LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • lmd gwers 11
  • Cadw Pethau’n Syml

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Cadw Pethau’n Syml
  • Caru Pobl—Gwneud Disgyblion
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Esiampl Iesu
  • Beth Rydyn Ni’n Ei Ddysgu o Esiampl Iesu?
  • Dilyna Esiampl Iesu
  • Helpa Dy Fyfyrwyr i Gael eu Bedyddio
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2021
  • Defnyddio “Mwynhewch Fywyd am Byth!” i Gynnal Astudiaethau Beiblaidd
    Caru Pobl—Gwneud Disgyblion
  • Sut i Helpu Myfyriwr y Beibl i Gyrraedd Bedydd—Rhan Dau
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2020
  • Sut i Helpu Myfyriwr y Beibl i Gyrraedd Bedydd—Rhan Un
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2020
Gweld Mwy
Caru Pobl—Gwneud Disgyblion
lmd gwers 11

GWNEUD DISGYBLION

Iesu yn dysgu grŵp o bobl ar fin y dŵr. Adar yn hedfan uwchben a blodau gwyllt yn tyfu gerllaw.

Math. 6:​25-27

GWERS 11

Cadw Pethau’n Syml

Egwyddor: “[Defnyddia’r] tafod i ddweud geiriau sy’n hawdd eu deall.”—1 Cor. 14:9.

Esiampl Iesu

Iesu yn dysgu grŵp o bobl ar fin y dŵr. Adar yn hedfan uwchben a blodau gwyllt yn tyfu gerllaw.

FIDEO: Eglurebau Iesu yn Dangos Gofal Ei Dad Amdanon Ni

1. Gwylia’r FIDEO, neu darllena Mathew 6:​25-27. Yna ystyria’r cwestiynau canlynol:

  1. Pa eglureb a roddodd Iesu i ddangos bod Jehofa’n gofalu amdanon ni?

  2. Er bod Iesu’n gwybod llawer o ffeithiau am adar, canolbwyntiodd ar ba fanylyn syml? Pam roedd hynny’n ffordd dda o ddysgu?

Beth Rydyn Ni’n Ei Ddysgu o Esiampl Iesu?

2. Os ydyn ni’n dysgu mewn ffordd syml, bydd pobl yn cofio yn well a byddwn ni’n cyffwrdd â’u calonnau.

Dilyna Esiampl Iesu

3. Paid â siarad gormod. Yn hytrach na dweud popeth rwyt ti’n ei wybod am y pwnc, canolbwyntia ar y pwyntiau yn y cyhoeddiad. Ar ôl gofyn cwestiwn, arhosa yn amyneddgar am yr ateb. Os nad yw’r myfyriwr yn gwybod yr ateb, neu os yw’n mynegi barn sy’n groes i ddysgeidiaeth y Beibl, defnyddia gwestiynau eraill i’w helpu i resymu. Unwaith ei fod yn deall y prif bwynt, symuda ymlaen.

4. Helpa’r myfyriwr i gysylltu dysgeidiaethau newydd â’r hyn y mae’n ei wybod yn barod. Er enghraifft, cyn dechrau gwers am yr atgyfodiad, efallai cei di adolygu beth mae’r myfyriwr eisoes wedi ei ddysgu am gyflwr y meirw.

5. Defnyddia eglurebau’n ofalus. Cyn iti ddefnyddio eglureb, gofynna i ti dy hun:

  1. ‘Ydy’r eglureb yn syml?’

  2. ‘A fydd yn hawdd i’r myfyriwr ei deall?’

  3. ‘A fydd yn helpu’r myfyriwr i gofio’r prif bwynt yn hytrach na chofio’r eglureb yn unig?’

GWELER HEFYD

Math. 11:25; Ioan 16:12; 1 Cor. 2:1.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu