LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • km 6/14 tt. 5-6
  • Helpwch y Rhai Sy’n ei Chael Hi’n Anodd Darllen

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Helpwch y Rhai Sy’n ei Chael Hi’n Anodd Darllen
  • Ein Gweinidogaeth—2014
  • Erthyglau Tebyg
  • Sut i Helpu Myfyriwr y Beibl i Gyrraedd Bedydd—Rhan Un
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2020
  • Sut i Elwa’n Fwy ar Ddarllen y Beibl
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Sut i Helpu Myfyriwr y Beibl i Gyrraedd Bedydd—Rhan Dau
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2020
  • Fel Cynulleidfa, Helpwch Fyfyrwyr y Beibl i Gyrraedd Bedydd
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2021
Gweld Mwy
Ein Gweinidogaeth—2014
km 6/14 tt. 5-6

Helpwch y Rhai Sy’n ei Chael Hi’n Anodd Darllen

1. Pa her sy’n codi wrth ddysgu pobl nad yw’n darllen yn dda?

1 Mae gan rai deiliaid sy’n ei chael hi’n anodd darllen ddiddordeb ym mhethau ysbrydol, ond efallai bod darllen llyfrau neu’r Beibl yn codi ofn arnyn nhw. Yn aml, nid yw cynnig y llyfr Beibl Ddysgu i bobl o’r fath yn llwyddiannus. Felly, sut y gallwn ni eu helpu nhw yn ysbrydol? Gwnaethon ni holi cyhoeddwyr profiadol o tua 20 gwlad ynglŷn â’r hyn y maen nhw’n ei wneud. Dyma eu hawgrymiadau.

2. Pa adnoddau sydd gennyn ni i helpu pobl sydd â diffyg sgiliau darllen?

2 Os ydy’r myfyriwr yn ei chael hi’n anodd darllen neu’n methu darllen o gwbl, gallwch ddechrau gyda llyfryn, un ai Gwrando ar Dduw neu Gwrando ar Dduw a Byw am Byth. Mae un arloeswr o’r Unol Daleithiau yn dangos y ddau lyfryn i’r myfyriwr ac yna’n gofyn pa un sy’n well ganddo. Mae swyddfa gangen Cenia yn dweud bod yr adnoddau hyn yn effeithiol iawn gan fod traddodiad pobl Affrica yw dysgu drwy storïau yn hytrach na chwestiynau ac atebion. Er bod rhywun gydag addysg yn hapus i ddarllen rhywbeth ac ateb cwestiynau arno, efallai bydd yr un dull yn gwneud i rywun gydag ychydig o addysg deimlo’n anesmwyth. Petai’r myfyriwr gyda rhywfaint o allu i ddarllen, mae rhai cyhoeddwyr yn dechrau gyda’r llyfrynnau Newyddion Da Oddi Wrth Dduw! neu Dod yn Ffrind i Dduw!, neu efallai’r llyfr My Book of Bible Stories.

3. Beth rydyn ni angen ei ddeall am bobl nad yw’n gallu darllen er mwyn eu dysgu nhw’n effeithiol?

3 Rhowch Ganmoliaeth: Mae rhai pobl sydd heb ddysgu sut i ddarllen yn teimlo cywilydd ac yn ddiffyg hunan-barch. Felly yn aml, cyn dechrau dysgu’r gwirionedd, mae rhaid i’r deiliad deimlo’n gyfforddus. Mae’r rhan fwyaf sy’n methu darllen yn gallu dysgu, ac yn haeddu parch ac urddas. (1 Pedr 3:15) Bydden nhw’n dal ati i astudio pan fydden nhw’n teimlo bod eu hymdrech yn werth chweil a’u bod nhw’n tyfu’n ysbrydol. Felly, canmolwch nhw’n aml.

Mae rhai pobl sydd heb ddysgu sut i ddarllen yn teimlo cywilydd ac yn ddiffyg hunan-barch. Felly yn aml, cyn dechrau dysgu’r gwirionedd, mae rhaid i’r deiliad deimlo’n gyfforddus

4. Sut gallwn ni annog y rhai sy’n ei chael hi’n anodd darllen i baratoi ar gyfer eu hastudiaethau?

4 Hyd yn oed petai’r myfyriwr yn ei chael hi’n anodd darllen, anogwch ef i baratoi ar gyfer ei astudiaeth. Mae rhai cyhoeddwyr yn Ne Affrica yn annog eu myfyrwyr i ofyn am gymorth aelod o’r teulu neu gan un o’i ffrindiau sy’n gallu darllen. Mae cyhoeddwr ym Mhrydain yn benthyg ei lyfr ef i’w fyfyrwyr yn ystod yr astudiaeth er mwyn dangos iddyn nhw fod hi’n llawer haws darganfod yr atebion petaen nhw wedi eu tanlinellu o flaen llaw. Mae brawd yn India yn gofyn i’w fyfyrwyr edrych ar y lluniau a myfyrio arnyn nhw ar gyfer yr astudiaeth nesaf.

5. Sut y gallwn ni ddangos amynedd wrth gymryd yr astudiaeth?

5 Byddwch yn Amyneddgar: P’run bynnag cyhoeddiad rydych yn ei ddefnyddio, canolbwyntiwch ar y prif bwyntiau, a helpu eich myfyriwr i’w deall yn iawn. Ar y cychwyn, efallai byddai’n well treulio tua 10 i 15 munud. Peidiwch â cheisio dysgu gormod o wybodaeth iddo. Trafodwch dim ond ychydig o baragraffau ar y tro. Petai’r myfyriwr yn darllen yn araf deg, byddwch yn amyneddgar ag ef. Mae’n debygol fe fydd yn dymuno gwella ei sgiliau darllen wrth iddo garu Jehofa’n fwy. Er mwyn helpu eich myfyriwr i wneud hynny, byddai’n dda i’w wahodd i’r cyfarfodydd o’r cychwyn.

6. Sut y gallwn ni helpu unigolion i ddysgu sut i ddarllen?

6 Wrth i fyfyriwr y Beibl ddysgu sut i ddarllen, mae ei gynnydd ysbrydol yn gyflymach. (Salm 1:1-3) Mae llawer wedi helpu eu myfyrwyr drwy ddefnyddio’r cyhoeddiad Apply Yourself to Reading and Writing ac yn mynd trwyddo am ychydig o funudau ar ddiwedd pob astudiaeth. Os ydy’r myfyriwr yn digalonni, efallai gallwch feithrin ei hyder drwy dynnu sylw at y pethau newydd y mae wedi eu dysgu. Anogwch y myfyriwr i weddïo ar Jehofa ac atgoffwch y bydd Duw yn bendithio ei ymdrechion. (Diar. 16:3; 1 Ioan 5:14, 15) Mae rhai cyhoeddwyr ym Mhrydain yn annog eu myfyrwyr i osod targedau sy’n raddol ac yn realistig—efallai yn gyntaf dysgu’r wyddor, wedyn darganfod a darllen adnodau penodol, ac yn y diwedd darllen un o’n cyhoeddiadau syml. Hefyd, mae angen helpu pobl i feithrin awydd i ddysgu sut i ddarllen.

7. Pam na ddylen ni ddal yn ôl rhag cyflwyno’r gwir i bobl nad yw’n gallu darllen yn dda?

7 Yn llygaid Jehofa, mae pobl sydd â diffyg addysg yn werthfawr iawn. (Job 34:19) Mae Jehofa yn chwilio calonnau pobl. (1 Cron. 28:9) Felly peidiwch â dal yn ôl rhag cyflwyno’r gwir i rywun sy’n ei chael hi’n anodd darllen. Mae gennych lawer o adnoddau bendigedig i’ch helpu chi. Yn y pen draw, gallwch drosglwyddo’r astudiaeth i’r llyfr Beibl Ddysgu er mwyn llenwi’r bylchau yn ei wybodaeth.

Os nad yw’r deiliad yn gallu darllen, rhowch gynnig ar hyn:

  • I gychwyn, defnyddiwch Gwrando ar Dduw, Gwrando ar Dduw a Byw am Byth, neu gyhoeddiad arall sy’n addas.

  • Rhowch urddas a chanmoliaeth hael iddo.

  • Cadwch yr astudiaeth yn fyr a pheidiwch â rhoi gormod o wybodaeth iddo.

  • Helpwch ef i ddatblygu ei sgiliau darllen.

Wrth iddo feithrin awydd i ddysgu ac yn datblygu gwerthfawrogiad am y gwir, gallwch drosglwyddo’r astudiaeth i’r llyfr Beibl Ddysgu.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu