Blwch Cwestiynau
◼ Pa egwyddorion o’r Beibl gall ein helpu ni i fod yn ddoeth wrth ddefnyddio ffonau symudol yn y cyfarfodydd ac yn y weinidogaeth?
“Y Mae Tymor i Bob Peth.” (Preg. 3:1): Mae ffonau symudol yn gwneud hi’n hawdd anfon negeseuon neu siarad ag eraill bron unrhyw adeg. Ond, weithiau, mae Cristnogion eisiau cadw’r ffôn yn ei le. Er enghraifft, mae ein cyfarfodydd yn gyfle inni addoli Jehofah, inni dderbyn bwyd ysbrydol, ac inni galonogi ein gilydd. (Deut. 31:12; Salm 22:22; Rhuf. 1:11, 12) A fedrwn ni ddiffodd ein ffonau wrth inni gyrraedd y cyfarfod a derbyn ein negeseuon ar ôl inni adael? Os ydyn ni’n disgwyl neges bwysig, dylen ni sicrhau na fydd ein ffonau yn canu a thynnu sylw eraill.
“Dros yr Efengyl yr Wyf yn Gwneud Pob Peth.” (1 Cor. 9:23): Ar adegau mae rhesymau da dros ddefnyddio ffonau symudol yn y weinidogaeth. Er enghraifft weithiau bydd y brawd sy’n arwain y grŵp angen cysylltu â brodyr sy’n gweithio yn rhannau eraill o’r diriogaeth. Mae cyhoeddwyr weithiau yn defnyddio ffonau symudol i gysylltu â phobl yn y diriogaeth cyn mynd i’w gweld nhw, yn enwedig os oes rhaid i’r cyhoeddwyr trafaelio’n bell. Os oes ffôn arnon ni, dylen ni sicrhau na fyddai’n torri ar draws ein sgwrs â deiliad. (2 Cor. 6:3) Tra rydyn ni’n aros am gyhoeddwyr eraill, yn hytrach na ddefnyddio’r ffôn i gysylltu â’n ffrindiau, beth am inni ganolbwyntio ar y weinidogaeth ac ar y rhai sy’n gweithio gyda ni?
Meddyliwch am Eraill. (1 Cor. 10:24; Phil. 2:4): Ni ddylen ni fod yn llac ynglŷn â chyrraedd yn hwyr i’r cyfarfodydd ar gyfer y weinidogaeth, gan feddwl ei bod hi’n iawn i ffonio neu anfon neges destun i ddarganfod ym mha diriogaeth mae’r grŵp yn gweithio. Yn aml, os ydyn ni’n hwyr yn cyrraedd bydd rhaid aildrefnu’r grŵp. Wrth gwrs, weithiau mae amgylchiadau y tu hwnt i’n rheolaeth yn ein gwneud ni’n hwyr. Ond os ydyn ni’n magu’r arfer o fod yn brydlon, mae’n dangos parch tuag at drefn Jehofah, at y brawd sy’n arwain y grŵp, ac at ein cyd-addolwyr.