HANES BYWYD
Dod “yn Bob Peth i Bawb”
“Os gwnei di gael dy fedyddio, mi wna i dy adael di!” Dyna ddywedodd fy nhad wrth fy mam ym 1941. Er gwaethaf ei fygythiad, penderfynodd hi fwrw ymlaen a chael ei bedyddio yn arwydd o’i hymgysegriad i Jehofa. Gweithredodd fy nhad ar ei fygythiad a gadael. Roeddwn i’n wyth mlwydd oed.
ROEDDWN i eisoes wedi dechrau ymddiddori yng ngwirioneddau’r Beibl. Roedd fy mam wedi derbyn cyhoeddiadau am y Beibl ac roeddwn i yn eu darllen yn frwd ac yn gwirioni ar y lluniau. Doedd fy nhad ddim eisiau i Mam siarad â mi am yr hyn roedd hi’n ei ddysgu. Fodd bynnag, roeddwn i’n gofyn cwestiynau o hyd, felly gwnaeth fy mam astudio gyda mi pan oedd fy nhad oddi cartref. O ganlyniad, penderfynais innau hefyd fy mod i eisiau ymgysegru i Jehofa. Cefais fy medyddio yn Blackpool, Lloegr, ym 1943 yn ddeng mlwydd oed.
DECHRAU GWASANAETHU JEHOFA
O hynny allan, roedd Mam a minnau’n mynd yn y weinidogaeth yn rheolaidd gyda’n gilydd. Roedden ni’n defnyddio’r ffonograff i gyflwyno neges y Beibl. Roedden nhw’n bethau digon anodd eu trin, ac yn pwyso tua 10 pwys (4.5 kg). Meddylia amdanaf innau, yn fachgen bach, yn llusgo un o’r rheini o gwmpas!
Erbyn imi droi’n 14, roeddwn i eisiau arloesi. Dywedodd fy mam y dylwn i, yn gyntaf, ofyn barn arolygwr y gylchdaith. Awgrymodd ef y dylwn i geisio cael crefft o ryw fath a fyddai yn fy nghynnal wrth imi arloesi. A dyna wnes i. Ar ôl gweithio am ddwy flynedd, siaradais ag arolygwr teithiol arall ynglŷn ag arloesi. Dywedodd yntau: “Dos amdani!”
Felly, ym mis Ebrill 1949, cafodd Mam a minnau wared â dodrefn ein tŷ rhent, symud i Middleton ar bwys Manceinion, a dechrau arloesi. Ar ôl pedwar mis, dewisais frawd i fod yn bartner arloesi imi. Awgrymodd swyddfa’r gangen inni symud i gynulleidfa newydd ei sefydlu yn Irlam. Aeth fy mam i arloesi gyda chwaer mewn cynulleidfa arall.
Er mai dim ond 17 mlwydd oed oeddwn i, cafodd fy mhartner a minnau’r cyfrifoldeb o arwain y cyfarfodydd oherwydd nad oedd digon o frodyr cymwys yn y gynulleidfa newydd. Yn ddiweddarach, gofynnwyd imi symud i gynulleidfa Buxton, lle’r oedd angen help ar y llond llaw o gyhoeddwyr. Rydw i bob amser wedi ystyried y profiadau cynnar hynny yn hyfforddiant da ar gyfer aseiniadau’r dyfodol.
Hysbysebu anerchiad cyhoeddus gydag eraill yn Rochester, Efrog Newydd, ym 1953
Ym 1951, cyflwynais gais i fynd i Ysgol Feiblaidd Gilead y Watchtower. Sut bynnag, ym mis Rhagfyr 1952, cefais fy ngalw i’r lluoedd arfog. Gofynnais imi gael fy eithrio oherwydd fy mod i’n weinidog llawn amser, ond gwrthododd y llys gydnabod hynny a chefais fy nedfrydu i chwe mis o garchar. Tra oeddwn i yno, cefais wahoddiad i fynd i ddosbarth rhif 22 o Ysgol Gilead. Ac felly, ym mis Gorffennaf 1953, roeddwn i ar y llong Georgic yn hwylio am Efrog Newydd.
Pan gyrhaeddais, roeddwn i’n gallu mynd i gynhadledd 1953 a chanddi’r thema New World Society. Teithiais ymlaen wedyn ar y trên i South Lansing, Efrog Newydd, lle cynhelid yr ysgol. A minnau newydd gael fy rhyddhau o’r carchar, doedd gen i fawr ddim o arian. Yna, roedd angen dal y bws o’r orsaf i South Lansing, a bu’n rhaid imi fenthyg y 25 sent gan un o’m cyd-deithwyr i brynu’r tocyn.
