LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • km 7/13 t. 1
  • Dilynwch Esiamplau’r Proffwydi—Joel

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Dilynwch Esiamplau’r Proffwydi—Joel
  • Ein Gweinidogaeth—2013
  • Erthyglau Tebyg
  • Ymosodiad yn Dod o’r Gogledd!
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2020
Ein Gweinidogaeth—2013
km 7/13 t. 1

Dilynwch Esiamplau’r Proffwydi—Joel

1. Sut gallwn ni efelychu gostyngeiddrwydd Joel wrth inni bregethu?

1 Pwy oedd y proffwyd Joel? Y cwbl mae’n datgelu inni yw ei fod yn ‘fab i Pethuel.’ (Joel 1:1) Pwysleisiodd y proffwyd gostyngedig hwn neges Jehofah, nid ei ran ef fel negesydd. Yn yr un modd, yn hytrach na cheisio clod i ni’n hunain yn y weinidogaeth, rydyn ni’n tynnu sylw pobl eraill at Jehofah a’r Beibl. (1 Cor. 9:16; 2 Cor. 3:5) Yn ychwanegol i hyn, rydyn ni’n cael ein hatgyfnerthu gan y neges rydyn ni’n ei chyhoeddi. A oes unrhyw beth ym mhroffwydoliaeth Joel a all ein llenwi â sêl a gobaith heddiw?

2. Beth ddylai agosrwydd dydd Jehofah ein cymell ni i’w wneud?

2 Mae Dydd Jehofah “yn Agos.” (Joel 1:15): Er cafodd y geiriau hynny eu hysgrifennu miloedd o flynyddoedd yn ôl, rydyn ni’n byw yng nghyfnod eu cyflawniad olaf. Mae’r ffaith bod cyflwr y byd yn dirywio, ynghyd â’r gwawdio a’r diffyg diddordeb rydyn ni’n eu hwynebu yn ein tiriogaeth yn profi ein bod ni’n byw yn ystod dyddiau diwethaf y byd drwg hwn. (2 Tim. 3:1-5; 2 Pedr 3:3, 4) Wrth ystyried agosrwydd dydd Jehofah, mae gennyn ni bob rheswm i roi blaenoriaeth i’r weinidogaeth yn ein bywydau.—2 Pedr 3:11, 12.

3. Pam mae’r weinidogaeth yn bwysicach o lawer nawr mae’r gorthrymder mawr yn agosáu?

3 Bydd Jehofah “yn Gysgod i’w Bobl.” (Joel 3:16): Gall y cryndod sy’n cael ei ddisgrifio yn yr adnod hon ddim ond cyfeirio at farnedigaeth Jehofah yn ystod y gorthrymder mawr. Mae gwybod y bydd Jehofah yn achub ei weision yr adeg honno yn dod â chysur inni. (Dat. 7:9, 14) Wrth inni bregethu a gweld bod Jehofah yn ein cynnal a’n cryfhau, bydd ein ffydd yn cynyddu a byddwn yn magu dyfalbarhad a fydd yn ein helpu yng nghyfnod y gorthrymder mawr.

4. Pam gallwn ni fod yn llawen a wynebu’r dyfodol gyda hyder?

4 Mae rhai yn dweud bod neges Joel yn eu digalonni nhw, ond mae’n cynnig gobaith braf i bobl Jehofah oherwydd bydd ei bobl yn cael eu hachub. (Joel 2:32) Gadewch inni wynebu’r dyfodol gyda hyder wrth inni bregethu’r newyddion da am Deyrnas Dduw yn selog, gan roi geiriau Joel 2:23 ar waith: ‘Gorfoleddwch yn Jehofah eich Duw.’

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu