LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w19 Tachwedd tt. 14-19
  • A Wyt Ti’n Gofalu am Dy Darian Ffydd?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • A Wyt Ti’n Gofalu am Dy Darian Ffydd?
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2019
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • GOFALA AM DARIAN DY FFYDD
  • AMDDIFFYN DY HUN RHAG GORBRYDER, CELWYDDAU, A DIGALONDID
  • AMDDIFFYN DY HUN RHAG MATEROLIAETH
  • DAL YN DYNN YN NHARIAN DY FFYDD
  • Bydd Jehofa yn Dy Amddiffyn Di—Sut?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2021
  • Bobl Ifanc—Safwch yn Gadarn yn Erbyn y Diafol
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2018
  • Rho Inni Fwy o Ffydd
    Canwn yn Llawen i Jehofa
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2019
w19 Tachwedd tt. 14-19

ERTHYGL ASTUDIO 46

A Wyt Ti’n Gofalu am Dy Darian Ffydd?

“Daliwch eich gafael yn nharian ffydd bob amser.”—EFF. 6:16.

CÂN 119 Rhaid Inni Gael Ffydd

CIPOLWGa

1-2. (a) Yn ôl Effesiaid 6:16, pam mae angen tarian ffydd fawr? (b) Pa gwestiynau gwnawn ni eu hystyried?

A OES gen ti ‘darian ffydd’ fawr? (Darllen Effesiaid 6:16.) Debyg iawn. Fel tarian fawr sy’n amddiffyn y rhan fwyaf o’r corff, mae dy ffydd yn dy amddiffyn di rhag dylanwadau anfoesol, treisgar, ac annuwiol y system lwgr hon.

2 Sut bynnag, rydyn ni’n byw yn y dyddiau diwethaf, a bydd ein ffydd yn parhau i gael ei phrofi. (2 Tim. 3:1) Sut gelli di sicrhau bod tarian dy ffydd yn gryf? A sut gelli di afael yn dynn yn dy darian? Gad inni ystyried yr atebion i’r cwestiynau hynny.

GOFALA AM DARIAN DY FFYDD

Milwyr yr hen ddyddiau yn defnyddio eu tarianau mewn brwydr; milwr a’i was yn trwsio tarianau

Ar ôl brwydr, roedd milwyr yn sicrhau eu bod yn trwsio eu tarianau (Gweler paragraff 3)

3. Beth roedd milwyr yn ei wneud i’w tarianau, a pham?

3 Yng nghyfnod y Beibl, yn aml iawn roedd gan filwyr darianau a oedd wedi eu gorchuddio â lledr. Byddai’r milwyr yn rhoi olew ar y tarianau er mwyn amddiffyn y lledr ac er mwyn i’r rhannau metel beidio â rhydu. Petai milwr yn gweld bod ei darian wedi ei difrodi, byddai’n mynd ati i’w thrwsio er mwyn iddo fod, bob amser, yn barod ar gyfer y frwydr nesaf. Sut mae hyn yn berthnasol i dy ffydd?

4. Pam mae’n rhaid iti ofalu am darian dy ffydd, a sut dylet ti fynd o’i chwmpas?

4 Fel milwyr yr amser a fu, mae’n rhaid i tithau ofalu am darian dy ffydd yn rheolaidd, fel dy fod ti’n wastad yn barod ar gyfer y frwydr. A ninnau’n Gristnogion, mae’n rhaid inni frwydro yn erbyn ysbrydion drwg. (Eff. 6:10-12) Does neb arall yn gallu edrych ar ôl tarian dy ffydd drosot ti. Sut gelli di fod yn sicr dy fod ti’n barod i wynebu treialon? Yn gyntaf, mae’n rhaid iti weddïo am help Duw. Yna, mae’n rhaid iti ddefnyddio Gair Duw er mwyn iti dy weld dy hun fel y mae Duw yn dy weld di. (Heb. 4:12) Dywed y Beibl: “Trystia’r ARGLWYDD yn llwyr; paid dibynnu ar dy syniadau dy hun.” (Diar. 3:5, 6) Gyda hynny mewn golwg, meddylia am sefyllfa a gododd yn ddiweddar a’r hyn a wnest ti ynghylch y peth. Er enghraifft, wyt ti erioed wedi wynebu problem ariannol ddifrifol? A ddaeth addewid Jehofa yn Hebreaid 13:5 i dy feddwl: “Wna i byth eich siomi chi, na throi fy nghefn arnoch chi”? A wnaeth yr addewid hwnnw roi hyder iti y byddai Jehofa yn dy helpu? Os felly, mae hynny’n dangos dy fod ti’n cadw tarian dy ffydd mewn cyflwr da.