I WLAD DRAMOR
Cawson ni hyfforddiant gwych yn Gilead i’n helpu ni i fod “yn bob peth i bawb.” (1 Cor. 9:22) Anfonwyd tri ohonon ni—Paul Bruun, Raymond Leach, a minnau—i Ynysoedd y Philipinau. Roedd rhaid aros sawl mis am gael fisa, ac yna dyma ni’n mynd ar y llong drwy Rotterdam, Môr y Canoldir, Camlas Sŵes, Cefnfor yr India, Maleisia, a Hong Cong—mordaith a gymerodd 47 diwrnod! O’r diwedd, cyrhaeddon ni Manila ar 19 Tachwedd, 1954.
Cymerodd 47 diwrnod ar long i’m cyd-genhadwr, Raymond Leach a minnau gyrraedd Ynysoedd y Philipinau
Yna dechreuodd y gwaith o ddod i arfer â phobl, gwlad, a hyd yn oed iaith newydd. Ar y dechrau, fe’n hanfonwyd i gynulleidfa yn Ninas Quezon, lle’r oedd llawer o’r trigolion yn siarad Saesneg. Felly, ar ôl chwe mis, dim ond ychydig o eiriau Tagalog roedden ni’n eu gwybod. Ond byddai ein haseiniad nesaf yn datrys y broblem honno.
Un diwrnod ym mis Mai 1955, ar ôl i’r Brawd Leach a minnau ddod adref o’r weinidogaeth, gwelon ni becyn o lythyrau yn ein haros. Cawson ni wybod ein bod ni’n cael ein penodi yn arolygwyr cylchdaith. Dim ond 22 flwydd oed oeddwn i, ond yn yr aseiniad hwnnw, cefais y cyfle i ddod “yn bob peth i bawb” mewn ffyrdd newydd.
Rhoi anerchiad cyhoeddus mewn cynulliad cylchdaith ar gyfer siaradwyr Bicoleg
Er enghraifft, traddodais fy anerchiad cyhoeddus cyntaf fel arolygwr cylchdaith yn yr awyr agored y tu allan i siop y pentref. Dysgais yn fuan fod anerchiadau cyhoeddus i fod yn gyhoeddus yng ngwir ystyr y gair! Wrth ymweld â’r cynulleidfaoedd, rhoddais anerchiadau mewn gasebos cyhoeddus a marchnadoedd, o flaen neuaddau cymunedol, ar gyrtiau pêl-fasged, mewn parciau, ac yn aml ar gorneli strydoedd yn y ddinas. Un tro, yn Ninas San Pablo, doeddwn i ddim yn medru rhoi’r anerchiad yn y farchnad oherwydd cawod o law trwm, ac felly awgrymais i’r brodyr cyfrifol y byddai’n well inni roi’r anerchiad yn Neuadd y Deyrnas. Wedi hynny, gofynodd y brodyr a oedd hi’n iawn iddyn nhw ei gofnodi fel cyfarfod cyhoeddus gan na chafodd ei gynnal mewn lle cyhoeddus!
Roeddwn i’n aros bob amser gyda’r brodyr. Roedd y cartrefi yn syml ond bob amser yn lân. Yn aml, roeddwn i’n cysgu ar fat ar y llawr pren. Nid oedd llawer o breifatrwydd ar gael ar gyfer ymolchi, ac felly dysgais sut mae rhywun yn mynd ati i ymolchi’n barchus yn yr awyr agored. Roeddwn i’n teithio mewn jeepney ac ar y bws, ac weithiau ar gwch er mwyn cyrraedd ynysoedd eraill. Drwy gydol fy holl wasanaethu, doeddwn i byth yn berchen ar gar.
Roedd gweithio yn y weinidogaeth ac ymweld â’r cynulleidfaoedd yn fy helpu i ddysgu Tagalog. Wnes i erioed ddilyn cwrs ffurfiol yn yr iaith, ond dysgais drwy wrando ar y brodyr yn y weinidogaeth ac yn y cyfarfodydd. Roedd y brodyr yn awyddus i’m helpu ac roeddwn i’n ddiolchgar am eu hamynedd a’u sylwadau gonest.
