Adnodd Newydd i Wneud Ymchwil
Mae miliynau o gyhoeddwyr ar draws y byd wedi bod yn defnyddio’r Watch Tower Publications Index i wneud ymchwil. Oherwydd bod y gyfrol yn fanwl dros ben, dim ond mewn ychydig o ieithoedd y mae hi ar gael. Felly, mae Llawlyfr Cyhoeddiadau Tystion Jehofah wedi ei gyhoeddi mewn rhyw 170 o ieithoedd. Mae’r rhan fwyaf o’r cyhoeddiadau sy’n cael eu cynnwys yn y Llawlyfr Cyhoeddiadau wedi eu cyhoeddi o’r flwyddyn 2000 ymlaen. Nid yw’r Llawlyfr Cyhoeddiadau yn cael ei argraffu yn yr ieithoedd hynny y mae’r Index eisoes ar gael, ond y mae wedi ei gynnwys yn Watchtower Library ac yn LLYFRGELL AR-LEIN—Watchtower. Bydd y Llawlyfr Cyhoeddiadau yn eich helpu i chwilio am atebion i gwestiynau am y Beibl, i gael hyd i wybodaeth am bethau sy’n berthnasol i chi, ac i baratoi ar gyfer y cyfarfodydd ac addoliad teuluol.