5. Beth gelli di ei ffeindio wrth edrych yn ofalus ar dy ffydd?

5 Wrth edrych yn ofalus ar dy ffydd, efallai y bydd yr hyn rwyt ti’n ei ddarganfod yn dy synnu. Hwyrach wnei di ddod ar draws gwendidau nad oeddet ti’n gwybod amdanyn nhw. Er enghraifft, efallai dy fod ti’n sylwi bod poeni’n ormodol, celwyddau, a digalondid yn dechrau tanseilio dy ffydd. Os yw hyn wedi digwydd i ti, sut gelli di warchod dy ffydd rhag niwed pellach?

AMDDIFFYN DY HUN RHAG GORBRYDER, CELWYDDAU, A DIGALONDID

6. Beth yw rhai esiamplau o bryder iach?

6 Mae’n dda inni boeni am rai pethau. Er enghraifft, rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni’n plesio Jehofa ac Iesu. (1 Cor. 7:32) Os ydyn ni wedi pechu yn ddifrifol, fe fyddwn ni’n awyddus iawn i drwsio ein perthynas â Duw. (Salm 38:18) Hefyd, rydyn ni wastad yn awyddus i blesio ein gŵr neu ein gwraig a gofalu am aelodau’r teulu a’n cyd-gredinwyr.—1 Cor. 7:33; 2 Cor. 11:28.

7. Yn ôl Diarhebion 29:25, pam nad oes angen ofni dynion?

7 Ar y llaw arall, gall gorbryder niweidio ein ffydd. Er enghraifft, gallwn ni bryderu am gael digon o fwyd a dillad. (Math. 6:31, 32) Ac i wneud pethau’n well, efallai ein bod ni’n canolbwyntio ar brynu pethau materol. Gallen ni hyd yn oed ddechrau caru arian. Os caniatawn i hynny ddigwydd, bydd ein ffydd yn Jehofa’n gwanhau a bydd ein perthynas ag ef yn dirywio. (Marc 4:19; 1 Tim. 6:10) Neu gallwn ni syrthio i fath arall o orbryder, sef poeni’n ormodol ynglŷn â beth mae pobl eraill yn ei feddwl amdanon ni. Gallwn ofni cael ein gwatwar neu ein herlid gan ddynion yn fwy nag ofni peidio â phlesio Jehofa. I’n hamddiffyn ein hunain rhag y peryg hwnnw, mae’n rhaid inni ddeisyfu ar Jehofa am y ffydd a’r dewrder sydd eu hangen i wynebu’r her.—Darllen Diarhebion 29:25; Luc 17:5.

Tad sy’n Dyst yn diffodd y teledu a’r teulu yn eistedd wrth ei ymyl

(Gweler paragraff 8)b

8. Sut dylen ni ymateb i gelwyddau?

8 Mae Satan, “tad pob celwydd,” yn defnyddio’r rhai sydd o dan ei ddylanwad i raffu celwyddau am Jehofa a’n brodyr a’n chwiorydd. (Ioan 8:44) Er enghraifft, mae gwrthgilwyr yn cyhoeddi celwyddau ac yn camliwio’r ffeithiau am gyfundrefn Jehofa ar wefannau, ar y teledu, a thrwy’r cyfryngau eraill. Mae’r celwyddau hynny ymhlith “saethau tanllyd” Satan. (Eff. 6:16) Beth dylen ni ei wneud os bydd rhywun yn ein herio ni â chelwydd o’r fath? Dylen ni wrthod gwrando arnyn nhw! Pam? Oherwydd bod gennyn ni ffydd yn Jehofa a’n bod ni’n ymddiried yn ein brodyr. A dweud y gwir, rydyn ni’n osgoi pob cysylltiad â gwrthgilwyr. Ni chaniatawn i unrhyw un nac unrhyw beth, gan gynnwys chwilfrydedd, i’n denu ni i ddadlau â nhw.

9. Sut gall digalondid effeithio arnon ni?

9 Gall digalondid wanhau ein ffydd. Ni allwn ni anwybyddu problemau personol. Mewn gwirionedd, byddai hynny’n beth anghyfrifol. Ar brydiau, gallwn ni deimlo’n ddigalon. Ond ddylen ni ddim meddwl am ein problemau trwy’r amser. Os gwnawn ni hynny, mae ’na beryg y byddwn ni’n colli golwg o’r gobaith bendigedig mae Jehofa wedi ei addo inni. (Dat. 21:3, 4) Gallai digalondid sugno ein nerth ac achosi inni stopio gwasanaethu Jehofa. (Diar. 24:10) Ond does dim rhaid i hynny ddigwydd i ni.

10. Beth rwyt ti wedi ei ddysgu oddi wrth lythyr gan un o’n chwiorydd?

10 Ystyria sut mae chwaer yn yr Unol Daleithiau yn edrych ar ôl ei ffydd wrth ofalu am ei gŵr sy’n ddifrifol wael. Mewn llythyr i’r pencadlys, ysgrifennodd: “Mae ein sefyllfa wedi ein rhoi o dan straen ac ar brydiau yn ein gwneud yn ddigalon, ond mae ein gobaith yn gryf. Dw i wrth fy modd gyda’r wybodaeth rydyn ni’n ei chael i gryfhau ein ffydd a chodi’n calonnau. Y cyngor a’r anogaeth yw jest y pethau sydd eu hangen. Gyda’r help hwn gallwn ni ddal ati trwy’r treialon mae Satan yn lluchio aton ni.” Dysgwn oddi wrth sylwadau’r chwaer ein bod ni’n gallu gorchfygu digalondid! Sut? Ceisia edrych ar dy dreialon fel prawf oddi wrth Satan, a chydnabod mai Jehofa yw Ffynnon cysur. Hefyd gwerthfawroga’r bwyd ysbrydol mae’n ei ddarparu.

Yn ystod addoliad teuluol, mae yr un tad yn defnyddio’r Beibl i gryfhau ffydd ei deulu

A wyt ti’n edrych ar ôl tarian fawr dy ffydd? (Gweler paragraff 11)c

11. Er mwyn inni brofi ein ffydd, beth dylen ni ei ofyn i ni’n hunain?

11 A wyt ti wedi sylwi bod angen trwsio rhannau o dy darian ffydd? Yn ystod y misoedd diwethaf, a wyt ti wedi llwyddo i beidio ag ildio i orbryder? A wyt ti wedi gwrthod gwrando ar wrthgilwyr a gwrthod dadlau â nhw am y celwyddau maen nhw’n eu taenu? Ac a wyt ti wedi llwyddo i ymdopi â digalondid? Os felly, mae’n amlwg fod dy ffydd mewn cyflwr da. Ond mae’n rhaid inni fod yn wyliadwrus achos mae gan Satan arfau eraill y mae’n ceisio eu defnyddio yn ein herbyn. Beth am inni ystyried un ohonyn nhw nawr.

