LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • lmd gwers 8
  • Amynedd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Amynedd
  • Caru Pobl—Gwneud Disgyblion
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Esiampl Iesu
  • Beth Rydyn Ni’n Ei Ddysgu o Esiampl Iesu?
  • Dilyna Esiampl Iesu
  • Parha i Fod yn Amyneddgar
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2023
  • Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Defnyddio Fideos i Ddysgu Eraill
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr ar Gyfer y Cyfarfodydd—2016
  • Gall Aberth Iesu Eich Helpu Chi
    Pynciau Eraill
  • Dangos Diddordeb
    Caru Pobl—Gwneud Disgyblion
Gweld Mwy
Caru Pobl—Gwneud Disgyblion
lmd gwers 8

PARHAU Â’R SGWRS

Iesu yn mynd i weld ei frawd Iago mewn gweithdy saer coed. Mae Iago yn synnu o’i weld.

Ioan 7:​3-5; 1 Cor. 15:​3, 4, 7

GWERS 8

Amynedd

Egwyddor: “Mae cariad yn amyneddgar.” —1 Cor. 13:4.

Esiampl Iesu

Iesu yn mynd i weld ei frawd Iago mewn gweithdy saer coed. Mae Iago yn synnu o’i weld.

FIDEO: Iesu yn Amyneddgar â’i Frawd

1. Gwylia’r FIDEO, neu darllena Ioan 7:​3-5 a 1 Corinthiaid 15:​3, 4, 7. Yna ystyria’r cwestiynau canlynol:

  1. Beth oedd ymateb brodyr Iesu i’w neges ar y dechrau?

  2. Beth sy’n dangos bod Iesu wedi parhau i geisio helpu ei frawd Iago?

Beth Rydyn Ni’n Ei Ddysgu o Esiampl Iesu?

2. Mae angen inni fod yn amyneddgar gan fod rhai yn cymryd mwy o amser i dderbyn y newyddion da.

Dilyna Esiampl Iesu

3. Ceisia fynd ati mewn ffordd arall. Os nad yw’r person yn fodlon astudio’r Beibl yn syth, paid â rhoi pwysau arno. Pan gei di gyfle addas, defnyddia fideos neu erthyglau i’w helpu i ddeall beth sy’n digwydd yn ystod astudiaeth Feiblaidd a sut byddai astudio yn ei helpu.

4. Paid â chymharu. Mae pob person yn unigryw. Os bydd aelod teulu neu rywun yn y weinidogaeth yn dal yn ôl rhag astudio’r Beibl, neu rhag derbyn beth mae’r Beibl yn ei ddweud, ceisia ddeall pam. Oes ganddo gysylltiad emosiynol â rhyw syniad crefyddol arbennig? Ydy’r teulu neu’r cymdogion yn rhoi pwysau arno? Rho amser iddo feddwl am y peth a dod i werthfawrogi geiriau’r Beibl.

5. Gweddïa dros y person. Gofynna i Jehofa am help i aros yn obeithiol ac i fod yn sensitif ac yn garedig. Gweddïa am ddoethineb er mwyn gwybod pryd i stopio galw ar rywun sydd wedi colli diddordeb. —1 Cor. 9:26.

GWELER HEFYD

Marc 4:​26-28; 1 Cor. 3:​5-9; 2 Pedr 3:9

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu