Cwestiynau Ein Darllenwyr . . .
Ydy Tystion Jehofa yn Caniatáu i Fenywod Fod yn Weinidogion?
Ydyn. Ymhlith Tystion Jehofa mae miliynau o fenywod yn weinidogion. Maen nhw’n gweithio’n galed i gyhoeddi’r newyddion da am Deyrnas Dduw. Cafodd hyn ei ragfynegi yn Salm 68:11, sy’n dweud: “Mae’r ARGLWYDD yn dweud y gair, ac mae tyrfa o ferched yn cyhoeddi’r newyddion da.”
Ond mae gweinidogaeth y menywod hyn yn wahanol i weinidogaeth menywod sy’n arweinwyr mewn crefyddau eraill. Ym mha ffordd?
Fel arfer, mae menywod sy’n weinidogion yn yr eglwysi, yn arwain ac yn dysgu ymhlith aelodau’r eglwys. Ond mae menywod sy’n Dystion Jehofa yn pregethu i’r cyhoedd, boed hynny o ddrws i ddrws, neu mewn mannau eraill.
Yn wahanol i grefyddau eraill, dim ond dynion sy’n cael eu penodi fel arweinwyr yng nghynulleidfaoedd Tystion Jehofa. Felly, nid yw’r menywod yn dysgu yn y cyfarfodydd pan fo dynion bedyddiedig yn bresennol.—1 Timotheus 3:2; Iago 3:1.
Mae’r Beibl yn dweud mai dynion yn unig sydd i gael eu penodi’n henuriaid yn y gynulleidfa. Er enghraifft, dywedodd yr apostol Paul wrth Titus am benodi “arweinwyr yn yr eglwysi ym mhob un o’r trefi.” Ychwanegodd: “Ddylai pobl ddim gallu pigo bai ar fywyd arweinydd yn yr eglwys. Rhaid iddo fod yn ffyddlon i’w wraig.” (Titus 1:5, 6) Rhoddodd Paul gyfarwyddyd tebyg i Timotheus. Dywedodd: “Mae rhywun sydd ag uchelgais i fod yn arweinydd yn yr eglwys yn awyddus i wneud gwaith da. Felly rhaid i arweinydd fod yn ddi-fai. Rhaid iddo fod yn ŵr sy’n ffyddlon i’w wraig, . . . yn gallu dysgu eraill.”—1 Timotheus 3:1, 2.
Pam mai dynion yn unig sy’n cael eu penodi yn henuriaid? Dywedodd Paul: “Dw i ddim am ganiatáu i wraig hyfforddi a bod fel teyrn dros ddyn; rhaid iddi ddysgu yn dawel. Adda gafodd ei greu gyntaf, ac wedyn Efa.” (1 Timotheus 2:12, 13) Felly, mae’r drefn y mae Duw wedi creu bodau dynol yn dangos ei fod am i ddynion ddysgu ac arwain yn y gynulleidfa.
Mae pob un o Dystion Jehofa yn dilyn esiampl Iesu, eu Harweinydd. Ysgrifennodd Luc: “Roedd Iesu’n teithio o gwmpas y trefi a’r pentrefi yn cyhoeddi’r newyddion da am Dduw yn teyrnasu.” A dywedodd Iesu y dylai ei ddisgyblion wneud yr un gwaith: “Felly i ffwrdd â nhw i deithio o un pentref i’r llall gan gyhoeddi’r newyddion da.”—Luc 8:1; 9:2-6.
Heddiw, mae pob un o Dystion Jehofa, yn ddynion neu’n fenywod, yn gwneud eu gorau i wneud yr hyn a ragfynegodd Iesu: “Bydd y newyddion da am deyrnasiad Duw yn cael ei gyhoeddi drwy’r byd i gyd. Bydd pob gwlad yn ei glywed, a dim ond wedyn fydd y diwedd yn dod.”—Mathew 24:14.