Dilynwch Esiamplau’r Proffwydi—Micha
1. Ar ba gwestiwn roedd Micha efallai yn myfyrio, a pham nad oedd ei bregethu yn ofer?
1 ‘Pryd daw’r diwedd ar y byd ofnadwy hwn?’ Efallai roedd Micha yn myfyrio ar gwestiwn tebyg wrth iddo gyhoeddi barn Jehofah yn erbyn teyrnasoedd Israel a Jwda. Ond nid oedd ei bregethu yn ofer, oherwydd yn 740 COG, yn ystod bywyd Micha, daeth geiriau Jehofah yn erbyn Samaria yn wir. (Mich. 1:6, 7) Yn nes ymlaen, cafodd Jerwsalem ei dinistrio yn 607 COG. (Mich. 3:12) Sut gallwn ni efelychu Micha wrth inni aros am farnedigaeth Jehofah yn ein hoes ni?
2. Sut rydyn ni’n dangos amynedd wrth inni ddisgwyl am ddydd Jehofah, a pham?
2 Byddwch yn Amyneddgar: Ysgrifennodd Micha: ‘Ond edrychaf fi at Jehofah, disgwyliaf wrth Dduw fy iachawdwriaeth.’ (Mich. 7:7) Wrth gwrs, nid oedd Micha yn ddiog wrth iddo aros am y diwedd. Cadwodd yn brysur fel un o broffwydi Jehofah. Wrth i ni ddisgwyl am ddydd Jehofah, dylen ni hefyd fod yn “sanctaidd a duwiol” drwy gadw’n brysur yn y gwirionedd. (2 Pedr 3:11, 12) Mae amynedd Jehofah yn rhoi amser i unigolion edifarhau. (2 Pedr 3:9) Felly, rydyn ni’n gwrando ar gyngor y Beibl gan ddilyn esiamplau amyneddgar y proffwydi.—Iago 5:10.
3. Pam dylen ni ymbil ar Jehofah am ei ysbryd glân?
3 Dibynnwch ar Nerth Jehofah: Er bod gan Micha aseiniad anodd, dibynnodd ef ar Jehofah er mwyn ei gyflawni. (Mich. 3:8) Nid yw’n cyd-ddigwyddiad bod Gair Jehofah yn ein hannog ni i ddibynnu ar nerth Duw. Mae Jehofah yn rhoi nerth yn hael i’r rhai blinedig, er mwyn iddyn nhw gyflawni eu cyfrifoldebau theocrataidd. (Salm 84:5, 7; Esei. 40:28-31) Ydych chi wedi teimlo nerth Jehofah yn ystod eich gwasanaeth chi? Ydych chi’n ymbil arno’n rheolaidd am help ei ysbryd glân nerthol?—Luc 11:13.
4. Sut mae bywyd Micha yn gosod esiampl ardderchog inni heddiw?
4 Drwy gydol ei oes, blaenoriaeth Micha oedd gwneud ewyllys Duw. Roedd yn benderfynol o gadw’n ffyddlon er bod anfoesoldeb o’i gwmpas. Yn yr un modd, mae ein ffyddlondeb ni yn cael ei brofi bob dydd. Gadewch inni ddal ati i ‘rodio yn enw Jehofah ein Duw am byth!’—Mich. 4:5.