Wrth i amser fynd heibio, roedd aseiniadau newydd yn gofyn imi ymaddasu yn fwy byth. Ym 1956, pan ddaeth y Brawd Nathan Knorr i ymweld â ni, fi oedd yn gyfrifol am y cysylltiadau cyhoeddus yn y gynhadledd genedlaethol. Doedd gen i ddim profiad, ond roedd eraill yn hapus i’m rhoi ar ben ffordd. Lai na blwyddyn yn ddiweddarach, trefnwyd cynhadledd genedlaethol arall a daeth y Brawd Frederick Franz o’r pencadlys. Wrth imi wasanaethu fel arolygwr y gynhadledd, dysgais lawer gan y Brawd Franz a’i barodrwydd i ymaddasu i’r bobl. Roedd y brodyr lleol wrth eu boddau yn gweld y Brawd Franz yn rhoi’r anerchiad cyhoeddus ac yntau’n gwisgo’r barong Tagalog, gwisg draddodiadol Ynysoedd y Philipinau.
Pan gefais fy mhenodi yn arolygwr rhanbarth, bu’n rhaid imi ymaddasu unwaith eto. Ar y pryd, roedden ni’n dangos y ffilm The Happiness of the New World Society, gan amlaf yn yr awyr agored mewn llefydd cyhoeddus. Ar adegau, roedd y pryfetach yn bla. Roedden nhw’n cael eu denu gan olau’r taflunydd ac yn mynd yn sownd ynddo. Roedd glanhau’r taflunydd wedyn yn dasg a hanner! Nid gwaith hawdd oedd trefnu’r dangosiadau hyn, ond eto braf oedd gweld ymateb y bobl wrth iddyn nhw sylweddoli bod cyfundrefn Jehofa yn un ryngwladol.
Rhoddai’r offeiriaid Catholig bwysau ar yr awdurdodau lleol i beidio â chaniatáu ein cynadleddau. Neu bydden nhw’n ceisio boddi llais y siaradwr drwy ganu’r clychau pan oedden ni’n cynnal cyfarfodydd yn agos i’w heglwysi. Ond eto, aeth y gwaith yn ei flaen, ac mae llawer yn yr ardaloedd hynny bellach yn addoli Jehofa.
ASEINIADAU YN GOFYN AM FWY O YMADDASU
Ym 1959, cefais lythyr yn dweud fy mod i wedi cael aseiniad i wasanaethu yn swyddfa’r gangen. Roedd hyn yn broses ddysgu arall. Ymhen amser, gofynnwyd imi ymweld â gwledydd eraill. Ar un o’r teithiau hyn, gwnes i gyfarfod Janet Dumond a oedd yn genhades yng Ngwlad Thai. Mi fuon ni’n llythyru am gyfnod ac yn nes ymlaen priodon ni. Rydyn ni wedi mwynhau 51 mlynedd o fywyd priodasol yn gwasanaethu Jehofa gyda’n gilydd.
Gyda Janet ar un o ynysoedd niferus y Philipinau
Rydw i wedi cael y pleser o ymweld â phobl Jehofa mewn 33 o wledydd. Mor ddiolchgar ydw i fod yr aseiniadau cynnar a ges i wedi fy mharatoi ar gyfer yr her unigryw o ddelio gyda gwahanol fathau o bobl. Roedd yr ymweliadau hyn yn ehangu fy ngorwelion yn fyw byth ac yn fy helpu i weld sut mae Jehofa yn cofleidio pobl o bob math yn ei gariad.—Act. 10:34, 35.
Rydyn ni’n sicrhau ein bod ni’n cael rhan reolaidd yn y weinidogaeth
DAL I YMADDASU
Mae wedi bod yn bleser o’r mwyaf i wasanaethu Jehofa gyda’n brodyr yn Ynysoedd y Philipinau! Mae tua dengwaith cymaint o gyhoeddwyr yn y wlad heddiw ag yr oedd pan gyrhaeddais yma. Mae Janet a minnau’n dal yn gwasanaethu yn swyddfa’r gangen yn Ninas Quezon. Hyd yn oed ar ôl 60 mlynedd, mae’n rhaid imi fod yn barod i ymaddasu i beth bynnag mae Jehofa yn ei ofyn. Mae newidiadau cyfundrefnol diweddar wedi gofyn inni aros yn hyblyg wrth wasanaethu Jehofa a’n brodyr.
Mae’r cynnydd yn y nifer o gyhoeddwyr yn destun llawenydd inni
Trwy geisio deall a derbyn beth bynnag yw ewyllys Jehofa, rydyn ni wedi cael bywyd wrth ein boddau. Rydyn ni wedi ceisio ymaddasu er mwyn gwasanaethu ein brodyr yn dda. Tra bo Jehofa yn caniatáu inni, rydyn ni’n benderfynol o barhau i fod “yn bob peth i bawb.”
Rydyn ni’n dal yn gwasanaethu yn swyddfa’r gangen yn Ninas Quezon