Peidiwch â Dal yn Ôl
1. Beth sy’n gofyn am ddewrder, a pham?
1 A ydych chi erioed wedi dal yn ôl rhag tystiolaethu yn yr ysgol oherwydd bod arnoch ofn y bydd eich ffrindiau yn gwneud sbort am eich pen? Yn sicr, i siarad am eich ffydd y mae gofyn bod yn ddewr yn enwedig os ydych chi’n swil. Beth all eich helpu?
2. Wrth dystiolaethu yn yr ysgol, pam mae’n rhaid meddwl cyn siarad?
2 Meddyliwch cyn Siarad: Er bod yr ysgol yn diriogaeth bersonol ichi, nid yw hynny’n golygu bod disgwyl ichi gychwyn sgyrsiau ysbrydol â phawb, fel y byddech yn ei wneud wrth bregethu o dŷ i dŷ. Dewiswch yn ofalus yr amser i siarad. (Preg. 3:1, 7) Gall pwnc sy’n cael ei drafod yn y dosbarth neu destun prosiect ysgol roi’r cyfle ichi siarad am eich ffydd. Neu y gall un o’ch cyd-ddisgyblion ofyn pam nad ydych chi’n cymryd rhan mewn rhai gweithgareddau. Ar ddechrau’r flwyddyn ysgol, mae rhai Cristnogion wedi dweud eu bod nhw’n Dystion Jehofah wrth yr athrawon ac wedi rhoi deunydd iddyn nhw ddarllen sy’n esbonio ein credoau. Mae eraill wedi gadael deunydd darllen ar eu desgiau i ysgogi eu ffrindiau i ofyn cwestiynau.
3. Sut gallwch chi baratoi ar gyfer tystiolaethu yn yr ysgol?
3 Paratowch: Os ydych yn paratoi, byddwch yn dod yn fwy hyderus. (1 Ped. 3:15) Ceisiwch ragweld pa gwestiynau a all godi, a meddyliwch am sut i ateb. (Diar. 15:28) Os yw’n bosibl, cadwch eich Beibl, y llyfr Reasoning, y llyfrau Young People Ask, a’r llyfryn A Gafodd Bywyd ei Greu? yn yr ysgol ichi gyfeirio atyn nhw pan fo angen. Gofynnwch i’ch rhieni gynnwys sesiynau ymarfer yn eich addoliad teuluol.
4. Pam dylech chi ddal ati i dystiolaethu yn yr ysgol?
4 Byddwch yn Gadarnhaol: Peidiwch â meddwl y bydd eich ffrindiau yn gwneud hwyl am eich pen bob tro y byddwch chi’n trafod y gwirionedd. Bydd rhai efallai yn edmygu eich dewrder a hyd yn oed yn gwrando arnoch. Peidiwch â digalonni os na fydd neb yn gwrando. Bydd Jehofah wrth ei fodd â’ch ymdrechion. (Heb. 13:15, 16) Daliwch ati i ofyn i Jehofah am help i ‘lefaru ei air â phob hyder.’ (Act. 4:29; 2 Tim. 1:7, 8) Dychmygwch eich llawenydd pan fydd rhywun yn gwrando. Yn y dyfodol, efallai y bydd ef neu hi yn dod yn un o weision Jehofah!