LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • km 12/14 t. 7
  • Caneuon Newydd ar Gyfer Addoli!

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Caneuon Newydd ar Gyfer Addoli!
  • Ein Gweinidogaeth—2014
  • Erthyglau Tebyg
  • Molwn Jehofa yn Llawen Mewn Cân
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2018
  • Awgrymiad ar Gyfer Astudio
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2023
  • Canwn yn Llawen!
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2017
  • Caneuon y Deyrnas yn Hwb i’n Dewrder
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr ar Gyfer y Cyfarfodydd—2017
Gweld Mwy
Ein Gweinidogaeth—2014
km 12/14 t. 7

Caneuon Newydd ar Gyfer Addoli!

1 Ar 4 Hydref, 2014, yng nghyfarfod blynyddol y Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania, fe gyhoeddwyd bod ein llyfr caneuon yn mynd i gael ei ddiwygio. Cyffrous iawn oedd clywed y newyddion hynny! Cafodd pawb a fynychodd y cyfarfod eu hatgoffa o bwysigrwydd caneuon y Deyrnas yn ein haddoliad.—Salm 96:2.

2 Efallai rydych yn gofyn, ‘Pam mae angen diwygio’r llyfr caneuon?’ Mae sawl rheswm. Yn gyntaf, mae ein dealltwriaeth o’r Ysgrythurau yn cael ei choethi o hyd ac o hyd, ac mae hynny’n gallu dylanwadu ar eiriau ein caneuon. (Diar. 4:18) Oes rheswm arall am y diwygio? Mae’r eirfa a llawer o’r ymadroddion a ddefnyddir yn y llyfr caneuon Saesneg yn seiliedig ar y fersiwn blaenorol o’r New World Translation. Nawr, mae angen addasu’r caneuon er mwyn cyd-fynd â’r argraffiad diwygiedig o’r Beibl Saesneg. Oherwydd bod diwygio’r geiriau yn gofyn am waith sylweddol, penderfynwyd ychwanegu ychydig o ganeuon newydd i’r llyfr ar yr un pryd.

3 A fydd rhaid inni aros tan y mae llyfr caneuon newydd yn cael ei argraffu cyn inni ddechrau defnyddio’r caneuon newydd? Na fydd. Rydyn ni’n hapus i roi gwybod ichi y bydd sawl cân newydd yn cael ei chyhoeddi ar ein gwefan, jw.org dros y misoedd nesaf. Pan fydd cân newydd yn cael ei rhyddhau, bydd honno’n cael ei defnyddio i gloi’r Cyfarfod Gwasanaeth. Bydd nodyn yn dweud “cân newydd” yn rhaglen Ein Gweinidogaeth.

4 Ewch Ati i Ddysgu’r Caneuon Newydd: Gall dysgu caneuon newydd fod yn her. Ond, yn union fel y salmydd, rydyn ninnau hefyd eisiau canu o’n calonnau yn ein cyfarfodydd yn hytrach na chanu’n ddistaw bach. (Salm 33:3) Er mwyn dysgu cân newydd, dilynwch y camau syml hyn.

  • Bydd cyfeiliant piano’r gân wedi ei roi ar ein gwefan, felly gwrandewch arno drosodd a throsodd. Mwyaf yn y byd rydych yn clywed yr alaw, mwyaf yn y byd y byddwch yn ei chofio.

  • Astudiwch y geiriau a cheisiwch eu dysgu ar gof.

  • Canwch y geiriau. Gwnewch hyn nes ichi feistroli’r gân.

  • Canwch y caneuon newydd sawl gwaith yn eich Addoliad Teuluol nes i’ch teulu deimlo’n hyderus.

5 Yn ystod y misoedd nesaf, pan fydd cân newydd yn cloi’r Cyfarfod Gwasanaeth, bydd y gynulleidfa’n gwrando ar y recordiad piano unwaith. Yna, bydd y gynulleidfa’n canu gyda’r cyfeiliant piano, fel rydyn ni’n gwneud gyda’n caneuon eraill.

6 Rydyn ni wrth ein boddau yn canu a moli Duw gyda’n gilydd! Felly, pan fydd caneuon yn cael eu cyflwyno yn ein cyfarfodydd Cristnogol, peidiwch â gadael eich seddi’n ddiangen.

7 Gallwn ddangos ein gwerthfawrogiad am ein cerddoriaeth sanctaidd mewn ffordd arall hefyd. Chwaraeir cerddoriaeth cyn i’r sesiynau gychwyn yn ein cynadleddau a’n cynulliadau. Ddwywaith y flwyddyn, mae brodyr a chwiorydd yn teithio o bedwar ban y byd i Patterson, Efrog Newydd, a hynny er mwyn creu cerddoriaeth hyfryd ar gyfer ein haddoliad. Felly, pan fydd y cadeirydd yn gofyn inni eistedd a gwrando ar y gerddoriaeth, dylen ni wneud hynny. Bydd gwneud hyn yn paratoi ein calonnau ar gyfer y wybodaeth sy’n dilyn.

8 Heddiw, byddwn ni’n cloi ein cyfarfod gyda chân newydd sydd â’r teitl “Mae’r Deyrnas Wedi ei Sefydlu—Gad Iddi Ddod!” Cafodd y gân hon ei chwarae yn y cyfarfod blynyddol eleni, ac fe’i chyfansoddwyd i ddathlu canmlwyddiant teyrnasiad Crist.

9 Yn bendant, mae’r caneuon newydd yn “bethau da” gan Jehofa. (Math. 12:35a) Gadewch inni fod yn benderfynol o ddysgu’r caneuon newydd a’u canu o’n calonnau, gan roi i Dduw y moliant y mae’n ei haeddu!—Salm 147:1.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu