GWNEUD DISGYBLION
GWERS 12
Dewrder
Egwyddor: “Fel mae olew a phersawr yn gwneud rhywun yn hapus, mae cyngor ffrind yn gwneud bywyd yn felys.”—Diar. 27:9.
Esiampl Iesu
1. Gwylia’r FIDEO, neu darllena Marc 10:17-22. Yna ystyria’r cwestiynau canlynol:
Pa rinweddau a welodd Iesu yn y dyn ifanc?
Pam roedd angen cariad a dewrder ar Iesu i roi cyngor i’r dyn?
Beth Rydyn Ni’n Ei Ddysgu o Esiampl Iesu?
2. Mae angen inni siarad yn garedig, ond hefyd i esbonio’n eglur beth mae’r myfyriwr yn gallu ei wneud i nesáu at Jehofa.
Dilyna Esiampl Iesu
3. Helpa’r myfyriwr i osod amcanion a’u cyrraedd.
Tynna sylw at y “Nod” ym mhob gwers yn y llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth!
Helpa’r myfyriwr i weld y camau y mae angen eu cymryd er mwyn cyrraedd ei amcanion yn y tymor byr ac yn y tymor hir.
Cofia ganmol y myfyriwr am ei gynnydd.
4. Ceisia weld beth sy’n rhwystro’r myfyriwr rhag gwneud cynnydd a’i helpu i drechu’r rhwystrau hynny.
Gofynna i ti dy hun:
‘Os nad yw’r myfyriwr yn symud tuag at gael ei fedyddio, beth sy’n ei ddal yn ôl?’
‘Beth galla i ei wneud i’w helpu?’
Gweddïa am y dewrder i drafod, mewn ffordd agored a charedig, beth y mae angen i’r myfyriwr ei wneud.
5. Rho’r gorau i astudio gyda rhywun nad yw’n gwneud cynnydd
I benderfynu a yw’r myfyriwr yn gwneud cynnydd, gofynna i ti dy hun:
‘A yw’r myfyriwr yn rhoi beth mae’n ei ddysgu ar waith?’
‘A yw’n mynd i gyfarfodydd y gynulleidfa ac yn rhannu’r gwir ag eraill?’
‘Ar ôl astudio am amser hir, a yw’n dymuno dod yn un o Dystion Jehofa?’
Os nad yw’r myfyriwr yn gwneud cynnydd:
Gofynna iddo ystyried beth sy’n ei ddal yn ôl.
Esbonia’n garedig pam rwyt ti’n dod â’r astudiaeth i ben.
Esbonia beth bydd angen iddo ei wneud os yw’n dymuno astudio eto.
GWELER HEFYD
Salm 141:5; Diar. 25:12; 27:6; 1 Cor. 9:26; Col. 4:5, 6