LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • wp19 Rhif 1 tt. 4-5
  • Beth Ydy Enw Duw?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Beth Ydy Enw Duw?
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2019
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • PAM MAE ENW DUW YN BWYSIG
  • YR HYN MAE’R ENW YN EI DDATGELU
  • Enw Duw
    Deffrwch!—2017
  • Yr Enw Dwyfol—Ei Ddefnydd a’i Ystyr
    Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?
  • Pwy Yw Duw?
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2019
wp19 Rhif 1 tt. 4-5

Beth Ydy Enw Duw?

Os ydyn ni’n dod i adnabod rhywun, y peth cyntaf byddwn ni’n ei ofyn, mae’n debyg, ydy “Beth ydy’ch enw chi?” Petasech chi’n gofyn y cwestiwn hwnnw i Dduw, beth byddai ef yn ei ddweud?

“Myfi yw JEHOFAH.”—Exodus 6:2, Beibl Cysegr-lân.

Mae’n bosib bod yr enw hwnnw yn anghyfarwydd i chi, oherwydd mae llawer o gyfieithwyr y Beibl wedi rhoi’r teitl “ARGLWYDD” yn ei le. Ond mae enw Duw yn codi tua 7,000 o weithiau yn nhestun y Beibl yn yr ieithoedd gwreiddiol. Yn Hebraeg mae’r enw’n cynnwys pedair cytsain sy’n cyfateb i’r llythrennau IHWH neu JHFH. Yn Gymraeg mae hynny wedi cael ei drosi gan y gair “Jehofah” neu “Jehofa.”

Enw Duw yn Hebraeg yn Sgroliau’r Môr Marw

Salm, Sgroliau’r Môr Marw Y ganrif gyntaf OG, HEBRAEG

Enw Duw yn Saesneg yng nghyfieithiad y Beibl gan Tyndale

Cyfieithiad Tyndale 1530, SAESNEG

Enw Duw yn Sbaeneg yng nghyfieithiad Reina-Valera o’r Beibl

Cyfieithiad Reina-Valera 1602, SBAENEG

Enw Duw yn Tsieineeg yn yr Union Version o’r Beibl

Union Version 1919, TSIEINEEG

Mae enw Duw yn codi filoedd o weithiau yn y testun Hebraeg ac mae i’w weld mewn llawer o gyfieithiadau.

PAM MAE ENW DUW YN BWYSIG

Mae’r enw yn bwysig i Dduw ei hun. Nid enw mae rhywun arall wedi ei roi ar Dduw ydy hwn; mae’n enw y mae Duw wedi ei ddewis iddo ef ei hun. Dywedodd Jehofa: “Dyma fy enw i am byth, a’r enw fydd pobl yn ei gofio o un genhedlaeth i’r llall.” (Exodus 3:15) Yn y Beibl, mae enw Duw yn digwydd yn fwy aml nag unrhyw un o’i deitlau, fel Hollalluog, Tad, Duw, neu Arglwydd, ac yn fwy aml nag unrhyw enw personol arall, fel Abraham, Moses, Dafydd, neu Iesu. Ar ben hynny, mae Jehofa am i bobl wybod ei enw. Mae’r Beibl yn dweud: “Fel y gwypont mai tydi, yr hwn yn unig wyt JEHOFAH wrth dy enw, wyt Oruchaf ar yr holl ddaear.”—Salm 83:18, BC.

Mae’r enw yn bwysig i Iesu. Yn y weddi y mae rhai’n ei alw’n Weddi’r Arglwydd, dywedodd Iesu y dylai ei ddilynwyr weddïo: “Gad i dy enw gael ei sancteiddio.” (Mathew 6:9) Gweddïodd Iesu ar Dduw gyda’r geiriau: “Dad, gogonedda dy enw.” (Ioan 12:28) Roedd gogoneddu enw Duw yn flaenoriaeth i Iesu, a dyna pam roedd yn gallu dweud mewn gweddi: “Rydw i wedi rhoi gwybod iddyn nhw am dy enw di ac fe fydda i’n parhau i wneud hynny.”—Ioan 17:26.

Mae’r enw yn bwysig i’r rhai sy’n adnabod Duw. Roedd pobl Dduw yn y gorffennol yn deall bod cysylltiad rhwng enw unigryw Duw a’r ffaith ei fod yn eu hamddiffyn a’u hachub. Mae enw Jehofa “fel tŵr solet; mae’r rhai sy’n byw’n iawn yn rhedeg ato i fod yn saff.” (Diarhebion 18:10) Dywed un o’r proffwydi y bydd pwy bynnag sy’n galw ar enw Jehofa “yn cael ei achub.” (Joel 2:32). Mae’r Beibl yn dangos y byddai enw Jehofa yn un o’r pethau a fyddai’n gwneud pobl sy’n gwasanaethu Duw yn wahanol i bobl eraill. “Rhodia pob un o’r cenhedloedd yn enw ei duw, ac fe rodiwn ninnau yn enw’r ARGLWYDD ein Duw dros byth.”—Micha 4:5, Beibl Cymraeg Diwygiedig; Actau 15:14.

YR HYN MAE’R ENW YN EI DDATGELU

Mae’r enw yn enw unigryw ar Dduw. Mae llawer o ysgolheigion wedi dweud mai ystyr yr enw Jehofa ydy “Mae Ef yn Achosi i Fod.” Datgelodd Jehofa fwy am ystyr ei enw wrth siarad â Moses, gan gyfeirio ato Ef ei hun gyda’r geiriau: “Byddaf Beth Bynnag a Ddewisaf Fod.” (Exodus 3:14, Cyfieithiad y Byd Newydd) Mae enw Duw yn cyfleu mwy na’r ffaith mai Ef ydy’r Creawdwr sydd wedi creu popeth. Mae’r enw yn cyfleu ei allu i’w achosi ei hun a’i greadigaeth i fod beth bynnag sydd ei angen er mwyn cyflawni ei bwrpas. Er bod teitlau yn gallu disgrifio safle, awdurdod, neu nerth Duw, dim ond ei enw, Jehofa, sy’n cynrychioli popeth ydy Duw a phopeth y mae’n gallu bod.

Mae’r enw yn dangos diddordeb Duw ynon ni. Mae ystyr enw Duw yn cyfleu ei gariad parhaol aton ni ac at ei greadigaeth gyfan. Hefyd, mae’r ffaith bod Duw wedi gwneud ei enw’n hysbys yn dangos ei fod yn dymuno inni ddod i’w adnabod. Wedi’r cwbl, cymerodd ef y cam cyntaf drwy ddatgelu ei enw hyd yn oed cyn inni feddwl am ofyn. Mae’n amlwg bod Duw eisiau inni ei weld, nid fel Duw niwlog a phell ohonon ni, ond fel rhywun y gallwn ni agosáu ato.—Salm 73:28.

Mae defnyddio enw Duw yn dangos ein diddordeb ynddo ef. Petasech chi’n gofyn i rywun eich galw chi wrth eich enw cyntaf, sut byddech chi’n teimlo petai’r person yn gwrthod ei ddefnyddio? Yn y pen draw mae’n debyg y byddech chi’n meddwl nad oedd yn dymuno bod yn ffrind agos ichi. Mae’r un fath gyda Duw. Mae Jehofa wedi datgelu ei enw, ac mae’n ein hannog ni i’w ddefnyddio. Drwy wneud hynny rydyn ni’n dangos ein bod ni’n dymuno nesáu ato. Yn wir, mae Jehofa yn sylwi ar y rhai sydd “yn meddwl am ei enw.”—Malachi 3:16, BCND.

Dysgu enw Duw ydy’r cam cyntaf tuag at ei adnabod. Ond mae angen mynd ymhellach a dod i adnabod y Person y tu ôl i’r enw.

BETH YDY ENW DUW? Enw Duw ydy Jehofa. Mae’r enw hwnnw yn unigryw i Dduw ac mae’n ei gyflwyno fel Person sy’n gallu cyflawni ei bwrpas

O LE DAETH DUW?

Dyna gwestiwn mae llawer wedi pendroni drosto. Efallai rydych chi wedi meddwl amdano hefyd. Ffordd arall o roi’r cwestiwn fyddai: Os oedd angen achos neu greawdwr ar y bydysawd a phopeth ynddo, o le daeth y creawdwr hwnnw?

Mae’r rhan fwyaf o wyddonwyr yn cytuno bod y bydysawd materol wedi cael dechreuad. Mae’r Beibl yn cytuno â’r syniad sylfaenol hwnnw, gan ddweud yn yr adnod gyntaf: “Yn y dechreuad creodd Duw y nefoedd a’r ddaear.”—Genesis 1:1.

Ni allai’r bydysawd fod wedi creu ei hun; ni allai fod wedi dod o ddim byd. Dydy dim byd ddim yn gallu cynhyrchu rhywbeth. Petai dim byd yn bodoli cyn dechrau’r bydysawd, ni fyddai’r bydysawd yn bodoli heddiw. Er ei fod yn anodd inni ei ddeall, mae’n rhaid bod rhywbeth, sydd y tu allan i’r bydysawd materol, ac sydd wedi bodoli erioed, wedi achosi i’r bydysawd ddechrau yn y lle cyntaf. Jehofa Dduw, sy’n ysbryd heb derfyn ar ei rym a’i ddoethineb, ydy’r Achos Cyntaf hwnnw.—Ioan 4:24.

Mae’r Beibl yn dweud am Dduw: “Cyn geni’r mynyddoedd, a chyn esgor ar y ddaear a’r byd, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb, ti sydd Dduw.” (Salm 90:2, BCND) Felly mae Duw ei hun wastad wedi bodoli. Yna, “yn y dechreuad” fe greodd y bydysawd materol.—Datguddiad 4:11.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu