Sut Gallwch Chi Gael Bywyd Gwell?
NID YW bywyd heddiw fel roedd Duw wedi ei fwriadu. Dylai’r ddaear fod wedi ei llenwi â phobl sy’n parchu sofraniaeth y Creawdwr, yn elwa ar ei arweiniad, ac yn adlewyrchu ei bersonoliaeth gariadus. Roedd Duw eisiau iddyn nhw fod yn hapus wrth fagu plant, darganfod pethau newydd, a gwneud y ddaear gyfan yn baradwys.
ADDEWID DUW I ADFER BYWYD I’W GYFLWR GWREIDDIOL
“Mae’n dod â rhyfeloedd i ben drwy’r ddaear gyfan.”—Salm 46:9.
“Mae’r amser wedi dod . . . i ddinistrio’n llwyr y rhai hynny sy’n dinistrio’r ddaear.”—Datguddiad 11:18.
“Fydd neb sy’n byw yno’n dweud, ‘Dw i’n sâl!’”—Eseia 33:24.
“Bydd fy mhobl . . . yn cael mwynhau’n llawn waith eu dwylo.”—Eseia 65:22.
Sut caiff y proffwydoliaethau hyn eu cyflawni? Mae Duw wedi penodi ei Fab, Iesu, yn Frenin ar lywodraeth berffaith a fydd yn teyrnasu o’r nef dros y ddaear. Mae’r Beibl yn ei galw’n Deyrnas Dduw. (Daniel 2:44) Dywed y Beibl am Iesu: “Bydd yr Arglwydd Dduw yn ei osod i eistedd ar orsedd . . . a bydd yn teyrnasu.”—Luc 1:32, 33.
Cyflawnodd Iesu wyrthiau pan oedd ar y ddaear er mwyn dangos cymaint gwell y bydd bywyd yn y dyfodol gydag ef yn Frenin droston ni.
DANGOSODD IESU SUT Y BYDD YN BENDITHIO’R DDYNOLIAETH UFUDD
Iachaodd Iesu bob math o afiechyd, gan ddangos sut y bydd yn iacháu’r ddynoliaeth am byth.—Mathew 9:35.
Tawelodd storm, gan ddangos sut y bydd yn rheoli grymoedd natur ac yn amddiffyn dynolryw.—Marc 4:36-39.
Bwydodd filoedd, gan brofi y bydd yn gofalu am anghenion corfforol y ddynoliaeth.—Marc 6:41-44.
Trodd ddŵr yn win yn ystod priodas, gan brofi y bydd yn helpu pobl i fwynhau bywyd.—Ioan 2:7-11.
Sut gallwch chi gael y bywyd mae Duw wedi ei addo i’r rhai sy’n ei garu? Dywed y Beibl fod rhaid ichi fynd drwy’r “fynedfa sy’n arwain i fywyd,” a dilyn y ffordd “does ond ychydig o bobl yn dod o hyd iddi.”—Mathew 7:14.
DARGANFOD Y FFORDD I FYWYD GWELL
Beth yw’r ffordd i fywyd? Mae Duw’n dweud: “Fi ydy’r ARGLWYDD dy Dduw, sy’n dy ddysgu di er dy les, ac yn dy arwain di ar hyd y ffordd y dylet ti fynd.” (Eseia 48:17) Cerdded ar hyd y ffordd hon yw’r ffordd orau posib o fyw.
Dywedodd Iesu: “Myfi yw’r ffordd a’r gwirionedd a’r bywyd.” (Ioan 14:6, BCND) Drwy gredu’r gwirioneddau a ddysgodd Iesu a thrwy efelychu ei esiampl, gallwn ni agosáu at Dduw a chael bywyd gwell.
Sut gallwch chi ddarganfod y ffordd i fywyd? Er bod ’na nifer o grefyddau, rhybuddiodd Iesu: “Fydd pawb sy’n fy ngalw i’n ‘Arglwydd’ ddim yn cael dod dan deyrnasiad yr Un nefol, dim ond y bobl hynny sy’n gwneud beth mae fy Nhad yn y nefoedd yn ei ofyn.” (Mathew 7:21) Dywedodd hefyd mai’r “ffordd i’w nabod nhw ydy drwy edrych ar y ffrwyth yn eu bywydau nhw.” (Mathew 7:16) Gall y Beibl eich helpu chi i adnabod gwir addoliad a’i wahaniaethu oddi wrth gau grefydd.—Ioan 17:17.
Sut gallwch chi ddilyn y ffordd i fywyd? Mae’n rhaid ichi ddod i adnabod Ffynhonnell bywyd: Pwy ydy ef? Beth yw ei enw? Sut un ydyw? Beth mae ef yn ei wneud droston ni? Beth mae ef yn ei ofyn gennyn ni?a
Mae Duw eisiau i’r ddynoliaeth wneud mwy na gweithio, bwyta, chwarae, a magu plant. Gallwn adnabod ein Creawdwr a dod yn ffrind iddo, a dangos ein bod ni’n ei garu drwy wneud ei ewyllys. Dywedodd Iesu: “Dyma beth ydy bywyd tragwyddol: iddyn nhw dy nabod di, yr unig Dduw sy’n bodoli go iawn.”—Ioan 17:3.
DRWY’R BEIBL, MAE DUW YN “DY DDYSGU DI ER DY LES.”—ESEIA 48:17
CYMRYD Y CAM CYNTAF AR EICH TAITH
Efallai y bydd rhaid ichi wneud newidiadau er mwyn dysgu am yr unig wir Dduw. Gall hyn ymddangos yn anodd. Ond mewn gwirionedd, mae’n daith hyfryd sydd, fel unrhyw daith arall, yn cychwyn drwy gymryd y cam cyntaf. Er mwyn eich helpu i gael yr atebion i gwestiynau sylfaenol am Dduw, mae Tystion Jehofa yn cynnig cwrs astudio’r Beibl am ddim ar amser ac mewn lle sy’n gyfleus i chi. Gallwch gysylltu â ni gan ddefnyddio ein gwefan, www.pr2711.com/cy.