Rhannu ‘Pethau Da’ Drwy Fod yn Lletygar (Math. 12:35a)
Heb os, mae pob un ohonon ni eisiau rhannu pethau da drwy fod yn ‘barod ein lletygarwch.’ (Rhuf. 12:13) Mae’r henuriaid yn trefnu i gostau teithio’r siaradwyr gwadd cael eu talu ac yn trefnu lletygarwch ar eu cyfer. Ond, efallai rydyn ni’n dal yn ôl rhag bod yn lletygar oherwydd ein bod ni’n brin o arian, neu efallai rydyn ni’n pryderu am wahodd eraill i’n cartref. Os felly, gall myfyrio ar y cyngor a roddodd Iesu i Martha ein helpu ni. (Luc 10:39-42) Fe bwysleisiodd mai’r “rhan orau” o ddangos lletygarwch yw’r cymdeithasu a’r anogaeth sy’n dod o hynny, yn hytrach na’r bwyd a’r cartref moethus. Drwy roi cyngor y Beibl ar waith, gall pob un ohonon ni rannu ‘pethau da’ â’n brodyr.—3 Ioan 5-8.