AMDDIFFYN DY HUN RHAG MATEROLIAETH

12. Beth sy’n gallu digwydd os ydyn ni’n poeni’n ormodol am bethau materol?

12 Gall materoliaeth gymryd drosodd a gwneud inni esgeuluso tarian ein ffydd. Dywedodd yr apostol Paul: “Dydy milwr ddim yn poeni am y mân bethau sy’n poeni pawb arall—mae e eisiau plesio ei gapten.” (2 Tim. 2:4) Yn wir, doedd milwyr Rhufeinig ddim yn cael bod yn fasnachwyr. Beth allai ddigwydd petai milwr yn anwybyddu’r rheol honno?

13. Pam na fyddai milwr yn ymwneud â busnes masnachol?

13 Dychmyga’r sefyllfa. Mae grŵp o filwyr yn treulio’r bore yn hyfforddi â’u cleddyfau, ond mae un o’r milwyr ar goll. Mae’r milwr dan sylw yn y dref yn sefydlu siop fwyd. Gyda’r nos, mae’r milwyr yn mynd ati i edrych yn ofalus ar eu harfwisg ac yn hogi eu cleddyfau. Ond mae’r un sy’n berchen ar y siop yn treulio’i amser yn paratoi bwyd at y diwrnod canlynol. Ond, y bore wedyn, mae’r gelyn yn ymosod yn annisgwyl. Pa filwr sydd yn fwy tebygol o weithredu’n iawn a phlesio ei swyddog? A phwy fyddet tithau eisiau yn sefyll wrth dy ochr—y milwr oedd wedi canolbwyntio ar baratoi ei arfau neu’r un â’i feddwl ar rywbeth arall?

14. A ninnau’n filwyr Crist, beth rydyn ni’n ei werthfawrogi?

14 Fel milwyr da, dydyn ni ddim yn gadael i bethau eraill dynnu ein sylw oddi ar ein prif nod, sef cael cymeradwyaeth ein Prif Swyddogion, Jehofa ac Iesu. Mae hyn yn llawer mwy gwerthfawr nag unrhyw beth a gawn ni ym myd Satan. Rydyn ni’n sicrhau bod gennyn ni’r amser a’r egni i wasanaethu Jehofa ac i gadw tarian ein ffydd a gweddill ein harfwisg ysbrydol mewn cyflwr da.

15. Pa rybudd gawson ni gan Paul, a pham?

15 Mae’n rhaid inni fod yn wyliadwrus bob amser! Pam? Rhybuddiodd yr apostol Paul y bydd “pobl sydd eisiau bod yn gyfoethog” yn “crwydro oddi wrth y ffydd.” (1 Tim. 6:9, 10) Mae’r ymadrodd “crwydro oddi wrth” yn awgrymu bod pethau materol diangen yn gallu tynnu ein sylw. Byddai hyn yn gallu agor ein calonnau i “chwantau ffôl a niweidiol.” Yn hytrach na chaniatáu i’r chwantau hynny dreiddio i’n calonnau, mae’n rhaid inni eu gweld nhw am yr hyn ydyn nhw go iawn, sef arfau sy’n gallu ein niweidio.

16. Pa gwestiynau a ddylai ddod i’n meddyliau wrth ddarllen Marc 10:17-22?

16 Beth petai digon o arian gennyn ni i brynu llawer o bethau materol? A ydyn ni’n gwneud rhywbeth o’i le os ydyn ni’n prynu pethau rydyn ni’n eu heisiau heb fod eu gwir angen? Nid o angenrheidrwydd. Ond meddylia am y cwestiynau canlynol: Hyd yn oed os ydyn ni’n gallu fforddio rhywbeth, a oes gennyn ni ddigon o amser ac egni i’w ddefnyddio ac i edrych ar ei ôl? Hefyd, a ydy hi’n bosib y gallen ni fynd yn or-hoff o’n meddiannau? A allai ein hoffter o bethau materol achosi inni weithredu fel y gwnaeth y dyn ifanc a wrthododd wahoddiad Iesu i wneud mwy yng ngwasanaeth Duw? (Darllen Marc 10:17-22.) Cymaint gwell fyddai byw bywyd syml yn defnyddio ein hegni a’n hamser gwerthfawr yn gwneud ewyllys Duw!

