Defnyddiwch Fideos Wrth Ddysgu Eraill
Pan roddodd Jehofah wybodaeth bwysig i Abraham a Jeremeia, yn lle esbonio drwy eiriau yn unig, dangosodd Jehofah yr hyn y roedd yn ei feddwl hefyd. (Gen. 15:5; Jer. 18:1-6) Gallwn ni helpu ein myfyrwyr i ddeall ac i werthfawrogi gwirioneddau’r Beibl drwy ddefnyddio cymhorthion gweledol fel ein fideos. Cewch awgrymiadau pryd i ddefnyddio fideos penodol yn y rhestr isod. Dim ond cynigion yw’r rhain, cofiwch, oherwydd mae pob myfyriwr yn wahanol.
Y llyfr Beibl Ddysgu
◻ Pennod 1: Ar ôl paragraff 17, gwyliwch The Wonders of Creation Reveal God’s Glory
◻ Pennod 2: Ar y diwedd, gwyliwch The Bible—Mankind’s Oldest Modern Book
◻ Pennod 9: Ar ôl paragraff 14, gwyliwch Jehovah’s Witnesses—Organized to Share the Good News
◻ Pennod 14: Ar y diwedd, gwyliwch The Bible—Its Power in Your Life
◻ Pennod 15: Ar ôl paragraff 10, gwyliwch Our Whole Association of Brothers
Y llyfr ‘Cariad Duw’
◻ Pennod 3: Ar ôl paragraff 15, gwyliwch Young People Ask—How Can I Make Real Friends?
◻ Pennod 4: Ar y diwedd, gwyliwch Respect Jehovah’s Authority
◻ Pennod 7: Ar ôl paragraff 12, gwyliwch No Blood—Medicine Meets the Challenge
◻ Pennod 9: Ar ôl paragraff 6, gwyliwch Warning Examples for Our Day
◻ Pennod 17: Ar y diwedd, gwyliwch ‘Walk by Faith, Not by Sight’
Oes yna fideos eraill a allai helpu un o’ch myfyrwyr? Er enghraifft, os yw un o’n myfyrwyr yn mynd trwy gyfnod o wrthwynebiad, efallai bydd y fideo Faithful Under Trials—Jehovah’s Witnesses in the Soviet Union neu Jehovah’s Witnesses Stand Firm Against Nazi Assault yn galonogol iddo. Efallai y bydd hi’n fanteisiol i’r rhai ifanc gwylio Pursue Goals That Honor God ac Young People Ask—What Will I Do With My Life? Nodwch bryd i wylio’r fideos gyda’ch myfyrwyr yn eich llyfr Beibl Ddysgu a’ch llyfr ‘Cariad Duw.’ Wrth i fideos newydd gael eu rhyddhau, meddyliwch am sut gall y fideo gyrraedd calonnau eich myfyrwyr.—Luc 24:32.