodyr yn ein hysgogi ni i ddweud: “Dyma fi; anfon fi.”​—Eseia 6:8.

Gall Tystion sydd wedi eu bedyddio gefnogi’r gynulleidfa mewn ffyrdd eraill. Mae brodyr sy’n gymwys yn ysbrydol yn gallu gwasanaethu fel gweision y gynulleidfa, ac ymhen amser fel henuriaid. Mae gan frodyr a chwiorydd y fraint o gael rhan yn y gwaith pregethu a gwasanaethu fel arloeswyr. Mae rhai Tystion yn gallu helpu drwy adeiladu mannau addoli, neu drwy symud i ardal lle mae’r gynulleidfa angen help.

2. Sut gallwn ni ddefnyddio ein heiddo i gefnogi’r gynulleidfa?

Gallwn ‘ddefnyddio ein cyfoeth i anrhydeddu’r ARGLWYDD.’ (Diarhebion 3:9) Rydyn ni’n hapus i roi o’n harian a’n heiddo i gefnogi’r gynulleidfa leol a’r gwaith pregethu byd-eang. (Darllenwch 2 Corinthiaid 9:7.) Mae ein cyfraniadau hefyd yn cefnogi gwaith cymorth ar ôl trychineb. Mae llawer yn dewis ‘rhoi rhywbeth o’r neilltu’ yn rheolaidd i’w gyfrannu. (Darllenwch 1 Corinthiaid 16:2.) Gallwn gyfrannu drwy ddefnyddio’r blychau cyfrannu yn ein mannau addoli, neu ar lein ar donate.jw.org. Mae Jehofa yn rhoi cyfle inni ddangos ein cariad tuag ato drwy’r ffordd rydyn ni’n dewis defnyddio ein pethau materol.

CLODDIO’N DDYFNACH

Meddyliwch am ffyrdd y gallwch chi gefnogi’r gynulleidfa.

3. Gallwn ddefnyddio ein heiddo

Mae Jehofa’n caru’r rhai sy’n rhoi’n llawen, ac mae Iesu’n teimlo’r un ffordd. Er enghraifft, sylwodd Iesu ar wraig weddw dlawd a’i hymdrech i gyfrannu. Darllenwch Luc 21:​1-4, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Oes rhaid inni gyfrannu llawer o arian er mwyn plesio Jehofa?

  • Sut mae Jehofa ac Iesu’n teimlo pan fyddwn ni’n rhoi o’n gwirfodd?

I weld sut mae ein cyfraniadau’n cael eu defnyddio, gwyliwch y FIDEO. Yna trafodwch y cwestiwn canlynol:

FIDEO: Cyfraniad i Jehofa (4:​47)

  • Sut mae cyfraniadau’n cael eu defnyddio i helpu cynulleidfaoedd ledled y byd?

Chwaer hŷn yn rhoi arian yn y blwch cyfrannu.

4. Gallwn wirfoddoli i helpu

Yn amser y Beibl, roedd pobl Jehofa yn gweithio’n galed i gynnal a chadw eu mannau addoli. Ond roedd mwy i hyn na chyfrannu arian yn unig. Darllenwch 2 Cronicl 34:​9-​11, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Sut roedd pawb yng nghenedl Israel yn helpu i ofalu am dŷ Jehofa, eu man addoli?

I weld sut mae Tystion Jehofa yn dilyn eu hesiampl, gwyliwch y FIDEO. Yna trafodwch y cwestiynau canlynol:

FIDEO: Gofalu am Ein Haddoldai (3:​31)

Golygfa o’r fideo ‘Gofalu am Ein Haddoldai’. Dynion, merched a phlant yn glanhau eu Neuadd.
  • Pam mae’n bwysig inni gadw Neuadd y Deyrnas yn lân ac mewn cyflwr da?

  • Sut gallwch chi helpu?

Grŵp o Dystion yn gwirfoddoli i adeiladu Neuadd y Deyrnas.

5. Gall brodyr estyn allan am fwy o gyfrifoldeb yn y gynulleidfa

Mae’r Beibl yn annog brodyr i estyn allan i wneud cymaint ag y gallan nhw i gefnogi’r gynulleidfa. I weld esiampl, gwyliwch y FIDEO. Yna atebwch y cwestiwn sy’n dilyn.

FIDEO: Frodyr​—Estynnwch Allan i Wneud Gwaith Da (5:19)

  • Yn y fideo, beth a wnaeth Ryan er mwyn cefnogi’r gynulleidfa’n fwy?

Mae’r Beibl yn esbonio beth sy’n rhaid i frodyr ei wneud er mwyn bod yn gymwys i fod yn was y gynulleidfa neu’n henuriad. Darllenwch 1 Timotheus 3:​1-​13, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Beth sy’n cael ei ddisgwyl gan frawd sy’n estyn allan i fod yn was y gynulleidfa neu’n henuriad?

  • Beth sy’n cael ei ddisgwyl gan ei deulu?—Gweler adnodau 4 ac 11.

  • Sut bydd pawb yn y gynulleidfa yn elwa pan fydd brodyr yn ceisio cwrdd â’r cymwysterau hyn?

Brawd ifanc yn gwthio brawd hŷn mewn cadair olwyn o ddrws i ddrws yn y weinidogaeth.

BYDD RHAI YN GOFYN: “Sut mae gwaith Tystion Jehofa yn cael ei ariannu?”

  • Sut byddech chi’n ateb?

CRYNODEB

Mae Jehofa yn gwerthfawrogi popeth rydyn ni’n ei wneud i gefnogi’r gynulleidfa drwy ddefnyddio ein hamser, ein hegni, a’n heiddo.

Adolygu

  • Sut gallwn ni ddefnyddio ein hamser a’n hegni i gefnogi’r gynulleidfa?

  • Sut gallwn ni ddefnyddio ein heiddo i gefnogi’r gynulleidfa?

  • Beth hoffech chi ei wneud er mwyn cefnogi’r gynulleidfa?

Nod

DARGANFOD MWY

Ystyriwch pam nad yw Duw bellach yn gofyn i’w addolwyr dalu degwm.

“Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Dalu Degwm?” (Erthygl ar jw.org)

Maeʼr Beibl yn aseinio rhai cyfrifoldebau i frodyr sydd wedi eu bedyddio. Ond beth petai angen i chwaer sydd wedi ei bedyddio ofalu am y cyfrifoldebau hyn?

“Deall Penteuluaeth yn y Gynulleidfa” (Y Tŵr Gwylio, Chwefror 2021)

Dewch i gwrdd â rhai Tystion dewr sy’n gwneud aberth mawr er mwyn mynd â chyhoeddiadau at eu cyd-Gristnogion.

Dosbarthu Cyhoeddiadau am y Beibl yn y Congo (4:​25)

Gwelwch sut mae ein gwaith yn cael ei ariannu mewn ffordd sy’n wahanol iawn i gyfundrefnau crefyddol eraill.

“Sut Mae Gwaith Tystion Jehofa yn Cael ei Ariannu?” (Erthygl ar jw.org)

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu