LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • wp20 Rhif 2 tt. 14-15
  • Dewiswch Gefnogi Teyrnas Dduw Nawr!

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Dewiswch Gefnogi Teyrnas Dduw Nawr!
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2020
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • A WNEWCH CHI GEISIO’R DEYRNAS YN GYNTAF?
  • Beth Yw Teyrnas Dduw?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2020
  • Y Gwir am Deyrnas Dduw
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2020
  • “Deled Dy Deyrnas”—Gweddi y Mae Miliynau yn ei Hadrodd
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2020
  • Mae Teyrnas Dduw yn Llywodraethu
    Gwybodaeth Sy’n Arwain i Fywyd Tragwyddol
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2020
wp20 Rhif 2 tt. 14-15
Dyn yn gweddïo cyn darllen y Beibl.

Dewiswch Gefnogi Teyrnas Dduw Nawr!

Dychmygwch fod storm enfawr yn nesáu. Mae’r llywodraeth yn darlledu rhybuddion: “SYMUDWCH O’CH CARTREFI! CEISIWCH LOCHES AR UNWAITH!” Beth fyddai’r peth call i chi ei wneud? Symud i le diogel wrth gwrs!

Ar un ystyr, rydyn ni i gyd yn byw yn llwybr “storm” ddinistriol, y ‘trychineb mawr’ y soniodd Iesu amdano. (Mathew 24:21) Allwn ni ddim osgoi’r argyfwng hwn drwy symud i rywle arall. Ond mae rhywbeth y gallwn ni ei wneud i gadw’n ddiogel. Beth yw hwnnw?

Yn y Bregeth ar y Mynydd, rhoddodd Iesu’r cyngor hwn: ‘Ceisiwch yn gyntaf y Deyrnas a chyfiawnder Duw.’ (Mathew 6:33) Sut gallwn ni wneud hynny?

Ceisiwch yn gyntaf Deyrnas Dduw. Mae hyn yn golygu y dylai Teyrnas Dduw fod yn fwy pwysig inni nag unrhyw beth arall. (Mathew 6:25, 32, 33) Pam felly? Am y rheswm syml nad yw bodau dynol yn gallu datrys problemau’r ddynolryw. Dim ond Teyrnas Dduw all wneud y dasg anodd honno.

Ceisiwch ei gyfiawnder ef. Dylen ni wneud ein gorau i ddilyn cyfreithiau ac egwyddorion cyfiawn Duw yn ein bywydau. Pam? Oherwydd os ydyn ni’n gosod ein safonau ein hunain ynglŷn â da a drwg, bydd y canlyniadau yn drychinebus. (Diarhebion 16:25) Ar y llaw arall, os ydyn ni’n byw yn ôl safonau Duw, nid yn unig y bydd hynny yn plesio Duw, ond bydd o les inni ein hunain hefyd.—Eseia 48:17, 18.

Daliwch ati i geisio yn gyntaf Deyrnas Dduw a’i gyfiawnder ef. Rhybuddiodd Iesu y gallai rhai ddechrau meddwl mai gwneud cymaint o arian â phosib yw’r ffordd i gadw’n ddiogel. Efallai bydd eraill yn gadael i bryderon bywyd eu llethu nes eu bod nhw’n teimlo nad oes amser ganddyn nhw i geisio Teyrnas Dduw.—Mathew 6:19-21, 25-32.

Sut bynnag, addawodd Iesu y byddai’r rhai sy’n cefnogi Teyrnas Dduw yn cael pob peth sydd ei angen arnyn nhw nawr, ac yn mwynhau bendithion di-rif yn y dyfodol.—Mathew 6:33.

Er bod disgyblion Iesu yn y ganrif gyntaf yn ceisio’n gyntaf Deyrnas Dduw a’i gyfiawnder, ni welon nhw ddiwedd ar boen a dioddefaint yn eu hoes nhw. Ond eto cawson nhw eu hamddiffyn. Ym mha ffordd?

Drwy fyw yn unol â safonau cyfiawn Duw, cawson nhw eu hamddiffyn rhag yr anawsterau a ddaeth i ran y rhai oedd yn anwybyddu cyngor Duw. Roedd eu ffydd ddiysgog yn nyfodiad y Deyrnas yn eu helpu i wynebu hyd yn oed y problemau mwyaf difrifol. Cawson nhw’r “grym sydd y tu hwnt i’r arferol” gan Dduw i’w helpu nhw i ymdopi.—2 Corinthiaid 4:7-9.

A WNEWCH CHI GEISIO’R DEYRNAS YN GYNTAF?

Roedd Cristnogion yn y ganrif gyntaf yn ufudd i orchymyn Iesu i geisio’r Deyrnas yn gyntaf. Cyhoeddon nhw newyddion da’r Deyrnas ym mhob gwlad lle roedden nhw’n byw. (Colosiaid 1:23) A oes unrhyw rai yn gwneud hynny heddiw?

Oes! Mae Tystion Jehofa yn gwybod mai dim ond ychydig o amser sydd ar ôl cyn i Deyrnas Dduw ddod â’r system bresennol i ben. Felly maen nhw’n gwneud eu gorau i wneud y gwaith a ddisgrifiwyd gan Iesu: “Bydd y newyddion da hyn am y Deyrnas yn cael eu pregethu drwy’r byd i gyd yn dystiolaeth i’r holl genhedloedd, ac yna bydd y diwedd yn dod.”—Mathew 24:14.

Sut byddwch chi’n ymateb i’r newyddion da? Rydyn ni’n eich annog i wneud yr un fath â’r rhai oedd yn byw yn ninas Berea yn y ganrif gyntaf. Pan glywon nhw’r newyddion da am y Deyrnas gan yr apostol Paul, fe wnaethon nhw dderbyn ei neges “gyda phob parodrwydd meddwl.” Yna aethon nhw ati i “chwilio’r Ysgrythurau yn ofalus” er mwyn sicrhau bod y neges yn gywir, a gweithredon nhw ar yr hyn roedden nhw wedi ei ddysgu.—Actau 17:11, 12.

Ledled y byd, mae miliynau wedi cymryd camau i gefnogi Teyrnas Dduw

  1. Tystion Jehofa yn siarad â dyn ar stepen ei ddrws.

    Gwrandewch ar y newyddion da am y Deyrnas

  2. Yr un dyn yn astudio’r Beibl yn ei gartref gydag un o Dystion Jehofa.

    Chwiliwch yr Ysgrythurau yn ofalus

  3. Y dyn yn mynd i gyfarfod yn Neuadd y Deyrnas.

    Ymunwch â’r rhai sy’n cefnogi’r Deyrnas

  4. Y dyn yn gweddïo cyn darllen y Beibl.

    Dangoswch i Dduw eich bod yn dymuno ei wasanaethu

Gallwch chi wneud yr un peth. Drwy geisio yn gyntaf Deyrnas Dduw a’i gyfiawnder, cewch loches a diogelwch nawr, ac yn y dyfodol cewch fwynhau heddwch a diogelwch am byth.

I ddysgu mwy am waith Tystion Jehofa, ewch i’n gwefan, jw.org.

Yno cewch wybodaeth mewn mwy na 1,000 o ieithoedd.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu