Cadw’n Ddiogel yn y Weinidogaeth
1. Pam mae’n rhaid inni fod yn gall yn y weinidogaeth?
1 Mae gweision Duw wedi eu hanfon allan “fel defaid i blith bleiddiaid” ac yn pregethu “yng nghanol cenhedlaeth wyrgam a gwrthnysig.” (Math. 10:16; Phil. 2:15) Mae’r adroddiadau cyson am derfysg, trais, a herwgipio sydd yn y newyddion yn dangos bod pobl greulon “yn mynd o ddrwg i waeth.” (2 Tim. 3:13) Pa egwyddorion Ysgrythurol sy’n medru ein helpu ni i fod yn “gall” yn y weinidogaeth?—Math. 10:16.
2. Pa bryd y byddai’n well inni adael y diriogaeth a mynd i rywle arall i bregethu?
2 Ymddwyn yn Gall: Mae Diarhebion 22:3 yn dweud bod y craff yn ‘osgoi perygl.’ Byddwch yn wyliadwrus! Hyd yn oed mewn cymunedau sydd fel arfer yn ddiogel, gall y sefyllfa newid yn sydyn. Efallai y byddwch yn gweld pobl yn hel ar y strydoedd a phresenoldeb yr heddlu yn cynyddu. Weithiau y cawn rybudd gan rywun yn yr ardal fod y sefyllfa’n dirywio. Yn hytrach nag aros i weld beth sy’n digwydd, doeth fyddai gadael yn syth a gweithio yn rhywle arall.—Diar. 17:14; Ioan 8:59; 1 Thes. 4:11.
3. Sut mae’r egwyddor yn Pregethwr 4:9 yn berthnasol i’r weinidogaeth?
3 Gweithio Gyda’ch Gilydd: Dywed Pregethwr 4:9: “Y mae dau yn well nag un.” Efallai eich bod chi wedi arfer gweithio ar eich pen eich hun yn y weinidogaeth, ond a yw gwneud hynny yn ddiogel erbyn hyn? Ydy, mewn rhai ardaloedd. Ond mewn ardaloedd eraill, dydy hi ddim yn ddiogel i chwiorydd nac i bobl ifanc fynd o ddrws i ddrws ar eu pennau eu hunain, yn enwedig ar ôl iddi dywyllu. Fe wyddon ni o brofiad fod partner gwyliadwrus yn werthfawr iawn. (Preg. 4:10, 12) Cadwch lygad ar aelodau eraill yn eich grŵp. Pan ydych chi’n gadael y diriogaeth, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n rhoi gwybod i’r lleill.
4. Sut gallwn ni gyfrannu at gadw pawb yn y gynulleidfa yn ddiogel?
4 Fel y rhai sy’n ‘gwylio’n ddiorffwys dros ein heneidiau,’ mae’r henuriaid yn gyfrifol am roi arweiniad ymarferol yn y materion hyn, yn unol â’r amgylchiadau lleol. (Heb. 13:17) Bydd Jehofah yn ein bendithio ni, wrth inni gydweithredu’n ostyngedig â’r henuriaid. (Mich. 6:8; 1 Cor. 10:12) Gadewch inni dystiolaethu’n effeithiol yn ein tiriogaeth drwy weithio’n ddiogel bob amser!