DAL YN DYNN YN NHARIAN DY FFYDD

17. Beth dylen ni byth ei anghofio?

17 Ddylen ni byth anghofio ein bod yng nghanol rhyfel, felly mae’n rhaid inni fod yn barod i frwydro bob dydd. (Dat. 12:17) Ni all ein brodyr na’n chwiorydd gario tarian ein ffydd droson ni. Ni ein hunain sydd yn gorfod cydio’n dynn ynddi.

18. Pam roedd milwyr yn yr hen amser yn cydio’n dynn yn eu tarianau?

18 Yn yr amser a fu, byddai milwr yn cael ei anrhydeddu am ei ddewrder ar faes y gad. Ond fe fyddai dod adref heb ei darian yn codi cywilydd arno. Yn ôl yr hanesydd Rhufeinig Tacitus: “Mae’r sawl sy’n gadael ei darian ar ôl yn dwyn y gwarth mwyaf arno ef ei hun.” Dyna un rheswm roedd milwyr yn gwneud yn siŵr eu bod nhw’n dal yn dynn yn eu tarianau.

Chwaer yn darllen y Beibl, yn ateb yn y cyfarfod, yn pregethu, ac yn dal tarian fawr o’i blaen er mwyn gwrthsefyll saethau Satan

Mae chwaer Gristnogol yn gafael yn dynn yn nharian fawr ei ffydd drwy ddarllen Gair Duw, mynychu’r cyfarfodydd yn rheolaidd, a chael rhan lawn yn y weinidogaeth (Gweler paragraff 19)

19. Sut gallwn ni afael yn dynn yn nharian ein ffydd?

19 Cydiwn ninnau hefyd yn dynn yn nharian ein ffydd drwy fynychu cyfarfodydd Cristnogol yn rheolaidd a thrwy siarad am enw Jehofa a’i Deyrnas ag eraill. (Heb. 10:23-25) Yn ogystal â hyn, rydyn ni’n darllen Gair Duw bob dydd ac yn cymhwyso ei gyngor a’i gyfarwyddyd ym mhopeth a wnawn. (2 Tim. 3:16, 17) Yna, ni fydd unrhyw arf y mae Satan yn ei ddefnyddio yn ein herbyn yn achosi niwed parhaol. (Esei. 54:17) Bydd tarian fawr ein ffydd yn ein hamddiffyn. Fe fyddwn ni’n sefyll yn gadarn, ochr yn ochr â’n brodyr a’n chwiorydd. Ac fe wnawn ni fwy nag ennill ein brwydrau personol o ddydd i ddydd—fe gawn ni’r anrhydedd o fod ar ochr Iesu pan fydd yn ennill y rhyfel yn erbyn Satan a’i ddilynwyr.—Dat. 17:14; 20:10.

SUT GALLWN NI EIN HAMDDIFFYN EIN HUNAIN RHAG . . .

  • gorbryder?

  • celwyddau a digalondid?

  • materoliaeth?

CÂN 118 Rho Inni Fwy o Ffydd

a Roedd milwr yn dibynnu ar ei darian i’w amddiffyn rhag niwed. Mae ein ffydd fel tarian. Yn debyg i darian go iawn, mae angen gofalu am ein ffydd. Mae’r erthygl hon yn trafod yr hyn gallwn ei wneud i sicrhau bod ‘ein tarian ffydd’ mewn cyflwr da.

b DISGRIFIAD O’R LLUN: Pan fydd adroddiad gan wrthgilwyr sy’n taenu celwyddau am Dystion Jehofa yn ymddangos ar y teledu, mae teulu o Dystion yn diffodd y teledu yn syth.

c DISGRIFIAD O’R LLUN: Hwyrach ymlaen, yn ystod yr addoliad teuluol, mae’r tad yn defnyddio adnod o’r Beibl i gryfhau ffydd ei deulu.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu