Cyflwyniadau Enghreifftiol
I Ddechrau Astudiaethau Beiblaidd ar y Dydd Sadwrn Cyntaf ym Mis Awst
“Mae bron pawb yn gweddïo rywbryd neu’i gilydd. Mae hyd yn oed anffyddwyr wedi gweddïo pan oedden nhw mewn trafferth. Ydych chi’n meddwl bod Duw yn gwrando ar bob gweddi?” Arhoswch am ymateb. Yna dangoswch wers 12 yn y llyfryn Newyddion Da Oddi Wrth Dduw! a thrafodwch yr wybodaeth o dan gwestiwn 1 ac o leiaf un o’r adnodau. Cynigiwch y llyfryn, a threfnwch ddod yn ôl i drafod y cwestiwn nesaf.
Nodyn: Dylai’r cyfarfod ar gyfer y weinidogaeth ar Awst 3 gynnwys dangosiad o’r cyflwyniad hwn.
The Watchtower Awst 1
“Mae rhai wedi dychryn o weld bod cymaint yn edrych ar bornograffi, ond mae eraill yn credu bod hi’n rhywbeth digon diniwed. Beth yw eich barn chi? [Arhoswch am ymateb.] Dywedodd Iesu ei bod hi’n bosibl darganfod a yw rhywbeth yn dda drwy edrych ar y ffrwyth mae’n ei gynhyrchu. [Darllenwch Mathew 7:17.] Mae’r cylchgrawn hwn yn trafod y ffrwyth mae pornograffi yn ei gynhyrchu. Mae hefyd yn rhoi cynigion ymarferol ar sut mae’n bosibl rhoi’r gorau iddo.”
Awake! Awst
“Mae’r rhan fwyaf ohonon ni eisiau byw cyn hired â phosibl. A fydd datblygiadau gwyddonol yn gwneud hi’n bosibl ryw ddydd inni fyw am byth? [Arhoswch am ymateb.] Mae’r addewid hwn yn denu ein sylw. [Darllenwch 1 Corinthiaid 15:26.] Ond sut ydych chi’n meddwl bydd Duw yn gwneud hyn—drwy wyddoniaeth neu ryw fodd arall? A pham ydyn ni’n mynd yn hen a marw? Mae’r cylchgrawn hwn yn dangos sut mae’r Beibl yn ateb y cwestiynau hyn.”