Jehovah’s Witnesses—Faith in Action, Part 1: Out of Darkness
Yn y Beibl, mae goleuni yn cael ei gysylltu â gwirionedd, ond mae tywyllwch yn cael ei gysylltu â chelwyddau. (Salm 43:3; Esei. 5:20) Daeth tywyllwch i’r ddaear pan dwyllodd Satan Efa. Yn y pen draw, fe wnaeth Satan fynd â’r byd i gyd i dywyllwch dudew. (Dat. 12:9) Mae’r DVD Jehovah’s Witnesses—Faith in Action, Part 1: Out of Darkness yn dangos sut roedd goleuni ysbrydol yn gwawrio yn y tywyllwch. (Esei. 60:1, 2) Ar ôl gwylio’r DVD, a fedrwch chi ateb y cwestiynau canlynol?
(1) Sut aeth y byd i dywyllwch dudew ar ôl i’r apostolion farw? (2) O’r 12fed ganrif ymlaen, pa ddatblygiadau a wnaeth helpu pobl i weld nad oedd yr eglwys yn dysgu’r gwirionedd? (3) Pwy oedd Henry Grew a George Storrs? (4) Pa ddigwyddiadau ym mywyd Charles Russell y cafodd effaith fawr arno? (5) Sut gwnaeth Brawd Russell, ei dad, a rhai o’i gyfeillion fynd ati i astudio’r Beibl, a beth oedd eu casgliadau Ysgrythurol? (6) Pam gwnaeth grwpiau Nelson Barbour a Brawd Russell ymuno â’i gilydd i astudio, ond beth achosodd iddyn nhw wahanu? (7) Beth ddigwyddodd ym mis Gorffennaf 1879 a roddodd gychwyn ar oes newydd o oleuni ysbrydol? (8) Wrth i nifer y Myfyrwyr Beiblaidd gynyddu, sut roedden nhw’n lledaenu’r newyddion da? (9) Blynyddoedd cyn 1914, beth oedd y Myfyrwyr Beiblaidd yn disgwyl y byddai’n digwydd yn y flwyddyn honno? (10) Pa anawsterau oedd yn wynebu’r Myfyrwyr Beiblaidd ar ôl i Frawd Russell farw? (11) Beth a wnaeth y Myfyrwyr Beiblaidd ar ôl i Frawd Rutherford a’i gymdeithion gael eu rhyddhau o’r carchar? (12) Sut mae’r DVD wedi eich helpu chi i werthfawrogi cyfundrefn Jehofah? (13) Sut mae’r DVD wedi eich cryfhau chi i ddal ati yn y gwaith pregethu er gwaethaf problemau? (14) Sut y gallwn ni ddefnyddio’r DVD i helpu myfyrwyr y Beibl, aelodau ein teulu, ac eraill?
Mae’r Myfyrwyr Beiblaidd wedi gadael etifeddiaeth ysbrydol arbennig inni. Yn llawn sêl, roedden nhw’n disgleirio’n llachar drwy dywyllwch ysbrydol y byd. Gadewch inni ddilyn eu hesiampl a ‘byw fel plant goleuni.’—Eff. 5:8.