Oeddet Ti’n Gwybod?
Beth oedd gwaith goruchwylwyr yng nghyfnod y Beibl?
ADEG y Beibl, roedd goruchwyliwr yn cadw trefn ar deulu neu eiddo rhywun arall. Mae’r geiriau Hebraeg a Groeg a gyfieithir “goruchwyliwr” weithiau’n cyfeirio at arolygwr neu weinyddwr y cartref.
Pan oedd Joseff, mab y patriarch Jacob, yn gaethwas yn yr Aifft, daeth yn oruchwyliwr ar dŷ ei feistr. Yn wir, “Joseff oedd yn gofalu am bopeth” i’w feistr. (Gen. 39:2-6) Yn nes ymlaen, pan ddaeth Joseff ei hun yn rheolwr pwerus yn yr Aifft, fe benododd oruchwyliwr dros ei dŷ ei hun.—Gen. 44:4.
Yn nyddiau Iesu, roedd tirfeddianwyr yn aml yn byw mewn dinasoedd i ffwrdd oddi wrth eu stadau amaethyddol. Felly, byddai’r tirfeddianwyr yn penodi goruchwylwyr i arolygu dyletswyddau pob dydd y llafurwyr a oedd yn gofalu am dir y stadau.
Pwy oedd yn gymwys i fod yn oruchwyliwr? Dywedodd Columella, ysgrifennwr Rhufeinig y ganrif gyntaf, y dylai caethwas a gafodd ei benodi’n arolygwr, neu’n oruchwyliwr, fod yn “un sydd wedi dysgu gwneud y gwaith yn dda drwy brofiad.” Byddai’n rhywun a fyddai’n “sicrhau bod y gweithwyr yn gwneud eu gwaith ond heb fod yn greulon iddyn nhw.” Dywedodd hefyd mai’r peth pwysicaf i oruchwyliwr oedd iddo beidio â meddwl ei fod yn gwybod popeth ac iddo wastad fod yn awyddus i ddysgu pethau newydd.
Mae Gair Duw yn defnyddio’r esiampl o oruchwyliwr i esbonio rhai o’r gweithgareddau sy’n digwydd yn y gynulleidfa Gristnogol. Er enghraifft, mae’r apostol Pedr yn annog Cristnogion i ddefnyddio eu galluoedd a gawson nhw gan Dduw yng ngwasanaeth ei gilydd, “fel gweinyddwyr da ar amryfal ras Duw.”—1 Pedr 4:10, BCND.
Defnyddiodd Iesu ei hun yr esiampl o oruchwyliwr yn yr eglureb yn Luc 16:1-8. Yn ogystal â hyn, mewn proffwydoliaeth am yr arwydd o’i bresenoldeb fel Brenin, sicrhaodd Iesu i’w ddilynwyr y byddai’n penodi “gwas ffyddlon a chall,” neu “goruchwyliwr ffyddlon.” Prif aseiniad y goruchwyliwr hwnnw fyddai darparu’r holl fwyd ysbrydol sydd ei angen ar ddilynwyr Crist yn ystod y dyddiau diwethaf. (Math. 24:45-47, BCND; Luc 12:42, BCND) Rydyn ni’n ddiolchgar i dderbyn y cyhoeddiadau y mae’r goruchwyliwr ffyddlon yn eu paratoi, ac sydd ar gael yn fyd-eang.