LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • km 5/14 t. 3
  • Blwch Cwestiynau

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Blwch Cwestiynau
  • Ein Gweinidogaeth—2014
  • Erthyglau Tebyg
  • Sut Gallwch Chi Gael Teulu Hapus?​—Rhan 2
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Rieni—Helpwch Eich Plant i Garu Jehofa
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2022
  • Defnyddio Ein Gwefan i Ddysgu’ch Plant
    Ein Gweinidogaeth—2013
  • Rieni—Hyfforddwch Eich Plant i Garu Jehofa
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2019
Ein Gweinidogaeth—2014
km 5/14 t. 3

Blwch Cwestiynau

◼ Beth y mae angen i blant ei ddysgu er mwyn iddyn nhw dyfu’n ysbrydol aeddfed?

Mae rhieni Cristnogol yn gwneud llawer i fagu eu plant ‘yn nisgyblaeth a hyfforddiant Jehofah.’ (Eff. 6:4) Er enghraifft, mae rhieni wedi canfod ei bod hi’n fuddiol i ddarllen a thrafod testun y dydd gyda’u plant bob bore. Yn ystod addoliad teuluol, ac ar adegau eraill, gall teuluoedd wylio a thrafod fideos gyda’i gilydd, trafod pynciau addas o’r erthyglau Young People Ask, actio allan hanesion o’r Beibl, neu gael sesiynau ymarfer. Ond, er mwyn “mynd ymlaen at y tyfiant llawn,” mae angen i blant ddysgu gwirioneddau dyfnach y Beibl.—Heb. 6:1.

Meddyliwch am yr hyn rydyn ni’n ei ddysgu i eraill yn ein tiriogaeth. Rydyn ni’n ceisio dechrau astudiaethau un ai ar yr alwad gyntaf, neu ar ôl hynny, yn y llyfr Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu? Ar ôl cwblhau’r llyfr, mae’r deiliad yn astudio “Cadwch Eich Hunain yng Nghariad Duw.” Pam? Mae’r llyfr Beibl Ddysgu yn cynnwys gwybodaeth sylfaenol am y Beibl. Mae’r llyfr ‘Cariad Duw’ yn dangos sut i roi egwyddorion y Beibl ar waith mewn bywyd bob dydd. Felly, mae astudio’r ddau lyfr yn helpu’r deiliad i wreiddio ei hun yng Nghrist ac i sefydlogi ei hun yn y ffydd. (Col. 2:6, 7) Onid yw’r wybodaeth hon yn fuddiol i’n plant hefyd? Mae angen iddyn nhw wybod am y pridwerth, y Deyrnas, a chyflwr y meirw. Mae plant angen gwybod pam mae Duw yn caniatáu dioddefaint a sut i gydnabod ein bod ni’n byw yn nyddiau olaf y system hon. Mae angen iddyn nhw fod yn sicr bod gan Dystion Jehofah y gwir. Hefyd, mae’n bwysig bod pobl ifanc yn deall egwyddorion y Beibl a sut i hyfforddi eu “synhwyrau . . . i farnu rhwng da a drwg.” (Heb. 5:14) Wrth gwrs, mae rhieni angen ystyried oedran y plant a’u dealltwriaeth. Sut bynnag, mae gan lawer o blant y gallu i ddysgu gwirioneddau dyfnach y Beibl o oed eithaf ifanc.—Luc 2:42, 46, 47.

Er mwyn helpu rhieni, bydd canllawiau astudio sy’n seiliedig ar y llyfr Beibl Ddysgu yn ymddangos ar jw.org. Gall teuluoedd gael hyd i’r rhain ar ein Gwefan o dan BIBLE TEACHINGS > TEENAGERS. Yn y dyfodol, bydd canllawiau astudio ychwanegol yn cael eu paratoi ar gyfer y llyfr ‘Cariad Duw.’ Wrth gwrs, cewch ddefnyddio fersiynau printiedig y llyfrau hefyd. Gall rhieni benderfynu pryd yw’r amser gorau i ddefnyddio’r adnoddau, yn ystod eu noson Addoliad Teuluol, wrth gymryd astudiaeth gyda phlentyn ar ei ben ei hun, neu wrth ddysgu plentyn sut i wneud astudiaeth bersonol.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu