LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • wp20 Rhif 2 tt. 11-13
  • Beth Bydd Teyrnas Dduw yn ei Gyflawni?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Beth Bydd Teyrnas Dduw yn ei Gyflawni?
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2020
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • BETH MAE TEYRNAS DDUW EISOES WEDI EI WNEUD?
  • BETH BYDD TEYRNAS DDUW YN EI WNEUD NESAF?
  • BETH BYDD TEYRNAS DDUW YN EI WNEUD DROS Y DDYNOLRYW?
  • Beth Yw Teyrnas Dduw?
    Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?
  • Beth Yw Teyrnas Dduw?
    Beth Allwn Ni ei Ddysgu o’r Beibl?
  • Beth Fydd y Deyrnas yn ei Gyflawni?
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Beth Yw Teyrnas Dduw?
    Newyddion Da Oddi Wrth Dduw!
Gweld Mwy
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2020
wp20 Rhif 2 tt. 11-13
Afon yn llifo i gyfeiriad rhaeadr, yng nghanol mynyddoedd a choedwig.

Beth Bydd Teyrnas Dduw yn ei Gyflawni?

Dysgodd Iesu i’w ddisgyblion weddïo am i’r Deyrnas ddod. Gwyddai nad ewyllys Duw yw’r pethau ofnadwy sy’n digwydd ar y ddaear. Fe wyddai hefyd mai Teyrnas Dduw yw’r unig lywodraeth a all ddatrys y problemau hyn. Beth bydd Teyrnas Dduw yn ei gyflawni?

BETH MAE TEYRNAS DDUW EISOES WEDI EI WNEUD?

Yn yr erthygl flaenorol edrychon ni ar yr arwydd a roddodd Iesu. Mae’r arwydd yn dystiolaeth bod Teyrnas Dduw wedi ei sefydlu yn y nef a Iesu Grist yn Frenin arni.

Mae’r Beibl yn dweud y byddai Iesu, ar ôl iddo ddod yn Frenin, yn bwrw Satan a’i gythreuliaid allan o’r nef. Mae eu dylanwad bellach wedi ei gyfyngu i’r ddaear, a dyna un o’r rhesymau i bethau waethygu cymaint ers 1914.—Datguddiad 12:7, 9.

Er bod cyflwr y byd yn dirywio, mae Iesu, ac yntau’n Frenin ar Deyrnas Dduw, wedi gwneud llawer i helpu pobl o gwmpas y byd. Diolch i’r gwaith o ddysgu pobl am y Beibl a ragwelodd Iesu, mae llawer yn dysgu sut i roi egwyddorion y Beibl ar waith yn eu bywydau. (Eseia 2:2-4) Mae miliynau wedi dysgu sut i wneud bywyd teuluol yn hapusach, a sut i gadw gwaith a phethau materol yn eu lle. Maen nhw’n dysgu sut i wella eu bywydau heddiw ac maen nhw’n newid i fod yn bobl y bydd Duw yn dymuno eu gweld yn ei Deyrnas.

BETH BYDD TEYRNAS DDUW YN EI WNEUD NESAF?

Er bod Iesu eisoes yn llywodraethu yn y nefoedd, parhau y mae’r llywodraethau dynol ar y ddaear. Ond mae Duw wedi dweud wrth Iesu: “Llywodraetha dithau yng nghanol dy elynion.” (Salm 110:2, Beibl Cymraeg Diwygiedig) Yn fuan, bydd Iesu yn dinistrio pawb sy’n ei wrthwynebu ac yn dod â rhyddhad i’r rhai sy’n fodlon ufuddhau i Dduw.

Yn fuan, bydd Teyrnas Dduw yn

  • Dinistrio gau grefydd. Bydd crefyddau sydd wedi dweud celwyddau am Dduw ac wedi gwneud bywyd yn anodd i bobl yn diflannu. Mae’r Beibl yn cymharu gau grefydd â phutain. Bydd gweld diwedd arni yn ysgytwad i lawer.—Datguddiad 17:15, 16.

  • Rhoi terfyn ar lywodraeth ddynol. Bydd Teyrnas Dduw yn dod â llywodraeth ddynol i ben.—Datguddiad 19:15, 17, 18.

  • Cael gwared ar bobl ddrwg. Beth am y rhai sy’n benderfynol o wneud pethau drwg a gwrthod ufuddhau i Dduw? “Bydd pobl ddrwg . . . yn cael eu rhwygo o’r tir.”—Diarhebion 2:22.

  • Cael gwared ar Satan a’r cythreuliaid. Ni fydd Satan a’r cythreuliaid yn gallu “camarwain y cenhedloedd bellach.”—Datguddiad 20:3, 10.

Beth fydd hyn i gyd yn ei olygu i’r rhai sy’n croesawu Teyrnas Dduw?

BETH BYDD TEYRNAS DDUW YN EI WNEUD DROS Y DDYNOLRYW?

Ac yntau’n Frenin yn y nefoedd, bydd Iesu yn gwneud llawer mwy nag unrhyw arweinydd dynol. Caiff gymorth 144,000 o gyd-lywodraethwyr sy’n cael eu dewis o blith y ddynoliaeth. (Datguddiad 14:1, 3; 20:4, 6) Bydd Iesu yn sicrhau bod ewyllys Duw yn cael ei wneud ar y ddaear. Beth bydd Teyrnas Dduw yn ei wneud ar gyfer y bobl sy’n byw ar y ddaear?

  • Dileu salwch a marwolaeth. “Fydd neb sy’n byw yno’n dweud, ‘Dw i’n sâl,’” ac “ni fydd marwolaeth mwyach.”—Eseia 33:24; Datguddiad 21:4.

  • Dod â gwir heddwch a diogelwch. “Bydd dy blant yn profi heddwch mawr,” a “bydd pawb yn eistedd dan ei winwydden a’i goeden ffigys ei hun, heb angen bod ofn.”—Eseia 54:13; Micha 4:4.

  • Rhoi gwaith ystyrlon i bawb. “Bydd y rhai dw i wedi eu dewis yn cael mwynhau’n llawn waith eu dwylo. Fyddan nhw ddim yn gweithio’n galed i ddim byd.”—Eseia 65:22, 23.

  • Datrys problemau’r amgylchedd. “Bydd yr anialwch a’r tir sych yn llawen, bydd y diffeithwch yn dathlu ac yn blodeuo—yn blodeuo’n sydyn fel saffrwn.”—Eseia 35:1.

  • Dysgu pobl beth y mae angen ei wneud er mwyn byw am byth. “Dyma beth sy’n arwain i fywyd tragwyddol, eu bod nhw’n dod i dy adnabod di, yr unig wir Dduw, a’r un rwyt ti wedi ei anfon, Iesu Grist.”—Ioan 17:3.

Mae Duw eisiau ichi gael pob un o’r bendithion hynny. (Eseia 48:18) Bydd yr erthygl nesaf yn esbonio beth y gallwch chi ei wneud nawr i fod yn rhan o’r dyfodol braf hwn.

Bydd Teyrnas Dduw yn dad-wneud yr holl ddifrod y mae llywodraeth ddynol wedi ei wneud dros filoedd o flynyddoedd. O dan y Deyrnas bydd y ddynoliaeth yn mwynhau

  • Cwpl yn loncian yn y goedwig.

    IECHYD PERFFAITH

  • Teulu yn mwynhau picnic yn y parc. Mae’r tad yn chwarae’r gitâr.

    HEDDWCH A DIOGELWCH

  • Cwpl yn gweithio yn yr ardd.

    GWAITH YSTYRLON

  • Afon yn llifo i gyfeiriad rhaeadr, yng nghanol mynyddoedd a choedwig.

    AMGYLCHEDD GLÂN

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu