LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w16 Tachwedd tt. 19-20
  • “Mae’r Dasg . . . yn Un Fawr”

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • “Mae’r Dasg . . . yn Un Fawr”
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2016
  • Erthyglau Tebyg
  • Cyfraniad i Jehofa
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2018
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2016
w16 Tachwedd tt. 19-20
Y Brenin Dafydd yn dangos cynllun pensaernïol y deml i ddyn arall; brawd yn edrych ar gynlluniau adeiladu

“Mae’r Dasg . . . yn Un Fawr”

MAE’R amser wedi dod ar gyfer cyfarfod pwysig iawn yn Jerwsalem. Mae’r Brenin Dafydd wedi galw ynghyd bob un o’i dywysogion, ei swyddogion, a’i arweinwyr milwrol. Maen nhw wrth eu boddau yn cael clywed cyhoeddiad arbennig. Mae Jehofa wedi comisiynu mab Dafydd, Solomon, i godi adeilad arbennig wedi ei gysegru ar gyfer addoli’r gwir Dduw. Mae brenin oedrannus Israel wedi derbyn y cynllun pensaernïol drwy ysbrydoliaeth ac wedi ei roi i Solomon. “Mae’r dasg o’i flaen yn un fawr,” meddai Dafydd, “achos nid adeilad i ddyn fydd hwn, ond i’r ARGLWYDD Dduw.”—1 Cron. 28:1, 2, 6, 11, 12; 29:1.

Nesaf, mae Dafydd yn gofyn y cwestiwn: “Felly pwy arall sydd am gyfrannu heddiw tuag at adeiladu teml Dduw?” (1 Cron. 29:5) Petaset ti wedi bod yno, sut byddet ti wedi ymateb? A fyddet ti wedi cael dy ysgogi i gefnogi’r gwaith arbennig hwnnw? Gweithredodd yr Israeliaid ar unwaith. Yn wir, “roedd pawb wrth eu boddau fod cymaint wedi’i gasglu, a bod pawb wedi bod mor barod i roi.”—1 Cron. 29:9.

Ganrifoedd yn ddiweddarach, sefydlodd Jehofa rywbeth llawer pwysicach na’r deml. Fe sefydlodd y deml ysbrydol fawr, sef trefn Duw i bobl fedru dod ato i addoli ar sail aberth Iesu. (Heb. 9:11, 12) Sut mae Jehofa yn helpu pobl i gymodi ag ef heddiw? Drwy’r gwaith o wneud disgyblion. (Math. 28:19, 20) O ganlyniad i’r gwaith hwnnw, mae miliynau o astudiaethau yn cael eu cynnal bob blwyddyn, mae miloedd o ddisgyblion yn cael eu bedyddio, ac mae cannoedd o gynulleidfaoedd newydd yn cael eu sefydlu.

Yn ei dro, mae cynnydd o’r fath yn gofyn am argraffu ychwaneg o lenyddiaeth Feiblaidd, am fwy o Neuaddau’r Deyrnas, ac yn golygu trefnu mwy o gynulliadau a chynadleddau. Onid wyt ti’n cytuno bod ein hymdrechion i ledaenu’r newyddion da yn waith arbennig a gwerth chweil?—Math. 24:14.

Mae cariad tuag at Dduw a chymydog ynghyd â sylweddoli bod pregethu’r newyddion da yn fater o frys yn achosi i bobl Jehofa “gyfrannu heddiw” tuag at waith y Deyrnas. Braint fawr yw inni ddefnyddio’r hyn sydd gennyn ni “i anrhydeddu’r ARGLWYDD” a braint hefyd yw gweld sut mae’r cyfraniadau hynny yn cael eu defnyddio mewn ffordd ddoeth yn y gwaith pwysicaf a fu erioed!—Diar. 3:9.

Y Gwahanol Ffyrdd Y Mae Rhai Yn Dewis Cyfrannu At Y Gwaith Byd-eang

Heddiw, mae llawer o bobl yn rhoi “arian o’r neilltu” a’i roi yn y blwch “Gwaith Byd-eang” yn Neuadd y Deyrnas. (1 Cor. 16:2) Bob mis, mae’r cynulleidfaoedd yn anfon y cyfraniadau hyn i swyddfa gangen Tystion Jehofa sy’n gofalu am eu gwlad nhw. Y mae hefyd yn bosibl iti anfon cyfraniadau yn uniongyrchol i endid cyfreithiol a ddefnyddir gan Dystion Jehofa yn dy wlad di. Er mwyn cael hyd i enw’r prif endid y mae’r Tystion yn ei ddefnyddio yn dy wlad, cysyllta â swyddfa’r gangen. Gellir dod o hyd i’r cyfeiriad ar www.pr2711.com. Dyma restr o’r mathau o gyfraniadau y gelli di eu hanfon:

CYFRANIADAU DIAMOD

  • Cyfrannu drwy drosglwyddo cyfalaf electronig, cerdyn debyd, cerdyn credyd, neu drwy drosglwyddo arian ar ddyfais symudol. Mewn rhai swyddfeydd cangen mae hyn hefyd yn bosibl drwy ddefnyddio jw.org neu wefan benodol arall.

  • Cyfraniadau o arian, gemwaith, neu eiddo gwerthfawr arall. Dylid atodi llythyr yn esbonio bod yr arian neu’r eiddo yn gyfraniad diamod.

TREFN CYFRANIADAU AMODOL

  • Cyfraniadau o arian gyda’r amod y gellir rhoi’r arian yn ôl i’r rhoddwr petai angen.

  • Dylid atodi llythyr yn esbonio bod y cyfraniad yn amodol.

CYNLLUN ELUSENNOL

Yn ogystal â rhoddion o arian ac eiddo personol, ceir dulliau eraill o gefnogi gwaith y Deyrnas yn fyd-eang. Mae rhestr ohonyn nhw isod. Pa ddull bynnag o gyfrannu rwyt ti’n ei ddewis, sicrha dy fod ti’n cysylltu â swyddfa’r gangen sy’n gofalu am dy wlad di i weld pa opsiynau sydd ar gael. Oherwydd bod amodau cyfreithiol a chyfreithiau trethi yn amrywio o un wlad i’r llall, mae’n bwysig cysylltu ag ymgynghorwyr cymwys sy’n arbenigo mewn materion treth a chyfreithiol cyn dewis y ffordd orau o gyfrannu.

Yswiriant: Cyfrannu drwy nodi endid a ddefnyddir gan Dystion Jehofa fel buddiolwr polisi yswiriant bywyd neu gynllun pensiwn.

Cyfrif Banc: Cyfrifon banc, tystysgrifau o adneuon banc, neu gyfrifon ymddeol personol sydd wedi eu sefydlu fel ymddiriedolaeth neu sy’n daladwy ar farwolaeth i endid a ddefnyddir gan Dystion Jehofa yn unol â gofynion y banc lleol.

Stociau a Bondiau: Cyfrannu stociau a bondiau at endid a ddefnyddir gan Dystion Jehofa fel rhodd ddiamod neu drwy gytundeb ysgrifenedig i’w trosglwyddo ar farwolaeth person.

Eiddo Diriaethol: Eiddo diriaethol gwerthadwy sydd wedi ei gyfrannu at endid a ddefnyddir gan Dystion Jehofa, un ai fel rhodd ddiamod, neu, yn achos eiddo preswyl, drwy ei gadw’n ystad am oes ar gyfer y rhoddwr sy’n gallu byw yno am weddill ei oes.

Blwydd-dal: Arian neu warantau a gyfrannwyd at endid a ddefnyddir gan Dystion Jehofa lle mae’r rhoddwr yn derbyn blwydd-dal penodol am weddill ei oes. Gall y rhoddwr dderbyn gostyngiad treth incwm am y flwyddyn y sefydlwyd y blwydd-dal.

Ewyllysiau ac Ymddiriedolaethau: Gadael eiddo neu arian i endid a ddefnyddir gan Dystion Jehofa mewn ewyllys gyfreithiol neu drwy nodi’r endid sy’n fuddiolwr yr ymddiriedolaeth. Gall y drefn hon ddod â manteision treth.

Fel mae’r term “cynllun elusennol” yn ei awgrymu, mae’r dulliau hyn o gyfrannu yn gofyn am rywfaint o gynllunio ymlaen llaw ar ran y rhoddwr. Er mwyn helpu unigolion sydd eisiau cyfrannu’n elusennol at waith byd-eang Tystion Jehofa, fe baratowyd y llyfryn Charitable Planning to Benefit Kingdom Service Worldwide. Mae’r llyfryn ar gael yn Saesneg neu yn Sbaeneg, ac mae wedi ei ysgrifennu er mwyn rhoi gwybodaeth ynglŷn â’r gwahanol ffyrdd y gall rhywun gyfrannu nawr ac yn y dyfodol, er enghraifft, drwy gymynrodd ar farwolaeth person. Efallai nid yw’r wybodaeth yn y llyfryn hwn yn cyfateb yn union i’th amgylchiadau oherwydd cyfreithiau treth neu gyfreithiau eraill yn dy wlad. Drwy ddefnyddio’r dulliau hyn o gyfrannu’n elusennol, mae llawer wedi gallu cefnogi ein gwaith crefyddol a dyngarol ar draws y byd, ac wedi elwa’n llawn ar fanteision treth. Os yw’r llyfryn ar gael yn dy wlad di, gelli di ofyn i ysgrifennydd dy gynulleidfa am gopi.

Am fwy o wybodaeth, clicio ar y ddolen “Rhoi Cyfraniad at Ein Gwaith Byd-eang” ar waelod y dudalen hafan ar jw.org, neu gelli di gysylltu â swyddfa’r gangen.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu